En
Apprentices in the workplace

Y Manteision o Prentisiaeth


9 Chwefror 2021

Gydag Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (8-14 Chwefror) yma, rydym yn taflu goleuni ar brentisiaid ac yn crynhoi popeth mae angen i chi ei wybod, p’un a ydych yn ddarpar ddysgwr neu’n gyflogwr sydd eisiau gwybod mwy.

Pam ystyried gwneud prentisiaeth?

Mae nifer o fanteision i gymryd prentisiaeth os ydych yn berson ifanc sy’n chwilio am eich symudiad gyrfa nesaf. Felly, pam cymryd prentisiaeth?

Ennill wrth ddysgu

Un o fanteision mwyaf prentisiaethau yw eich bod yn gallu ennill incwm ar yr un pryd ag astudio. Mae isafswm cyflog i’r holl bobl ifanc sydd wedi cofrestru ar brentisiaethau, ond mae faint rydych chi’n ei dderbyn yn dibynnu ar eich oedran a pha mor hir rydych chi wedi bod yn gwneud eich prentisiaeth. Efallai y bydd rhai cyflogwyr hyd yn oed yn dewis talu mwy i chi na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol!

Ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol

Nid yn unig y bydd eich cwrs yn rhoi llawer o sgiliau proffesiynol newydd i chi, ond byddwch hefyd yn gadael â chymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol a all fod o fudd i chi am weddill eich gyrfa. Bydd hyn yn cryfhau eich CV ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol yn ogystal ag agor cyfleoedd dilyniant a’r cyflogau uwch y mae hyn yn eu denu.

Symud ymlaen mewn busnes

Gyda’r sgiliau newydd y byddwch yn eu datblygu drwy brentisiaeth, fe welwch yn aml fod cyfleoedd gyrfa newydd yn cyflwyno eu hunain i chi ar ôl cwblhau eich cymhwyster yn llwyddiannus. Bydd cwmnïau’n aml yn cyflogi prentisiaid mewn meysydd lle maen nhw’n profi bwlch sgiliau, sy’n golygu digon o gyfle i chi symud ymlaen i rolau uwch ar ôl cwblhau eich cwrs.

Dim cost i chi

Mantais fawr arall yw nad oes unrhyw gost o gwbl i chi am gwblhau prentisiaeth. Mae cyllid ar gyfer eich dysgu yn cael ei ddarparu gan y llywodraeth, sy’n golygu nad oes angen i chi fod allan o boced er mwyn cyflawni eich cymhwyster.

Pam cymryd prentis?

Mae prentisiaethau’n amlwg yn ddewis gwych i bobl ifanc sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau eu hunain a mynd i fyd gwaith. Ond beth am gyflogwyr? Y newyddion da yw bod llu o fanteision i gyflogi prentis hefyd!

Mae prentisiaethau ar gyfer pawb

Gellir cyflogi prentisiaid ar ystod enfawr o lefelau, o’r rhai sy’n gadael yr ysgol i’r rhai sydd am newid gyrfa yn ddiweddarach mewn bywyd. Gallwch gyflogi rhywun newydd, neu ddewis datblygu sgiliau gweithiwr sydd eisoes yn y cwmni, ac nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran ar fynediad.

Ehangu a datblygu sgiliau eich gweithlu

Mae prentisiaethau’n darparu math cost-effeithiol iawn o hyfforddiant, oherwydd mae prentisiaid yn cyfrannu at y gweithle ar yr un pryd â dysgu a datblygu sgiliau. Mae llawer o waith dysgu prentisiaid yn cael ei gwblhau drwy brofiad yn y gwaith, gyda sesiynau coleg i ategu a chadarnhau eu gwybodaeth.

Gallwch hyfforddi i ddiwallu anghenion eich gweithlu

Ar hyn o bryd mae bwlch sgiliau sy’n effeithio ar lawer o sefydliadau a chwmnïau ledled y DU. Drwy recriwtio a hyfforddi prentisiaid, gallwch helpu eich gweithlu i ddatblygu’r sgiliau penodol rydych chi eu hangen a diogelu eich sefydliad yn y dyfodol a llenwi unrhyw fylchau sgiliau a allai fod gennych.

Ydy prentisiaeth yn swnio fel yr ateb rydych chi wedi bod yn chwilio amdano? Dysgwch fwy am fod yn brentis neu dderbyn prentis gyda Choleg Gwent yr Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau hon.