Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau cyffredin i fyfyrwyr llawn amser

Mae gennym ddigwyddiadau agored rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, wedi’u dylunio i roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud yn siŵr eich bod yn dewis y cwrs iawn i chi ac yn darganfod pa gymorth ariannol sydd ar gael. Byddwch yn dod o hyd i fanylion ein digwyddiadau agored yma. Yn wir, pam na wnewch chi gofrestru nawr ac arbed amser ar y diwrnod?

Ar gyfer unrhyw un o’n cyrsiau llawn amser gallwch ymgeisio’n syth bin.  Delir â cheisiadau ar sail y cyntaf i’r felin, felly mae cyflwyno eich cais cynted ag y gallwch yn rhoi cyfle gwell i chi o gael cynnig lle.

Os ydych yn gwybod pa gwrs yr hoffech ei ddilyn, gallwch bori drwy gyrsiau yn ôl pwnc neu ddefnyddio ein harf chwilio cyrsiau ar yr ochr dde a chliciwch ar yr enw am fwy o fanylion.  Os hoffech ychydig o ysbrydoliaeth, bydd ein fideos diweddaraf yn eich helpu i archwilio eich opsiynau gyrfa a dangos i chi beth mae myfyrwyr presennol yn ei wneud.

Unwaith yr ydych wedi penderfynu ar eich cwrs, cliciwch ‘gwneud cais’ ar waelod tudalen y cwrs. Os dyma’r tro cyntaf i chi gyflwyno cais ar-lein, bydd gofyn i chi wneud cyfrif gan ddewis enw defnyddiwr a chyfrinair.

Dim ond un cais yr ydym yn ei gymryd ar y tro, ond os ydych yn penderfynu os nad yw’r cwrs yr ydych yn ei ddewis yn iawn i chi yn ystod y broses, gallwn newid eich cais.

Yn gyntaf, byddwch yn cael cynnig amodol ac yn cael gwahoddiad i ddod i’n gweld.  Mae’n rhyw fath o ‘gyfweliad’ anffurfiol, lle byddwch yn cael mwy o wybodaeth am eich cwrs a byddwch yn cael y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau i wneud yn siŵr eich bod ar y cwrs iawn. Ar gyfer rhai cyrsiau, mae’n bosibl y gofynnir i chi gwblhau asesiad neu gymryd rhan mewn clyweliad.  Felly, byddwn yn rhoi mwy o fanylion i chi pan fyddwn yn cynnig lle i chi.

Os nad ydych wedi clywed rhywbeth o fewn wythnos i ymgeisio, rhowch ganiad i’r tîm Derbyniadau ar 01495 333777. Byddant yn gallu rhoi gwybod i chi beth yw statws eich cais a beth fydd yn digwydd nesaf.

Byddwch yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau am y cwrs yr ydych wedi ei ddewis pan fyddwch yn dod am gyfweliad anffurfiol. Meddyliwch am y pethau yr hoffech ofyn, gan ddefnyddio’r holiadur cyn cyfweliad yr ydym yn ei anfon atoch i’ch helpu. Os byddwch yn newid eich meddwl am eich cwrs tra’r ydych yn sgwrsio â ni, gallwn drefnu i’ch cais gael ei newid.

Rhaid i chi gael cyfweliad – mae’n amod o gael cynnig lle.  Os na allwch ddod i’ch apwyntiad, rhowch ganiad i’n tîm Derbyniadau ar 01495 333777 a byddwn yn ei aildrefnu.

Na, rhaid i chi dderbyn eich cynnig a bodloni’r amodau i sicrhau eich lle.  Byddwch hefyd angen cofrestru cyn dechrau’r tymor, a byddwn yn rhoi gwybod i chi ym mis Gorffennaf pryd fydd angen i chi gofrestru, a fydd rhyw bryd ym mis Awst.

Nid oes ffioedd dysgu ar gyfer unrhyw un o’r cyrsiau addysg bellach llawn amser, ond os ydych yn ddysgwr llawn amser, bydd rhaid i chi dalu ffi weinyddol o £10 pan fyddwch yn cofrestru.  Gall fod yna gostau eraill i’w talu, megis ffioedd aelodaeth, ffioedd stiwdio, ffioedd salon a ffioedd arholiadau.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y rhain pan fyddwch yn dod am eich cyfweliad. Gallwch ddarganfod mwy am gael cymorth gyda chostau a chymorth ariannol bryd hynny, neu gallwch gysylltu â’n tîm Derbyniadau yn syml ar 01495 333777 am fwy o wybodaeth.

Ar gyfer rhai cyrsiau byddwch angen dillad neu offer hanfodol, megis offer diogelwch, setiau trin gwallt a harddwch, gwisg neu lyfrau.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw beth fydd ei angen arnoch yn ystod eich cyfweliad, ond os ydych yn ansicr, bydd ein tîm Derbyniadau yn barod i helpu ar 01495 333777.

Mae amseroedd cyrsiau yn amrywio, ond dylech ddisgwyl bod yn y coleg o ddydd Llun tan ddydd Gwener, unrhyw dro rhwng 9am-5pm.  Byddwch yn dod i wybod am yr union ddyddiau ac amseroedd ar gyfer eich cwrs pan fyddwch yn cael eich amserlen adeg cynefino.

Os ydych eisoes wedi ymgeisio ac wedi cael eich cyfweliad a’ch cynnig, byddwn yn anfon llythyr atoch yn eich gwahodd i sesiwn gofrestru.   Os nad ydych wedi ymgeisio eto, nid yw hi’n rhy hwyr i ymuno â ni ym mis Medi.  Cofrestrwch ar-lein nawr neu ffoniwch ein tîm Derbyniadau ar 01495 333777 a byddant yn rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud.

Bydd eich gwahoddiad i gofrestru yn cynnwys manylion o beth sydd angen i chi ddod gyda chi.  Fel arfer, byddwch angen:

  • Un ffurf o adnabyddiaeth bersonol, e.e. pasbort, cerdyn yswiriant gwladol
  • Eich rhif yswiriant gwladol
  • Llythyr teithio gan eich awdurdod lleol (os yw hynny’n berthnasol) a’r ffi weinyddol ar gyfer eich pàs bws (£10.00 i unigolion 16-18 oed, a £40.00 i unigolion 19 oed neu hŷn)
  • Eich ffi weinyddol dysgwr (£10.00) taladwy gan yr holl ddysgwyr llawn amser
  • Eich taflen canlyniadau arholiadau neu dystiolaeth o gymwysterau i ddangos eich bod yn bodloni amodau eich cwrs
  • Unrhyw ffioedd cwrs neu Gyfarpar Diogelu Personol os yw hynny’n ofynnol

Ar ôl ymrestru ym mis Awst, byddwch yn cael gwybod mwy am eich gwersi cyntaf a’ch amserlen ar gyfer mis Medi, a fydd ar gael ar yr ap myfyriwr CG Connect.

Lawrlwythwch yr ap nawr.

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, rhowch ganiad i’n tîm Derbyniadau ar 01495 333777.  Byddant yn trefnu sesiwn gyfweld arall i’ch helpu i benderfynu pa gwrs sy’n iawn i chi. Os ydych eisoes wedi cofrestru a dechrau yn y coleg, gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â ni cyn gynted ag ydych yn dechrau cael unrhyw amheuon.  Os yw hyn o fewn chwe wythnos i chi ddechrau, cysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch trosglwyddo i gwrs mwy addas. Os yw hyn ar ôl y chwe wythnos gyntaf, gallwch gael cymorth a chyngor unrhyw bryd drwy siarad â’n Tiwtor Personol, Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr neu Wasanaethau Dysgwyr ar eich campws

Cymorth ariannol a thrafnidiaeth

Mae yna lawer o grantiau a chymorth ariannol ar gael, y mae llawer ohono yn dibynnu ar incwm eich cartref ac amgylchiadau personol.  Am fwy o fanylion, ffoniwch eich campws agosaf neu cysylltwch â’r tîm Derbyniadau ar 01495 333777.

Os ydych rhwng 16 a 18 oed ac yn byw’r tu allan i Sir Fynwy, gallwch wneud cais i’ch awdurdod lleol (LEA) am bàs bws.  Os ydych yn byw yn Sir Fynwy, gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r coleg yn ystod cofrestru a thalu £10.00 y tymor, yn ogystal â £1.50 pob taith sengl.  Os ydych yn hŷn na 18 oed, gallwch wneud cais am bàs bws rhatach Coleg Gwent yn ystod cofrestru a thalu £40.00 y tymor, yn ogystal â £1.50 pob taith sengl.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys am gymorth gan ein Cronfa Cymorth Dysgwyr (LSF) a allai helpu gyda chost eich pàs bws.  Cysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr yn eich campws am ffurflen gais.  Os ydych rhwng 16 a 18 oed, mae angen i chi wneud cais o hyd i’ch awdurdod lleol.

I gynllunio eich llwybr gorau, ewch i wefan Traveline.

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau