En
Tegan Davies from Torfaen Learning Zone

Tegan Davies, sydd ag uchelgais i fod yn awdur, yn trafod bywyd coleg, hyder ac amcanion ar gyfer y dyfodol


22 Chwefror 2021

Cwrdd â’r dysgwr

Enw: Tegan Davies
Cartref:
Cwmbrân
Cwrs:
UG/Safon Uwch – Y Cyfryngau, Llenyddiaeth Saesneg, Y Gyfraith, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
Campws:
Parth Dysgu Torfaen

Fel rhywun sy’n mwynhau ysgrifennu traethodau a dadansoddi fel rhan o’i dysgu, Safon Uwch oedd y llwybr delfrydol i Tegan, a ddewisodd astudio ym Mhorth Dysgu Torfaen. Gydag uchelgais i fod yn  awdur yn y dyfodol, mae gan Tegan ddiddordeb yn y gyfraith, gwleidyddiaeth a’r cyfryngau hefyd, felly mae ystod o bynciau Safon Uwch yn ei chadw’n ddiddan.

Pam y dewisoch chi Coleg Gwent?

“Dewisais Coleg Gwent am fy mod i eisiau cydbwysedd da rhwng fy nysgu a fy mywyd preifat, felly gyda choleg gerllaw sydd wedi cael adolygiadau gwych, roedd yn ddewis hawdd. Doeddwn i ddim eisiau teithio’n bell, achos yn yr ysgol uwchradd roedd yn rhaid i mi godi am 5am, a gafodd effaith niweidiol ar fy iechyd meddwl a fy astudiaethau yn y pen draw. Felly, mae gallu deffro a bod pum munud i ffwrdd o’r coleg yn wych i mi. ”

Beth oeddech chi’n ei hoffi fwyaf am y cwrs ac astudio yng Coleg Gwent?

“Mae’n bleser dod i’r coleg bob dydd i astudio’r hyn sy’n mynd â ’mryd i. Rwy’n cael treulio amser gyda fy ffrindiau yn dysgu ac yn gwneud yr hyn rwy’n ei garu, sy’n ddelfrydol i mi. Rwy’n hoffi’r gwaith ysgrifennu sy’n rhan o’m pynciau i gyd – rwy’n astudio ystod o bynciau diddorol iawn ac yn hoff iawn o’r modiwlau rydyn ni wedi’u gwneud hyd yn hyn. Mae fy athrawon i gyd yn hyfryd a chymwynasgar iawn, ac a dweud y gwir, mae’r gefnogaeth rwy’n ei chael gan bob un ohonyn nhw yn berffaith.

Mae yna lawer o bethau cadarnhaol ynglŷn ag astudio yng Coleg Gwent. Mae fy athrawon i gyd yn hyfryd a hyblyg o ran eu ffyrdd o addysgu. Maen nhw i gyd yn hynod o ddeallus ac rwy’n eu hedmygu’n fawr – rwy’n dysgu cymaint ym mhob gwers sy’n fy mharatoi ar gyfer fy arholiadau ac astudiaethau pellach. Mae ’na gyfleusterau anhygoel ym Mharth Dysgu newydd Torfaen, a chyn gynted ag y bydd y llywodraeth yn caniatáu hynny, alla’i ddim aros i fynd yno.

Mae hefyd yn braf iawn bod y coleg wedi sefydlu grŵp LGBTQ + i ni, oherwydd yn yr ysgol uwchradd, roedd hyn rhywbeth oedd yn rhaid i ni ei guddio.”

Beth yw eich nodau tymor hir?

“Ar ôl gadael coleg, fy uchelgais yw mynd i brifysgol Ivy League / Grŵp Russell – yn ddelfrydol i Goleg Lincoln yn Rhydychen i astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg. Ar ôl hynny, byddwn i wrth fy modd bod yn awdur o ryw fath, gan gyhoeddi llyfrau ffuglen. Hyd yn hyn mae Coleg Gwent wedi fy mentora trwy fy nhiwtor personol i wir gredu ynof fi fy hun a dechrau cynllunio fy nyfodol fel fy mod i’n llwyddiannus.”

Beth yw eich cyflawniad mwyaf hyd yn hyn?

“Yn y coleg, enillais wobr am gyrhaeddiad eithriadol yn ystod y tymor yma. Yn gyffredinol, rwyf wedi ennill gwobrau am ysgrifennu yn yr ysgol uwchradd, ac wedi cael 7A* a 5A ar lefel TGAU.”

A wnaethoch chi wynebu unrhyw heriau cyn mynychu Coleg Gwent?

“Cyn dechrau coleg, cafodd COVID-19 ei gyhoeddi fel pandemig byd-eang ac o ganlyniad roedden ni mewn cyfnod clo am fisoedd. Collais fy ychydig fisoedd olaf yn yr ysgol uwchradd, a fyddai wedi cynnwys arholiadau, taith ysgol i Rufain a’r Fatican, a hyd yn oed prom. Roedd y rhain i gyd yn bethau wnaeth effeithio arna’i gan ’mod i’n teimlo fy mod i’n colli rhannau hollbwysig o fy arddegau oherwydd y coronafeirws.

Fodd bynnag, un peth oedd yn sicr oedd fy mod i wedi cael fy nerbyn i Coleg Gwent. Trwy gydol y cyfnod pontio anodd, cefnogodd Coleg Gwent fi a ’ngwneud i’n sicr o fy newisiadau. Felly, er i’r cyfnod pontio ymddangos yn un anodd i ddechrau, sicrhaodd y coleg ei fod yn un cymharol syml. ”

A oes gennych gyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio yng Coleg Gwent?

“Peidiwch â phoeni gormod a ydych chi wedi gwneud y dewisiadau cywir ai peidio. Os na fyddwch chi’n mwynhau pwnc ar ôl ychydig wythnosau, gallwch ei newid. Fe wnes i hynny gyda Ffotograffiaeth a Gwleidyddiaeth, a dyna oedd y penderfyniad gorau.

Hefyd, byddwch yn chi’ch hun. Roedd pobl yn gwneud hwyl ofnadwy ar fy mhen i yn yr ysgol uwchradd oherwydd y ffordd roeddwn i’n edrych ac yn gwisgo, a fy niddordebau. Pan ddes i’r coleg, roeddwn i’n gwisgo’n union sut roeddwn i eisiau gwisgo heb gael fy nal yn ôl gan wisg ysgol, a dod o hyd i gymaint o bobl eraill oedd â diddordeb mewn pethau tebyg. Rwyf wedi magu cymaint o hyder ers ymuno â Coleg Gwent ac erbyn hyn rwy’n ddigon dewr i siarad o flaen y dosbarth, siarad gyda phobl ddieithr, ac amddiffyn fy hun heb ofni beth fydd pobl eraill yn ei feddwl.”

Yn Coleg Gwent, rydym yn gymuned gyfeillgar, groesawgar ac amrywiol lle mae pawb yn gallu bod yn nhw eu hunain wrth ddysgu a chyrraedd eu potensial. Mae Safon Uwch yn llwybr gwych ar gyfer dysgwyr fel Tegan sy’n chwilio am bynciau amrywiol ac arddull ddysgu academaidd. Ond mae ein hystod eang o brentisiaethau a chyrsiau galwedigaethol poblogaidd yn cynnig dull mwy ymarferol ar gyfer y rheini sy’n chwilio am lwybr mwy ymarferol. Dewch o hyd i’r cwrs sy’n iawn i chi yn ein rhith-ddigwyddiad agored nesaf neu gwnewch gais trwy ein gwefan heddiw.