En
Access your future as an adult learner

Mentrwch i’ch dyfodol fel oedolyn sy’n ddysgwr


30 Medi 2022

Os gwnaethoch adael yr ysgol flynyddoedd yn ôl ond eich bod yn awyddus bellach i newid eich gyrfa neu ddatblygu eich sgiliau drwy astudiaeth bellach, mae’r coleg yn ddewis gwych i chi. Yn arbennig ein cyrsiau Mynediad at Addysg Uwch!

Cyrsiau mynediad yw eich llwybr at radd, ac mae gennym gymuned gynyddol o oedolion sy’n ddysgwyr yn astudio rhaglenni Mynediad yn y coleg. Maent yn ailgyflwyniad gwych i’r ystafell ddosbarth os nad ydych wedi bod yn y byd addysg ers peth amser, neu os ydych yn chwilio am her newydd i ehangu eich gorwelion. Mae’n gyfle i chi loywi eich sgiliau astudio, datblygu eich gwybodaeth, magu eich hyder, ac ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y brifysgol. Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio er mwyn eich cefnogi a’ch paratoi chi ar gyfer astudiaeth lefel gradd neu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa â hyder, er mwyn sicrhau eich bod yn llwyddo yn Coleg Gwent.

Cyrsiau hyblyg rhad ac am ddim

Gwyddom y gall ffitio addysg i mewn i’ch bywyd prysur fod yn heriol. Ond rydym yma i’ch cynorthwyo chi i gydbwyso eich ffordd o fyw a’ch cefnogi i gyflawni eich nodau. Gallwch astudio cwrs Mynediad ar sail llawn amser neu ran amser uwch (mae rhan amser uwch yn golygu y gallwch astudio cwrs llawn amser mewn llai o oriau), ac ar ben hynny, mae’r cyrsiau’n rhad ac am ddim!

Mae ein tiwtoriaid yn deall bod gennych efallai ymrwymiadau eraill yn eich bywyd, megis gofal plant neu waith. Felly, maent wrth law i gynnig arweiniad ar y math o gymorth neu gefnogaeth sydd ar gael. Gan fod ein cyrsiau mor hyblyg, mae llawer o’n myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Yna nid oes rhaid iddynt ychwaith boeni am y costau o dalu am eu hastudiaethau, diolch i’n cyrsiau rhad ac am ddim.

Dechrau rhywbeth newydd

Mae ein cyrsiau Mynediad wedi eu cynllunio er mwyn i oedolion sy’n ddysgwyr gael mynediad at amrywiaeth eang o yrfaoedd.  Mae ein rhaglenni yn ymestyn dros sectorau megis nyrsio, plismona, gwyddor fforensig, gwaith cymdeithasol, addysg, seicoleg a gwyddoniaeth, yn ogystal â chwrs Mynediad at Feddygaeth newydd sbon hefyd. Mae’r rhaglen Mynediad at Feddygaeth yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n awyddus i wneud cais am gwrs meddygaeth yn y brifysgol ond sydd heb ennill y graddau angenrheidiol yn eu harholiadau Safon Uwch diweddar. Cafodd ei gymeradwyo gan Brifysgol Caerdydd ymysg eraill, felly mae’n gymhwyster uchel ei barch a dderbynnir ar gyfer mynediad i ysgol feddygol.

Felly, os ydych wedi bod allan o’r ystafell ddosbarth ers peth amser neu heb ennill y graddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y brifysgol, mae yna ddewisiadau gwych ar gael i chi yn Coleg Gwent!

Llwybr at lwyddiant

Dychwelodd dros 180 o oedolion sy’n ddysgwyr i’r coleg y llynedd gan lwyddo i gwblhau eu cyrsiau Mynediad at Addysg Uwch gyda Coleg Gwent. Maent bellach yn mynd ymlaen i’r brifysgol i astudio eu cyrsiau gradd diolch i’r graddau y gwnaethant eu hennill a’r sgiliau y gwnaethant eu dysgu yn ein coleg, sydd yn un o’r colegau sy’n perfformio orau.

Gwelsom ganlyniadau rhagorol ar draws bob un o’n campysau yn ein llwybrau Mynediad y llynedd:

  • Llwyddodd 48% o’n myfyrwyr i ennill cyfwerth â thair gradd Safon Uwch TAG o A, B, B (neu uwch)
  • O’r rhain, enillodd 20 o’n myfyrwyr raddau Rhagoriaeth ym mhob un o’r ddau ar bymtheg asesiad Lefel 3 graddedig
  • Mae’r mwyafrif helaeth o’n dysgwyr nawr yn symud ymlaen at gyrsiau AU, gan gynnwys meysydd sydd â phrinder o sgiliau o fewn Gofal Iechyd a Gwyddor Iechyd.

Nid yw byth yn rhy hwyr i ddychwelyd at addysg a newid eich rhagolygon neu lwybr gyrfa yn hwyrach mewn bywyd. Cofiwch nad yw dal yn rhy hwyr i ymuno â chwrs Mynediad at Addysg Uwch yn y coleg Felly, cymerwch y camau cyntaf tuag at ennill eich gradd a gwnewch gais nawr er mwyn gwireddu hyn yn Coleg Gwent!