En
Career college computing and digital technology learners

Dysgwyr Career Colleges yn rhagori mewn cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol


8 Gorffennaf 2021

Fel coleg sydd wedi ymrwymo i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o dalent ddigidol, mae ein cwrs Career Colleges yn cael ei ddatblygu a’i ddysgu er mwyn bodloni anghenion cyflogwyr, sy’n golygu ei fod yn ddewis poblogaidd i lawer o ddysgwyr sydd eisiau dilyn gyrfa mewn rhwydweithiau cyfrifiadurol a diwydiannau digidol. Eleni, mae 26 o’n dysgwyr angerddol ac uchelgeisiol wedi cwblhau Diploma Cenedlaethol Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Technolegau Digidol y Career Colleges ac mae pob un o’r dysgwyr wedi rhagori yn eu hastudiaethau, gan roi sylfaen dda iddynt ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y dyfodol.

Eleni, rydym yn hynod falch o’n dysgwyr sydd wedi gweithio’n galed ac wedi llwyddo ar y cwrs, gyda 100% o’r rhai a ymgeisiodd mewn arholiadau yn llwyddo mewn steil! Mae hyn yn llawer uwch na data meincnodi rheolaidd Pearson, ac mae Pennaeth yr Ysgol, Tom Corrigan o’r farn mai eu profiad gyda’r Career Colleges sy’n gyfrifol am lwyddiant rhagorol y dysgwyr hyn.

Mae cwrs BTEC mewn Technolegau Digidol y Career Colleges yn darparu hyfforddiant galwedigaethol i ddysgwyr ochr yn ochr ag ennill profiad o’r byd go iawn yn eu diwydiant, fel bod modd iddyn nhw weld perthnasedd y theori a’i chymhwyso yn ymarferol yn y gweithle. Mae llawer mwy i’r cyrsiau hyn nag astudio yn y dosbarth, ac mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol ochr yn ochr â dysgu’r theori sy’n sail i’r cyfan.

Mae nifer o rolau y galli di eu hystyried gyda chymhwyster mewn Technoleg Ddigidol! Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i osod disgwyliadau a safonau uchel, felly rydym yn hyderus y bydd ein dysgwyr yn gadael y coleg gyda’r casgliad o sgiliau a’r ansawdd y mae’r cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Caiff dysgwyr brofiad o senarios o’r byd go-iawn a phrosiectau ble maent yn gallu rhoi eu gwybodaeth a’u hymarfer ar waith yn y gweithle, ac mae’r dull cyfunol hwn yn helpu i lenwi’r bylchau sgiliau sy’n wynebu cyflogwyr lleol. Yn ogystal â hynny, mae dysgwyr yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd megis blaenoriaethu, dibynadwyedd a rheoli amser trwy gydol y cwrs, gan ddatblygu eu hyder a’u gallu er mwyn sicrhau eu bod yn barod am waith pa fyddant yn ymuno â’r gweithlu.

Cwrdd â’r dysgwyr

Felly, beth sydd gan ein dysgwyr i’w ddweud am eu profiad yn astudio ar gyfer Diploma’r Career Colleges mewn Technolegau Digidol?

Dywedodd Zacory Phillips o Dŷ-du;

“Dewisais i fy nghwrs am fod gen i ddiddordeb wedi bod mewn cyfrifiadura erioed. Gwnes i fy rhaglen gyntaf pan o’n i’n 11 oed a dw i wedi cydio yn y sgil yma fyth ers hynny. Roedd y modiwlau’n berffaith ar gyfer fy anghenion a fy niddordebau, ac ro’n i wrth fy modd â’r cyfleusterau oedd ar gael i ni. Roedd yr ystafelloedd ar gyfer fy nghwrs yn y flwyddyn gyntaf yn newydd ac wedi’u creu’n arbennig ar ein cyfer ni, felly roedden ni’n teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi fel myfyrwyr. Roedd yr athrawon yn fendigedig ac yn darparu ar gyfer unrhyw beth y gallen ni fod wedi gofyn amdano ac yn gweithio gyda’r holl anghenion roedden ni’n eu gosod. Roedd y system gefnogi oedd gan fy adran yn ddi-fai hefyd. Roedden nhw’n gallu hwyluso unrhyw beth yr oedden ni’n gofyn amdano ac ar gael bob amser os oedd angen help arnon ni. Drwyddi draw, canolbwyntiodd fy adran eu sylw ar unrhyw anghenion oedd gen i ac fe helpon nhw fi i gyflawni fy amcanion. Yr addysgu a’r system gefnogi oedd yr uchelgais i mi, mae’n debyg, oherwydd y ces i weld bod eu myfyrwyr a’u perfformiad yn wirioneddol bwysig i’r athrawon a’r adrannau, tra’i bod yn ymddangos fel petai’r cyfan yn troi o amgylch ystadegau yn yr Ysgol Uwchradd / Chweched Dosbarth yn hytrach na chynnydd a thwf y myfyrwyr.  Os ydych chi’n dwlu ar gyfrifiaduron a thechnoleg, byddwch chi’n dwlu ar y cwrs yma.”

 

Yn y cyfamser, eglurodd Alex Jones o Six Bells;

Learner Alex Jones“Mae gen i dipyn o awch dros gyfrifiadura, ac roedd cael cwrs oedd yn seiliedig yn fwy ar aseiniadau yn gweddu i fi. Gwelais i bod y cwrs wedi rhoi amrywiaeth eang o wybodaeth i mi ynglŷn â chyfrifiadura, gan fy ngalluogi i fynd yn ddyfnach i mewn i is-gategorïau. Heb sôn am yr athrawon sy’n eich gwthio a’ch cefnogi’n gadarn ac yn sicrhau ar yr un pryd eich bod yn y man iawn yn feddyliol. Galluogodd Coleg Gwent fi i deimlo’n fwy annibynnol trwy ganiatáu i mi wisgo fel y dymunaf a mynegi fy hunaniaeth unigol, a chaniatáu i mi ddewis fy mhynciau fy hun, a roddodd fwy o reolaeth i mi dros fy addysg. Eleni, rwy’n mynd ymlaen i’r brifysgol ac wedyn am fod yn beiriannydd meddalwedd. Rwy’n teimlo bod y coleg wedi fy nghynorthwyo i ganfod fy llwybr a’r hyn sy’n gweithio orau i mi, gan fy ngalluogi i wthio ymlaen gyda’r hyn sy’n fy nghyffroi. Dw i’n credu bod y gefnogaeth yn help anhygoel, yn enwedig i’r rhai sydd ag anableddau – roedd y gefnogaeth a ges i yn rhagorol ac fe wthiodd fi i fod yn agored ynglŷn â’r brwydrau ro’n i’n eu hwynebu.”

 

Ydy cyfrifiadura’n dy gyffroi di hefyd? Lansia dy yrfa mewn technoleg ddigidol trwy ganfod ein Diploma Cenedlaethol Estynedig BTEC Career Colleges mewn Technolegau Digidol.

Ymgeisia nawr i gael ymuno â ni fis Medi yma!