En
COP26 meeting with Jayne Bryant and John Griffiths

Dysgwyr Gwleidyddiaeth a Daearyddiaeth yn trafod COP26 gydag Aelodau Senedd lleol


29 Hydref 2021

Gyda Chynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) ar y gorwel, cafodd ein dysgwyr Safon Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth a Daearyddiaeth Safon Uwch gyfle i ystyried yn ddwys yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd ar ôl y gynhadledd. Mae cymaint o agweddau ar newid hinsawdd rydym yn teimlo’n gryf drostynt yn Coleg Gwent, o ymgorffori cynaliadwyedd o fewn ein datblygiadau newydd ar y campws i addysgu gweithlu’r dyfodol ym maes technoleg cerbydau trydan. Yr wythnos ddiweddaf, cafodd ein dysgwyr gyfle unigryw i siarad ag Aelodau Senedd lleol, fydd yn mynychu’r gynhadledd, i rannu eu safbwyntiau ar newid hinsawdd a thrafod y pynciau yr hoffent i’r gynhadledd eu trafod.

COP26 logo

Cafodd John Griffiths a Jayne Bryant, aelodau Senedd lleol, gwrdd yn rhithiol â grŵp o fyfyrwyr i wrando ar y blaenoriaethau a’r materion maen nhw eisiau eu gweld yn cael eu trafod yn y COP26 nesaf. Bydd Jayne a John yn mynychu’r gynhadledd yn Glasgow fel Cadeiryddion pwyllgorau allweddol y Senedd. Yn ogystal â holi eu cynrychiolwyr etholedig, cafodd ein myfyrwyr Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth hefyd eu holi gan John a Jayne, gyda’r drafodaeth yn cynnwys pynciau megis hygyrchedd a fforddiadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus, cymryd camau i fwyta llai o gynnyrch anifeiliaid, a’r protestiadau diweddar gan grwpiau megis Insulate Britain.

Ar ôl y drafodaeth, dywedodd Ffion Burton, Cadeirydd ein Cymdeithas Gwleidyddiaeth eleni: “Mae COP26 wedi rhoi gobaith i ni, y bobl ifanc, fod rhywbeth yn cael ei wneud i frwydro yn erbyn newid hinsawdd, o’r diwedd. Mae angen cydnabod y broblem hon yn fwy nag erioed, ac mae gwledydd ledled y byd angen cydweithio ar adeg mor dyngedfennol. Mae’n braf gwybod bod pobl fel John a Jayne yn gweithio gyda’r genhedlaeth ifanc i ddeall ein safbwyntiau, a lledaenu ymwybyddiaeth o’r mater hwn ymhellach.”

Gyda COP26 yn dechrau ddydd Sul 31 Hydref, roedd y cyfarfod yn gyfle gwych a pherthnasol i’n dysgwyr rannu eu safbwyntiau cyn y gynhadledd. Dyma’r math o brofiadau rydym yn eu plethu i mewn i’n cyrsiau a’n cwricwlwm yn Coleg Gwent i gyfoethogi eich profiadau dysgu.

Labour candidate for Newport East John Griffiths

Dywedodd John: “Mynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd yw’r her fwyaf mae ein cenhedlaeth yn ei hwynebu – nid yn unig yng Nghymru a Phrydain, ond ar draws y byd. Mae COP26 yn gyfle enfawr i wledydd ddod at ei gilydd ac ymrwymo i gydweithio a dod o hyd i ddatrysiadau i leihau allyriadau carbon a diogelu ein hamgylchedd.

Ein pobl ifanc yw’r dyfodol – ac mae’n rhaid i arweinwyr byd wrando arnynt. Mae’n rhaid gweithredu ar eu syniadau i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn y gynhadledd hon. Os methir â gwneud hyn, byddwn yn eu siomi nhw.”

Jayne BryantDywedodd Jayne: “Cafodd John a minnau ein hysbrydoli gan ein trafodaeth â myfyrwyr Coleg Gwent yr wythnos ddiwethaf. Roedd yn gyfarfod gwych, ac mae’n amlwg iawn bod angen gwrando ar safbwyntiau pobl ifanc. Mae’n ddyletswydd arnom ar ran y genhedlaeth hon – a’r cenedlaethau nesaf – i greu dyfodol gwell. Mae’r argyfwng hinsawdd wrth wraidd hynny.

Yn COP26, mae’n rhaid i wleidyddion gael gweledigaeth ac uchelgais i ymdrin â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur. Bydd lleisiau ifanc yng Nghymru’n parhau i fynnu’r pethau hynny ar bob cyfle posibl; mae’n ddyletswydd ar arweinwyr byd i wrando.

Roedd cwrdd ag Aelodau Senedd lleol i drafod COP26 yn caniatáu i’n dysgwyr roi eu dysgu a’u dealltwriaeth o wleidyddiaeth, daearyddiaeth a’r amgylchedd ar waith yng nghyd-destun materion y byd go iawn, gan archwilio sut y gallant gael effaith wirioneddol trwy leisio eu barn. Dysgwch fwy am astudio Llywodraeth, Gwleidyddiaeth a Daearyddiaeth yn ein Digwyddiad Agored nesaf.