En

Myfyrwyr Coleg Gwent yn cael eu dewis ar gyfer Carfan Genedlaethol WorldSkills y DU


8 Chwefror 2023

Llongyfarchiadau i 3 myfyriwr talentog Coleg Gwent sydd wedi cael eu dewis o blith cannoedd o gystadleuwyr i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yng Ngharfan Genedlaethol WorldSkills y DU.

Llongyfarchiadau i 3 myfyriwr talentog Coleg Gwent sydd wedi cael eu dewis o blith cannoedd o gystadleuwyr i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yng Ngharfan Genedlaethol WorldSkills y DU. Mae’r garfan yn cynnwys 94 o bobl ifanc sydd wedi rhagori mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol trwy gydol y flwyddyn ar draws 27 o wahanol sgiliau. Mae’r gystadleuaeth am lefydd yn y garfan yn ffyrnig, gyda dim ond y myfyrwyr mwyaf talentog yn cael eu dewis.

Er mwyn eu paratoi ar gyfer her y gystadleuaeth ryngwladol, bydd y tîm yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi ddwys 18 mis o hyd, gyda hyfforddiant gan hyfforddwyr medrus iawn, arbenigwyr diwydiant, cyn-enillwyr medalau a hyfforddwyr perfformiad.

Daw nifer o’r hyfforddwyr hyn o golegau sy’n rhan o Ganolfan Ragoriaeth WorldSkills y DU. Nod y rhaglen hon yw codi safonau mewn prentisiaethau ac addysg dechnegol, gan helpu i hybu twf economaidd, creu swyddi a lefelu i fyny’r wlad. Rydym yn falch o fod yn un o’r 20 coleg cyntaf i fod yn rhan o’r cynllun arloesol hwn, gyda nifer o’n tiwtoriaid yn cymryd rhan mewn rhaglenni mentoriaeth i’w galluogi i ddod â’r safonau uchaf i’n myfyrwyr.

Trwy gydol y broses hyfforddi bydd aelodau’r garfan yn anelu at brofi bod ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen i gystadlu yn erbyn y goreuon o weddill y byd, fel rhan o’r ‘Gemau Olympaidd sgiliau’ yn Lyon ym mis Medi 2024.

Dewch i gwrdd â dysgwyr talentog Coleg Gwent sydd wedi cael eu dewis fel aelodau o Garfan Genedlaethol WorldSkills y DU:

Ryan WilliamsRyan Williams, 18, Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau

Roedd Ryan Williams, cystadleuydd Celf Gemau Digidol 3D a enillodd fedal aur, yn gweld Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills fel cyfle gwych i brofi ei sgiliau a chael cipolwg ar y diwydiant Gemau.

“Mae’r sgiliau rydyn ni’n eu datblygu yma yn ein paratoi ar gyfer y byd go iawn. Ar gyfer dylunio gemau, mae gallu gweithio’n gyflym ac yn effeithiol o dan bwysau a chyfyngiadau amser yn nodweddion allweddol yn y diwydiant hwn.”

Niah LewisNiah Lewis, 18, Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau

Roedd cystadleuydd Celf Gemau Digidol 3D, Niah Lewis, wrth ei bodd gyda’r holl brofiad o gystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.

“Byddwn yn argymell cystadlu yn WorldSkills yn fawr! Mae’n agor cymaint o gyfleoedd i bobl ifanc sydd eisiau dysgu a chael profiad ar gyfer swyddi yn y dyfodol.”

Hannah CooperHannah Cooper, 21, Coginio Proffesiynol Lefel 3

Mwynhaodd Hannah Cooper, cystadleuydd y Gwasanaeth Bwyty, ddysgu sgiliau newydd a chwblhau’r tasgau flambé.

“Fy nghyngor i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn cystadlu fyddai mynd amdani, gan nad oes unrhyw beth o’i le gyda rhoi cynnig ar rywbeth newydd sydd â’r posibilrwydd o gynyddu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.”

Wrth siarad am y broses ddethol a chystadlu, dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol WorldSkills y DU, Ben Blackledge:

“Mae hon yn foment a fydd yn newid bywydau’r 94 aelod o’n carfan, wrth iddynt baratoi at gystadlu’n rhyngwladol. Mae’r rhain yn gyfleoedd mor bwysig i godi proffil a mawredd sgiliau’r DU a’n galluogi i drosglwyddo’r mewnwelediadau a’r arferion gorau o wledydd eraill er mwyn gyrru safonau nôl adref.”

Cadwch eich llygaid ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol wrth i Ryan, Niah a Hannah ddechrau ar eu taith tuag at gystadlu yn Lyon. Darganfyddwch fwy am gystadlaethau sgiliau yng Ngholeg Gwent.