En

Canolfan Sgiliau Oedolion

Group of students sat around a table enjoying a snack and using tablets

Mae’r cyfleusterau yng Nghanolfan Sgiliau Oedolion Coleg Gwent, Brynbuga, yn cynnig popeth sydd ei hangen ar oedolion sydd ag anableddau dysgu ysgafn i gymedrol i ddatblygu sgiliau, cymdeithasu ag eraill a chyflawni eu potensial. Yma, gallant fwynhau’r llefydd agored a lleoliad gwledig diogel, gyda staff profiadol a chymwys yn gwneud y profiad yn un hwyliog, cyfeillgar ac ystyrlon.

Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol ac yn uniongyrchol gydag unigolion ers dros 30 mlynedd, yn addasu profiad pob myfyriwr ar gyfer eu hanghenion unigol nhw, a’u helpu i ddatblygu llu o sgiliau:

Sgiliau Cymdeithasol ac Annibyniaeth
Magu hyder, datblygu meddwl annibynnol, gwneud penderfyniadau da a chymryd cyfrifoldeb

Iechyd a diogelwch
Gan gynnwys diogelwch yn y cartref, yn y gwaith, llesiant a hylendid personol

Coginio a pharatoi bwyd
Paratoi prydau a byrbrydau iach, siopa am gynhwysion a phobi cacennau

Garddwriaeth
Plannu, dyfrio, potio, bwydo, meithrin a chynaeafu planhigion, blodau a llysiau

Gofal Anifeiliaid
Pob agwedd ar ofalu am ein ffrindiau blewog

Cyfrannu at y Gymuned
Cymryd rhan mewn prosiectau cymunedol lleol, cyfleoedd gwirfoddoli a digwyddiadau cymdeithasol

Mynediad i addysg

Mae nifer o’n myfyrwyr yn cael eu cefnogi i gyflawni eu hamcanion. Mae targedau unigol yn cael eu gosod ar eu cyfer, yn canolbwyntio ar feithrin, datblygu a chynnal sgiliau bywyd. Mae myfyrwyr yn dysgu heb bwysau mewn lleoliad holistig lle maent yn teimlo’n gyfforddus ac yn hyderus i ddatblygu.

Beth nesaf?

Mae’r Ganolfan yn amgylchedd integredig sy’n gweithredu fel hwb i’r gymuned, yn ymgymryd â dull cefnogol ac yn annog meddwl yn annibynnol, dysgu sgiliau newydd a chyfranogiad cymunedol. Mae’n amgylchedd llawn hwyl sy’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gymdeithasu, yn ogystal â rhoi seibiant i ofalwyr.

Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.30am-3.30pm, 48 wythnos y flwyddyn

Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu sesiwn flasu yn y Ganolfan, ffoniwch 01495 333687.

Barn ein myfyrwyr

Kate Bass, 31 oed o’r Fenni

Heb gymorth y staff, ni fyddai Kate wedi bod â’r hyder na’r cymhelliant i ddysgu sut i yrru, ond mae hi nawr wedi cael nifer o wersi ac yn barod i gymryd ei phrawf theori.

“Rwyf yn edrych ymlaen yn arw at basio fy mhrawf.  Bydd yn golygu na fydd angen imi ddibynnu ar fy nhad-cu i fy ngyrru i – bydd gennyf fy annibyniaeth a mwy o ryddid.  Ni fyddwn wedi mynd amdani oni bai am anogaeth staff y Ganolfan. Mae gennyf ffrindiau da yma – mae’r myfyrwyr eraill a’r staff yn glên iawn.  Rwyf yn mwynhau gofalu am y cwningod a’r ieir, a dyfrio’r tomatos a’r basgedi crog. Mae dod i’r Ganolfan am ddeuddydd yr wythnos wedi gwella fy hyder yn aruthrol, sy’n golygu fy mod yn mwynhau gweddill fy wythnos hyd yn oed yn fwy – rwyf yn gwirfoddoli mewn siop elusen, chwarae i dîm darts ac yn cyflwyno fy sioe fy hun ar Able Radio.”

Luke Davies, 21 oed o Drefynwy

Ers dechrau yn y Ganolfan dwy flynedd yn ôl, mae Luke wedi trechu ei swildod a bellach mae ar gwrs amaethyddiaeth prif ffrwd, ac yn bwriadu cael swydd ar fferm.

“Gadawais yr ysgol a dechrau dod i’r Ganolfan pan oeddwn yn 19, ac i ddechrau, roeddwn yn ddistaw ac yn swil iawn, ond mae bod gyda phobl eraill mewn amgylchedd mor gyfeillgar wedi fy helpu i ddod allan o’m cragen. Roeddwn i’n mwynhau garddio yn y Ganolfan a bod tu allan, felly dewisais wneud cwrs amaethyddiaeth Lefel 1.  Rwyf wedi dysgu sut i ofalu am yr anifeiliaid, gweithio â pheiriannau’r fferm a gyrru tractor, ac rwyf yn edrych ymlaen at ddechrau cwrs Lefel 2 ym mis Medi. Rwyf yn dal yn ymweld â’r Ganolfan i weld pawb, ac rwyf yn dal i gael croeso cynnes, fel ar fy niwrnod cyntaf; mae’n teimlo fel mynd adref.”

Jim Smith, 54 oed o Rogiet

Mae Jim wedi bod yn dod i’r Ganolfan ers dros 20 blynedd, ac wedi mwynhau pob eiliad, ond mae’n hapus iawn gyda’r gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud dros y 12 mis diwethaf.

“Mae’r Ganolfan yn rhan bwysig iawn o fy mywyd, felly mae’n wych bod y staff wedi cymryd yr amser i’w wella.  Mae’r staff yn gyfeillgar iawn, ac rwyf yn hoff o’r myfyrwyr eraill hefyd. Rwyf yn hoff o gadw’n brysur, sy’n wych yn y Ganolfan, oherwydd bod rhywbeth i’w wneud o hyd – peintio dodrefn yr ardd, gwaith cynnal a chadw’r bws mini a dyfrio’r ardd. Rwyf hefyd wedi gwneud nifer o gyrsiau yn ystod fy amser yma, sydd wedi rhoi sgiliau imi eu defnyddio pob dydd – garddio, cynnydd personol, rheoli arian a byw’n iach.”