En
Apprentices Jesse, Jade and Harry

Wythnos Brentisiaeth Genedlaethol 2021: Dewch i gyfarfod â’r Prentisiaid


12 Chwefror 2021

Daw ein prentisiaid o bobman i ddysgu sgiliau newydd a gwella’u rhagolygon gyrfa. Mae gennym dros 500 o brentisiaid yn astudio yng Ngholeg Gwent. Mae ein prentisiaid yn astudio dros amrywiaeth o feysydd, o Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Osod Brics, a Phlymio i Letygarwch, felly byddwch yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth sydd at eich dant chi. Ar ben hynny, mae’r cyrsiau yn apelio hefyd at bobl o bob oedran, o’r rheiny sy’n gadael ysgol i’r rheiny sy’n ddysgwyr hŷn.

Mae llawer o ddysgwyr yn dewis prentisiaeth oherwydd bod y ffordd o ddysgu a’r amgylchedd yn wahanol i’r hyn a geir mewn ysgol. Felly, mae’n gweddu i ddysgwyr sydd heb fwynhau’r ysgol, yn ogystal â’r rheiny sydd heb fod mewn addysg ers tro.

Dyma Jade

Apprentice Jade Parry

Astudiodd Jade Parry Beirianneg Uwch ac aeth yn ei blaen i fwrw prentisiaeth efo ni hefyd. Drwy fod yn y Coleg, llwyddodd Jade i ennill ei chymhwyster a manteisiodd ar gysylltiadau’r coleg â chyflogwyr lleol i fwrw prentisiaeth efo Thermo Fisher Scientific, yn astudio HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Drydanol a NVQ Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Peiriannau.

Beth oeddech chi’n ei hoffi fwyaf am eich cwrs?

“Mae’n well gen i fy mhrentisiaeth gant y cant yn fwy na mynd i’r ysgol yn llawn amser. Byddaf yn mynd i’r coleg am ddiwrnod yr wythnos ar ddydd Llun, ac yna’n gweithio dydd Mawrth i ddydd Gwener. Mae rhywun yn cael llawer mwy o brofiad ymarferol ac mae’n ysgafnach nag astudio’n llawn amser. Mae ceisio gwasgu’r holl astudio o gwmpas fy ngwaith yn her weithiau, ond mae’r cwmni yn dda iawn ac yn gadael i mi gymryd amser i wneud gwaith coleg.”

Pam wnaethoch chi ddewis Coleg Gwent?

“Roedd gwneud prentisiaeth yn apelio oherwydd y buaswn i’n gallu ennill arian ac astudio ar gyfer fy nghymwysterau ar yr un pryd. Hefyd, ‘does dim rhaid i mi dalu am y cymhwyster, mae rhai ohonynt yn gallu bod yn ddrud iawn. Mae mwy o amrywiaeth o gyrsiau yn y coleg na’r rheiny sy’n cael eu cynnig yn y chweched dosbarth, ac roeddwn i eisiau newid o’r amgylchedd yn yr ysgol efo her newydd a rhywbeth gwahanol. Mae llawer o gyfleoedd hefyd i wneud prentisiaethau yn y coleg. Mae Pennaeth yr Ysgol yn dweud wrth y tiwtoriaid am gyfleoedd i’w pasio ymlaen i ni’r myfyrwyr.”

Gair o gyngor gan brentisiaid eraill…

“Yn bendant, mae peirianneg yn dal i fod yn ddiwydiant i ddynion, ond cymerodd fy nghwmni ferch arall yn brentis iddynt ar yr un pryd, felly yn sicr mae mwy o ferched yn mynd i’r diwydiant nawr. Braf fyddai gweld mwy o ferched yn y maes peirianneg gan fod llawer o bobl yn meddwl mai gwaith i ddyn ydi o oherwydd natur gorfforol y swydd weithiau. Ond mae hyn yn hollol anghywir, mewn gwirionedd mae dynion a merched yn gwneud cystal â’i gilydd.”

Dyma Harry

Apprentice Harry in the workshop

Daeth Harry Hoskins atom i gwblhau ei brentisiaeth Lefel 2 mewn Peirianneg Fecanyddol yng Nghampws Crosskeys tra roedd o’n gweithio i TARMAC. Aeth y cwmni ati i gofrestru Harry yn y coleg iddo allu ennill ei gymhwyster. Dyma sydd ganddo i’w ddweud am ei brofiad:

Beth oeddech chi’n ei hoffi fwyaf am eich cwrs?

“Mae’r sesiynau ymarferol yn ddifyr ac mae’r staff addysgu yn gyfeillgar ac yn barod i helpu. Rydw i’n gallu siarad efo fy nhiwtoriaid am unrhyw beth. Hefyd, ‘does dim o’r cyfarpar sydd yn y gweithdai ar gael yn yr ysgol!”

Pam wnaethoch chi ddewis Coleg Gwent?

“Unwaith i mi adael yr ysgol, gwelais hysbyseb am brentisiaeth efo TARMAC, a chyn gynted ag y dechreuais weithio yno roeddwn i wedi cofrestru yn y coleg i wneud fy mhrentisiaeth.

Rydw i bellach eisiau cwblhau fy nghymhwyster a dal ati i fod yn osodwr a gwneuthurwr chwarel yn cynnal a chadw’r peiriannau. Ond er mwyn gwneud hyn, bydd angen i mi gwblhau lefel 2, yna mynd ymlaen i lefel 3 a HNC, a HND.”

Gair o gyngor i brentisiaid eraill…

“Buaswn i’n dweud y dylech chi gwblhau eich aseiniadau yn brydlon ac i safon uchel. A pheidiwch â bod ofn gofyn am help.”

Dyma Jesse

Apprentice Jesse

Daeth Jesse Moody i Gampws Crosskeys hefyd i fwrw ei brentisiaeth Lefel 2 mewn Peirianneg Fecanyddol ond mae ei hanes yn wahanol i un Harry. Ac yntau’n fab fferm, roedd Jesse wastad wrth ei fodd yn chwarae â pheiriannau, bod wrthi’n brysur, ac yn gwneud pethau ymarferol. Diddordeb Jesse mewn peirianneg ers yn blentyn arweiniodd ato’n gwneud prentisiaeth:

Beth oeddech chi’n ei hoffi fwyaf am eich cwrs?

“Cefais fy nysgu gartref, felly roeddwn i’n teimlo’n nerfus am ddod yn ôl i amgylchedd addysg i fwrw fy mhrentisiaeth. Ond buan iawn y setlais a chefais fy nhrin fel oedolyn pob amser. Mae agwedd y staff a’r myfyrwyr yn dda iawn yn y gweithdai – maen nhw’n eich trin chi yn gyfartal. Roeddwn i wrth fy modd gweithio yn y gweithdai a gwneud pethau ymarferol.”

Pam wnaethoch chi ddewis Coleg Gwent?

“Dewisais Goleg Gwent gan fod well gen i’r gweithdai ar Gampws Crosskeys o gymharu â cholegau eraill, ac roedd sylwadau ffrindiau sy’n astudio yng Ngholeg Gwent yn wych. Dechreuais ar lefel mynediad oherwydd i mi adael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau ond oherwydd fy sgiliau ymarferol, roeddwn i’n gallu symud ymlaen i Lefel 2 a neidio dros Lefel 1. Yn ddelfrydol, hoffwn gael fy ngweithdy fy hun i weithio ar beiriannau bach yn y dyfodol. Felly, ar ôl gorffen Lefel 2, rydw i’n bwriadu mynd ymlaen i Lefel 3 ac efallai gwneud HND hefyd!”

Gair o gyngor i brentisiaid eraill…

“Bwriwch ati efo’r gwaith cyn gynted â phosib – os wnewch chi gwblhau eich gwaith o flaen  yr amser, gewch chi fwy o amser ymarferol yn y gweithdy!”

A yw prentisiaeth yn iawn i chi?

Mae prentisiaethau yn llwybr da os mai eisiau uwch sgilio neu newid eich gyrfa ydych chi. Mae manteision bwrw prentisiaeth yn niferus, ac yn cynnwys ennill cymwysterau cydnabyddedig ochr yn ochr â chyflog. Mae llawer o gyflogwyr lleol hefyd yn gweld gwerth prentisiaeth yn y gweithle, fel Stately Albion, busnes teuluol a gweithgynhyrchwyr hynaf cartrefi mewn parciau yn Ewrop. Yn ôl Robert a Darren, Rheolwyr Cynhyrchu:

“Roeddem ni eisiau gweithio gydag addysg leol a buddsoddi mewn pobl ifanc leol. Bu ein ‘prentisiaethau cychwyn’ y llynedd yn llwyddiant ysgubol ac yn fodd i’n rhoi ni ar y llwybr iawn tuag at gyflawni ein hamcanion.”

Felly, beth am edrych ar ein prentisiaethau heddiw a llwyddo gyda Choleg Gwent?

Chwilio am Brentisiaeth?

Cysylltu â ni i drafod eich opsiynau drwy ffonio 01495 333777 neu anfon e-bost i apprenticeships@coleggwent.ac.uk.