En
engineer your career - year 10 pupils get a taster for engineering at Coleg Gwent

Awydd cael blas ar beirianneg?


5 Gorffennaf 2022

Ddim yn siŵr a yw cymwysterau Safon Uwch yn iawn i chi? Ydych chi erioed wedi ystyried beth arall allwch chi ei wneud ar ôl gadael yr ysgol?

Mae mynd i’r coleg yn ddewis gwych i bawb! Pa un a ydych chi’n awyddus i ddilyn llwyr academaidd Safon Uwch, neu’n dymuno dod o hyd i lwybr gyrfa arall, mae yna gwrs i chi yn Coleg Gwent.

Mae Peirianneg yn un opsiwn o blith llawer y gallwch ei archwilio, felly yn ddiweddar fe wnaethon ni gynnal digwyddiad o’r enw ‘Blas ar Beirianneg’ yng Nghampws Dinas Casnewydd ar gyfer 10 disgybl o ddwy ysgol leol – sef Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff ac Ysgol Basaleg.

Daeth y bobl ifanc draw i’r digwyddiad er mwyn cael cipolwg ar opsiynau amgen ar gyfer eu gyrfa os nad oedden nhw’n awyddus i ddilyn y llwybr academaidd traddodiadol. Rhoddodd gyfle iddyn nhw weld y gweithdai peirianneg a modurol o’r radd flaenaf a’r offer o safon diwydiant sydd gennym yn y coleg, tra’n cymryd rhan mewn tasgau rhyngweithiol llawn hwyl.

Cymerodd y myfyrwyr ran mewn amrywiaeth o weithgareddau a drefnwyd gan ein tiwtoriaid arbenigol, gan roi blas iddyn nhw ar amryw byd o rolau peirianneg. Roedd hyn yn cynnwys chwistrellu ceir â phaent, trwsio teiars, caboli, gloywi a weldio. Bu’n gyfle gwych iddyn nhw gael profiad ymarferol o’r byd peirianneg yn eu coleg lleol.

engineer your career - year 10 pupils get a taster for engineering at Coleg Gwent

Hefyd, rydym yn gweithio gyda rhai o’r sefydliadau peirianneg enwocaf yn Ne Cymru. Mae gennym gysylltiadau â BAE Systems, Thales, Pro Steel Engineering, Tata Steel, Thermo Fisher Scientific a mwy! Yn wir, mae nifer o’n dysgwyr yn dod o hyd i brentisiaethau gyda’r sefydliadau hyn er mwyn cael profiad gwaith tra byddan nhw’n astudio. Gall cwrs peirianneg yn Coleg Gwent agor llawer o ddrysau ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector, er mwyn ichi allu llwyddo yn y byd peirianneg!

Pam ystyried peirianneg fel gyrfa yn y dyfodol?

Os ydych chi’n chwilfrydig ynglŷn â dilyn gyrfa yn y maes peirianneg, dyma 5 rheswm pam mae’n opsiwn gwych i’w ystyried:

  1. Mae yna nifer o wahanol fathau o beirianneg, felly fe allwch chi ddewis maes sydd o ddiddordeb i chi, fel awyrofod, pensaernïaeth, peirianneg fodurol, peirianneg sifil, dylunio, peirianneg drydanol, peirianneg amgylcheddol, bwyd a diod, peirianneg geodechnegol, gweithgynhyrchu, peirianneg forol, olew a nwy, telegyfathrebu, trafnidiaeth a mwy.
  2. Ar gyfartaledd, mae peirianwyr proffesiynol yn ennill mwy nag unrhyw broffesiwn arall, ac mae’r cyflog ar gyfer gweithwyr amser llawn rhwng £30,360 a £51,279!
  3. Rhagwelir y bydd 65 miliwn o swyddi peirianneg ar gael erbyn 2024, ond mae yna brinder gweithwyr crefftus yn y sector peirianneg. Felly, ar ôl ichi ennill eich cymwysterau a dysgu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw, bydd llu o swyddi ar gael ichi.
  4. Mae swyddi yn y maes peirianneg yn cyfateb i 19% o gyfanswm cyflogaeth y DU, ond does dim rhaid ichi weithio i gwmni peirianneg. Caiff sgiliau peirianneg eu defnyddio ym mhob sector, felly mae llawer o bobl sy’n gweithio mewn rolau peirianneg yn gweithio y tu allan i ddiwydiannau peirianneg.
  5. Mae 51% o bobl ifanc 11-16 oed yn dweud y bydden nhw’n ystyried gyrfa yn y maes peirianneg, felly yn amlwg mae’n ddewis poblogaidd, ac mae’r gyfran o blant oedran ysgol sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau gyrfaoedd STEM, fel ‘Blas ar Beirianneg’, yn cynyddu.

Ymgeisiwch nawr i ddilyn cwrs peirianneg yn Coleg Gwent ac ymunwch â ni ym mis Medi i gychwyn ar eich siwrnai tuag at fod yn beiriannydd. Mae’r llefydd yn llenwi’n gyflym, felly peidiwch â cholli eich cyfle!