En

Canlyniadau o Safon

Adroddiad a chanlyniadau diweddaraf Estyn

Mae’r adroddiadau a chanlyniadau swyddogol yn adlewyrchu’r ymrwymiad a dawn ein staff a myfyrwyr gwerthfawr.

Yn ôl Adroddiad Deilliannau Dysgwyr 2018 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, Coleg Gwent:

  • yw un o’r colegau sydd yn perfformio orau yng Nghymru am y bedwaredd mlynedd yn olynol
  • rhannu’r safle uchaf o ran cymwysterau galwedigaethol
  • rhannu’r safle uchaf o ran prif gymwysterau
  • canlyniadau uwch na’r gyfradd llwyddo genedlaethol am dair blynedd yn olynol
  • 18 o wahanol feysydd sector pwnc wedi’u categoreiddio fel ‘rhagorol’ ar gyfer prif gymwysterau – nid oes yr un coleg arall wedi cyflawni cymaint â hyn!

Ni yw’r coleg cyntaf yng Nghymru i dderbyn canmoliaeth ‘Dda’ ym mhopeth yr ydym yn ei wneud yn ôl fframwaith arolygu newydd Estyn (Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant Yng Nghymru) (2018). Roedd yr adroddiad yn cydnabod ein cryfderau canlynol:

  • y cymorth rydym yn darparu ar gyfer dysgwyr, yn enwedig myfyrwyr bregus
  • ein cyfradd llwyddiant cynyddol ar gyfer y prif gymwysterau galwedigaethol
  • darparu llwybrau datblygu addas ar gyfer ein dysgwyr (yn bennaf, cyfuno adborth gan gyflogwyr lleol a sgiliau hanfodol rhanbarthol i mewn i’n cynllunio)

Gallwch ddarllen yr adroddiad ar-lein, neu am ragor o wybodaeth ar ein canlyniadau lefel A diweddaraf, cliciwch yma.