En
Cyber students take centre stage in JISC conference and smart homes challenge

Myfyrwyr cwrs seiber yn serennu yng nghynhadledd JISC a'r her cartrefi clyfar


8 Rhagfyr 2022

Cafodd dros 80% o sefydliadau’r Deyrnas Unedig eu heffeithio gan ymosodiad seiber llwyddiannus yn 2021/2022!

Boed yn we-rwydo, yn feddalwedd wystlo, yn sbam neu’n faleiswedd; mae seiberddiogelwch yn ddiwydiant mawr. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae’r galw am arbenigwyr seiber yn y DU wedi cynyddu 60%. Felly, mae ein cyrsiau wastad yn addasu i gynnig y cyfleoedd a’r profiadau gorau i chi er mwyn llwyddo yn y sector hwn.

Mae ein rhaglen Cyber College Cymru yn rhoi dyfarniad cyfwerth â thair Lefel A i chi, a hynny wrth i chi fagu sgiliau a dealltwriaeth arbenigol drwy weithio gyda chyflogwyr blaenllaw’r diwydiant. Drwy gyfres o weithgareddau, cystadlaethau a digwyddiadau i gyfoethogi’ch dysg, fel Cynhadledd JISC a’r Her Cartrefi Clyfar, byddwch yn y sefyllfa orau i ddechrau ar eich gyrfa.

Cynhadledd Seiberddiogelwch JISC

Cynhaliwyd cynhadledd Seiberddiogelwch JISC eleni fis Tachwedd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd. Gwahoddwyd Coleg Gwent fel prif lefarwr ac yn rhan o’r panel myfyrwyr. Gan ganolbwyntio ar bynciau llosg y maes amddiffyn seiber, ymchwiliodd y gynhadledd bolisïau dim ymddiriedaeth, gwytnwch seiber, amgylcheddau aml-gwmwl, a rhannwyd awgrymiadau i oresgyn seiberdrosedd hefyd.

Yn ystod y gynhadledd, cyflwynodd ein tîm o arbenigwyr TGCh brif sesiwn ynghylch sut mae’r coleg yn mynd ati i roi isadeiledd TG a pholisïau dan brawf gan ddefnyddio digwyddiadau wedi’u hefelychu a thîm ymateb i ddigwyddiadau. Yn y cyfamser, bu pedwar dysgwr o’n rhaglen Cyber College Cymru ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yn rhan o’r panel myfyrwyr yn trafod addysgu’r genhedlaeth nesaf o ddoniau diogelwch. Ochr yn ochr â’u tiwtor, Mike Aubrey, aethant ati i ateb cwestiynau ynghylch eu gwaith drwy Cyber College Cymru, beth yw gwobr Aur CyberFirst, pam eu bod yn awyddus am yrfaoedd yn y diwydiant seiber, a’r heriau maent wedi’u hwynebu.

Bu’n ddigwyddiad llwyddiannus tu hwnt ac yn gyfle i fyfyrwyr rwydweithio gyda rhai o brif arbenigwyr y diwydiant seiberddiogelwch, yn ogystal ag yn gyfle i’r diwydiant ddysgu amdanynt hwythau a rhaglen Cyber College Cymru hefyd. Gyda diolch i’r gynhadledd, rydym wedi magu cysylltiadau cryfach gyda’r trefnwyr, JISC, a gobeithiwn ddychwelyd yn y dyfodol.

Her Cartrefi Clyfar

Cyber students take centre stage in JISC conference and smart homes challenge

Mae ein dysgwyr Cyber College Cymru wedi cyflawni rhagor o lwyddiant fel rhan o’u her Menter a Chyflogadwyedd Bagloriaeth Cymru, a hynny drwy gymryd rhan mewn tri thîm yn Her Cartrefi Clyfar 2022.

Mae’r prosiect cartrefi clyfar yn her i bob coleg partner sy’n rhan o rwydwaith Cyber College Cymru, a ddaeth i benllanw mewn cynhadledd fer, cyflwyniad o syniadau, a digwyddiad gwobrwyo fis Hydref. Gosodwyd her ar dimau o bob coleg i feddwl am ddatrysiad arloesol yn defnyddio technoleg ddigidol neu systemau monitro i gefnogi preswylwyr neu boblogaethau penodol, megis yr henoed, y bregus, neu’r rheini sy’n denantiaid am y tro cyntaf, i fyw’n annibynnol a defnyddio nodweddion clyfar eu cartrefi. Roedd modd canolbwyntio ar effeithiolrwydd ynni, byw’n annibynnol, neu ddefnyddio technolegau newydd, ac roedd yr her yn annog dysgwyr i feddwl am heriau a datrysiadau sydd â’r potensial i’w rhoi dan brawf yn y byd go iawn.

Yn ystod y prosiect, gallai timau gydweithio â phartner yn y diwydiant neu wneud y prosiect yn fewnol yn eu coleg. Bu’n gyfle gwych i’r myfyrwyr roi damcaniaeth ar waith mewn sefyllfa wedi’i hefelychu, a chyda gwobr ariannol gwerth £7,000 ar gael, gallai’r tîm buddugol roi’r arian tuag at eu maes pwnc yn y coleg neu ddefnyddio’r arian i ddatblygu eu syniad i’r cam nesaf.

Llwyddodd ein dysgwyr Cyber College Cymru i gyflwyno tri chais eleni, ac rydym yn hynod falch o gyhoeddi eu bod wedi ennill y wobr ariannol i gyd. Nawr, maent wedi’u gwahodd i seremoni gyflwyno ym Mhrifysgol De Cymru.

Llongyfarchiadau i’r tri thîm buddugol o Coleg Gwent:

Tîm 1 – Dyfarnwyd â £1,000:

  • Mia Bird (Capten)
  • Rhys Maddox
  • George Evans
  • Alicia Bailey
  • Stephen Hughes
  • Joel Upham

Tîm 2 – Dyfarnwyd â £1,000:

  • Timothy Herridge (Capten)
  • Alex Wright
  • Lewis Rogers
  • Ethan Priddy
  • Tyler Davies

Tîm 3 – Dyfarnwyd â £5,000:

  • Owain Sutton (Capten)
  • Euan Bell
  • Rhys Lewellyn-Holley
  • Tom Thomson
  • Jonathan Conjoice

Paratowch am yrfa allweddol ar gyfer y dyfodol ac ymunwch â’r frwydr yn erbyn seiberdrosedd – porwch ein cyrsiau seiberddiogelwch ymarferol nawr!