En

CBAC Daearyddiaeth UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd a gradd B mewn Daearyddiaeth

Yn gryno

Mae'r cwrs Daearyddiaeth Lefel U hwn yn rhoi trosolwg eang ond addysgiadol ar ein planed a sut mae'n gweithio Yn edrych ar dirweddau a lleoedd, i systemau byd-eang a themâu cyfoes mewn Daearyddiaeth, mae'r Safon Uwch hon yn archwilio Daearyddiaeth ddynol a ffisegol yn fanwl, gan ehangu eich gwybodaeth yn y maes hwn a'ch paratoi ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa.

Dyma'r cwrs i chi os...

...oes gennych ddiddordeb brwd mewn daearyddiaeth ffisegol a dynol

...oes gennych ddiddordeb mewn cadwraeth a dyfodol ein planed

...ydych yn gweithio'n galed ac yn rhagweithiol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn y flwyddyn gyntaf ar Lefel UG, byddwch yn astudio 2 uned:

  • Uned 1 Tirluniau newidiol (A:Tirweddau arfordirol, B: Peryglon tectonig)
  • Uned 2 Llefydd newidiol (A: Llefydd newidiol, B: Ymchwiliad gwaith maes mewn daearyddiaeth ffisegol a dynol)

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn astudio 3 uned a fydd yn arwain at ennill y Lefel U llawn:

  • Uned 3 Systemau byd-eang a llywodraethu byd-eang (A: Systemau byd-eang, B: Llywodraethu byd-eang - newid a heriau, C: heriau'r 21ain ganrif)
  • Uned 4 Themâu cyfoes mewn daearyddiaeth (A: Peryglon tectonig, B: Twf a heriau economaidd yn Tsieina, heriau a phenblethau ynni)
  • Uned 5 Ymchwiliad annibynnol (asesiad 3000-4000 gair heb arholiad)

Mae'r unedau hyn yn mynd i'r afael ag ystod eang o bynciau, sy'n gymhellol a heriol, ac maent yn cyd-fynd yn dda â chyrsiau Safon Uwch eraill yn y Dyniaethau, Ieithoedd neu Wyddorau.

Mae'r cyrsiau Lefel UG ac U yn darparu cyfleoedd gwaith maes neu ymchwil trylwyr. Dylai'r cwrs eich cyfarparu chi ag ystod o sgiliau, dealltwriaeth a gwybodaeth, sy'n ddefnyddiol mewn cyflogaeth neu addysg uwch.

Dylai myfyrwyr gwblhau'r cwrs UG yn llwyddiannus cyn ymgymryd â Lefel U llawn. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr Lefel A yn parhau i addysg uwch, tra bo eraill o'r farn bod Daearyddiaeth yn hynod ddefnyddiol ar gyfer cyflogaeth. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, a Gradd B mewn Daearyddiaeth.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae nifer o gyrsiau prifysgol ar gael sy'n ymwneud ag astudiaethau daearyddol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol a theithiau maes.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Daearyddiaeth UG Lefel 3?

CFAS0122A1
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr