En

Ydych chi wedi clywed am y Cynllun Kickstart?


12 Tachwedd 2020

Fel coleg, rydym yn anelu’n barhaus at gwrdd ag anghenion cyflogwyr lleol drwy ddatblygiad cwricwlwm a hyfforddi gweithlu’r dyfodol. Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn clywed newyddion pryderus am golledion swyddi ledled sectorau swyddi niferus a niferoedd cynyddol o ddiweithdra o ganlyniad. Ond ar gyfer pobl ifanc a chyflogwyr fel ei gilydd, mae cyfle gwych newydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth er mwyn lleihau diweithdra tymor hir a phrinder sgiliau, ac mae’n rhaglen rydym yn falch o fod yn rhan ohoni…y cynllun Kickstart!

Byddwn yn chwarae rôl allweddol o ran mynd i’r afael â chyfraddau diweithdra a darparu cyfleoedd i bobl ifanc drwy helpu busnesau lleol Gwent i gael mynediad at gynllun Kickstart y Llywodraeth a thrwy ddarparu hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd ar gyfer pobl ifanc. Felly, os ydych yn sefydliad lleol a fyddai’n elwa o’r cynllun hwn, darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy…

Beth yw pwrpas y cynllun Kickstart?

Mae’r Cynllun Kickstart yn fenter a ariennir gan y Llywodraeth ledled y DU er mwyn darparu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-24 oed sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, ac a allai fod mewn perygl o ddiweithdra tymor hir. Mae’n cynnwys cwmnïau sy’n cynnig lleoliadau gwaith chwe mis gyda chyflogau wedi’u talu gan y llywodraeth, ynghyd â bwrsariaeth o £1,500 er mwyn sefydlu cefnogaeth a hyfforddiant i unigolion ar y rhaglen Kickstart.

Kickstart-employers

Gyda chysylltiadau diwydiant agos a phartneriaethau gyda nifer o gyflogwyr lleol, rydym yn edrych ymlaen at hwyluso’r cynllun newydd hwn yn ein cymuned leol. Yn Coleg Gwent, rydym nid yn unig yn darparu’r hyfforddiant cyflogadwyedd sy’n ofynnol fel rhan o’r cynllun, ond hefyd yn cynorthwyo cwmnïau ardal Gwent i gymryd rhan yn y rhaglen Kickstart. Mae ein tîm Ymgysylltiad Cyflogwyr yn helpu cyflogwyr lleol i gael mynediad at y cyllid a’u harwain drwy’r broses ymgeisio, gan ei gwneud hi’n rhwydd i chi gael mynediad at weithlu o bobl ifanc talentog ac uchelgeisiol.

Pa fath o fusnesau sy’n rhan o’r cynllun?

Gall unrhyw fusnes neu sefydliad wneud cais am y cyllid (waeth pa mor fawr neu fach ydynt), cyhyd â bod y swyddi sy’n cael eu creu yn rolau newydd gyda lleiafrif o 25 awr yr wythnos. Gall cwmnïau sy’n cynnig 30 neu fwy o leoliadau wneud cais uniongyrchol i’r cynllun Kickstart, ond gall rhai sy’n edrych i greu llai o leoliadau gysylltu â chyfranogwr fel Coleg Gwent, a fydd yn gweithredu fel cynrychiolydd lleol ac yn creu cais ar eu rhan. Trwy weithredu fel cyfryngwr ar gyfer y cynllun Kickstart, rydym yn ei gwneud yn fwy hygyrch i fusnesau gyda llai na 30 o leoliadau ar gael, sy’n golygu y gall mwy o gwmnïau a phobl ifanc yn ardal Gwent elwa o’r cynllun.

Mae ein tîm Ymgysylltiad Cyflogwyr yn annog cwmnïau lleol i gysylltu er mwyn i ni allu eu helpu i gymryd mantais o’r cynllun hwn a bod o fudd i bobl ifanc yn ein cymuned leol. Mae’r cyfle cyffrous hwn ar gyfer busnesau ac unigolion fel ei gilydd wedi ymddangos ar amser perffaith. Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer unrhyw gyflogwyr sydd â diddordeb, a all gynnal lleoliadau gwaith fel rhan o’r cynllun gyda dyddiadau cychwyn hyd at fis Rhagfyr 2021. Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau ddarganfod talent newydd a chyflogi pobl newydd na fyddent wedi gallu eu cyflogi fel arall. Ynghyd â hyn, mae ganddo’r budd ychwanegol o hyfforddi pobl ifanc ar gyfer byd gwaith, gan ddarparu sgiliau allweddol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Dysgwch fwy am y cynllun Kickstart ar ein gwefan neu cysylltwch â Claire Reardon o’n Tîm Ymgysylltiad Cyflogwr (Claire.reardon@coleggwent.ac.uk).