En
KOREC surveying equipment

Adeiladu dyfodol gwell gydag offer tirfesur o safon y diwydiant


28 Hydref 2021

Mae ein cyrsiau yn Coleg Gwent yn cynnig mwy na dim ond cymhwyster – maent wedi cael eu llunio i’ch paratoi chi ar gyfer adeiladu dyfodol gwell o fewn yr yrfa rydych yn ei dewis. Wrth i ni hyfforddi gweithlu’r dyfodol, rydym eisiau i’n dysgwyr brofi’r datblygiadau newydd o fewn eu diwydiannau, fel eu bod nhw’n fwy tebygol o lwyddo. Mae’r sector adeiladu yn ddiwydiant sy’n datblygu’n gyson, boed hynny drwy ddatblygu deunyddiau newydd neu welliannau mewn peiriannau. Felly, mae buddsoddi mewn offer o’r radd flaenaf yn allweddol o ran helpu ein dysgwyr fod yn ymwybodol o’r newidiadau a’r datblygiadau arloesol diweddaraf yn y sector.

Gyda datblygiadau ac addasiadau newydd mewn golwg, cafodd ein hadran Adeiladu a Pheirianneg Sifil ar Gampws Dinas Casnewydd ddanfoniad cyffrous o offer tirfesur newydd sbon gan KOREC. Mae KOREC yn arbenigwyr o ran darparu datrysiadau mesur o ansawdd arbennig, offer tirfesur a systemau mapio ar gyfer y sectorau peirianneg ac adeiladu yn y DU. Maent yn cyflwyno technoleg arloesol i’r farchnad, ac yn ei gwneud hi’n bosibl i ni gynnig offer o safon y diwydiant ar gyfer dysgwyr ar y campws. Dyma’r math o offer rydym eisiau i chi gael blas ar eu defnyddio wrth i chi astudio yn Coleg Gwent. Bydd hyn yn eich paratoi chi ar gyfer y byd gwaith a dyfodol y diwydiant. Mae’n hollbwysig eich bod chi’n cael cyfle i ddefnyddio’r offer uwch dechnoleg hyn ar ddechrau eich gyrfa, er mwyn dod yn gyfarwydd â’r offer arbenigol y byddwch yn eu gweld yn y gweithle. Mae’r cyfan yn eich helpu chi i ddechrau gweithio ar ôl eich cyfnod yn y coleg.

Oherwydd hyn, rydym wedi prynu pecyn addysgiadol gan KOREC, sy’n cynnwys gorsaf gyflawn robotig Trimble, gorsaf gyflawn â llaw, Nodau Rhwydwaith GNSS, a’r feddalwedd addysgiadol drwyddedig sydd ei hangen i’w defnyddio. Mae Paul Hayes, Tiwtor Adeiladu, wedi gweithio gyda Phennaeth yr Ysgol, Nigel Ridout, a Hyfforddwr Achrededig Trimble o KOREC, i gael yr offer newydd ar gyfer ein myfyrwyr sydd ar flaen y gad o ran technoleg adeiladu y degawd nesaf. Mae Hyfforddwr Trimble Ardystiedig wedi cynnig hyfforddi ein staff i gyfoethogi eu profiadau presennol, a bydd hyn yn ein galluogi ni i roi cyfle i’n dysgwyr ddysgu gyda thiwtoriaid profiadol ac offer o safon y diwydiant.

KOREC surveying equipment

 

Mae’r offer newydd ac arbennig hyn yn ein galluogi ni yn Coleg Gwent i fod yn berthnasol i’r diwydiant, a rhoi’r cyfleoedd dysgu gorau i chi, a hynny dafliad carreg o’ch cartref. Defnyddir yr offer ar gyfer tirfesur topograffig, tirfesur, gwaith mesur onglog a strwythuro adeiladau, sy’n elfennau annatod o’n modiwlau addysg dechnegol ar ein cyrsiau Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig. O ganlyniad i hyn, bydd dysgwyr yn gallu casglu data manwl gywir y gellir ei ddefnyddio i wella eu gwaith dadansoddol cyn cyrraedd y cam dylunio. Fe’i defnyddir hefyd ar gyfer addysgu Tirfesur a Pheirianneg Safle ar bob lefel, hyd at HNC a HND. Golyga hyn y bydd myfyrwyr llawn amser a phrentisiaid yn manteisio ar hyfforddi gyda’r offer hyn, a datblygu dealltwriaeth o’r egwyddorion sydd wrth wraidd eu defnydd.

Mae cyfleusterau newydd ar gael yn Coleg Gwent, ac felly rydym hefyd yn cynnig modiwl prosiect cyffrous ar gyfer ein dysgwyr Lefel 3, fydd yn cynnwys gwaith tirfesur topograffig llawn ar gae ger Crucywel. Dyma gyfle gwych i’n dysgwyr gael defnyddio’r offer newydd a rhoi theori ar waith mewn sefyllfa go iawn. Yn y pendraw, bydd y prosiect yn arwain at brosiect dylunio preswyl a allai, o bosibl, ysgogi cleient i gael ychwanegu darn o dir at Gynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Felly, os oes gennych awydd dilyn gyrfa ym maes adeiladu, Coleg Gwent yw’r lle i wireddu hynny. Cewch eich addysgu gan diwtoriaid arbenigol, a fydd yn rhannu eu sgiliau a’u gwybodaeth, defnyddio offer o safon y diwydiant a manteisio ar gyfleoedd i gyfoethogi eich profiad. Dysgwch fwy am ein cyrsiau Adeiladu a chyflwynwch gais heddiw!