En
Coleg Gwent WorldSkills UK results

Canlyniadau WorldSkills wedi cyrraedd - aur i ddysgwyr Coleg Gwent eto!


29 Tachwedd 2021

Mae cystadlaethau WorldSkills UK wedi bod yn wych eleni yn ogystal â’r canlyniad i Dîm Cymru, gyda dysgwyr Coleg Gwent yn cipio Aur, Arian ac Efydd a Chanmoliaeth Uchel ar draws amrywiaeth o gystadlaethau sgiliau!

Cynhaliwyd rowndiau terfynol cystadlaethau WorldSkills UK 2021 yn ystod mis Tachwedd, gyda myfyrwyr a phrentisiaid o bob cwr o’r wlad yn cystadlu mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau sgiliau, o waith coed i wasanaethau bwyty, o TGCh i drin gwallt.

Daeth dros 400 o gystadleuwyr o ledled y DU i geisio cael eu coroni’n ‘bencampwyr sgiliau’ o fewn eu meysydd arbenigol. Cyrhaeddodd 20 o ddysgwyr Coleg Gwent y rowndiau terfynol. Dangosodd y dysgwyr eu sgiliau a’u gwybodaeth o fewn y cystadlaethau ledled y wlad, a chynhaliwyd sawl rownd terfynol ar gampysau Coleg Gwent yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Worldskills-UK-woodwork

Rhannwyd y canlyniadau yn ystod seremoni wobrwyo oedd yn cael ei darlledu’n fyw ddydd Gwener 26 Tachwedd yn ystod rhaglen Packed Lunch Channel 4 gyda Steph McGovern. Rydym yn falch o ddweud fod ein dysgwyr wedi ennill cyfanswm o 13 medal, gan sicrhau unwaith eto bod Coleg Gwent yn un o’r deg prif goleg ar gyfer hyfforddiant sgiliau yn y DU.

Dywedodd Ben Blackledge, Dirprwy Prif Swyddog Gweithredol WorldSkills UK: “Mae’r bobl ifanc hyn yn ysbrydoliaeth go iawn. Maent yn esiampl i bob un ohonom a dylid eu dathlu. Mae rhagori fel hyn ar ôl blwyddyn mor heriol yn dangos bod eu hymrwymiad a’u sgiliau wir yn rhagorol. Sgiliau yw sylfaen pob economi, yn creu swyddi o ansawdd uchel a gyrfaoedd gwerth chweil, ac mae ein cystadlaethau’n dangos bod doniau gwych ym mhob rhan o’r DU.”

Llongyfarchiadau i bawb a gafodd fedal, a da iawn i’n holl deilyngwyr o Coleg Gwent hefyd!

Enillwyr gwobr aur:

  • Rhys Edmunds – Hyfforddwr Ffitrwydd: Hyfforddiant Personol
  • Bailey Richardson – Sgiliau Sylfaenol: Datrysiadau Meddalwedd TG i Fusnesau
  • Ben Thewlis – Sgiliau Sylfaenol: Gwaith Coed

Enillwyr gwobr arian:

  • Harvey Ede – Sgiliau Sylfaenol: Datrysiadau Meddalwedd TG i Fusnesau
  • Connor Jamie – Sgiliau Sylfaenol: Cerbydau Modur
  • Adrian Buick – Sgiliau Sylfaenol: Gwaith Coed
  • Leah Browning – Trin Gwallt

Enillwyr gwobr efydd:

  • Tiana Elizabeth Roberts – Colur Masnachol
  • Shannon Greenway – Hyfforddwr Ffitrwydd: Hyfforddiant Personol

Canmolwyd yn arw:

  • Laura Evans – Sgiliau Hanfodol: Garddwriaeth
  • Shaun Davies – Sgiliau Hanfodol: Garddwriaeth
  • Cynan Richardson – Sgiliau Sylfaenol: Datrysiadau Meddalwedd TG i Fusnesau
  • Sacha Ellis-Stych – Sgiliau Sylfaenol: Datrysiadau Meddalwedd TG i Fusnesau

Cystadleuaeth Sgiliau Cymru

Hoffech chi gymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills UK nesaf?

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cyd-fynd â WorldSkills UK. Mae’n dechrau yn 2022 ac yn rhoi cyfle i ddysgwyr gystadlu mewn cystadlaethau sgiliau ar draws amrywiaeth o sectorau yng Nghymru. Gellir cymryd rhan yn y cystadlaethau am ddim, ac fe’u cynhelir fel arfer rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, gan fwydo i gystadlaethau WorldSkills UK nesaf. Dysgwch fwy am gymryd rhan neu cofrestrwch ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2022 i ddangos bod eich sgiliau chi cystal â’r goreuon.