En

City & Guilds Diploma mewn Coginio Proffesiynol Uwch Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser Estynedig Dysgu rhan amser am 12 awr yr wythnos (weithiau mwy) gydag argaeledd grantiau.
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
AM DDIM

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
*Ymrestru ar agor o hyd

Hyd

Hyd
34 wythnos

Yn gryno

Nod cymhwyster Diploma Lefel 3 City and Guilds mewn Coginio Proffesiynol Uwch yw asesu a hyfforddi Cogyddion mewn sgiliau paratoi bwyd a choginio cymhleth neu ar lefel uwch. Anelir at Gogyddion sydd wedi cael profiad o weithio mewn amgylchedd cegin.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...ydych eisoes yn meddu ar gymhwyster Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol ynghyd ag elfen o brofiad gwaith.

Cynnwys y cwrs

Mae’r unedau craidd a gwmpesir yn cynnwys:

  • Egwyddorion goruchwylio diogelwch bwyd ar gyfer arlwyo
  • Sgiliau goruchwylio yn y diwydiant lletygarwch
  • Archwilio Gastronomeg

Mae’r unedau sgiliau ymarferol uwch yn cynnwys:

  • Cynhyrchu prydau llysiau a llysieuol
  • Cynhyrchu prydau cig
  • Prydau dofednod a helgig
  • Cynhyrchu pysgod a physgod cregyn
  • Cynhyrchu cynhyrchion toes a chytew
  • Cynhyrchu petits fours
  • Cynhyrchu cynhyrchion past
  • Cynhyrchu pwdinau poeth, oer ac wedi rhewi
  • Cynhyrchu cacennau, bisgedi a sbyngau

Gofynion Mynediad

Coginio Proffesiynol Lefel 2 neu gymhwyster a phrofiad cyfwerth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y cwrs yn rhedeg dros ddau ddiwrnod, gan gynnwys nosweithiau, a fydd yn caniatáu i chi weithio yn y diwydiant ochr yn ochr â'ch astudiaethau.

Bydd gofyn i chi wisgo gwisg cogydd llawn a phrynu eich cyllyll eich hunain ar gyfer yr holl sesiynau ymarferol, a mynychu gweithdai Dosbarth Meistr i gyfoethogi eich astudiaethau. Efallai y cânt eu cynnal ar ddiwrnodau amgen i'r 2 ddiwrnod dynodedig ar yr amserlen.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Coginio Proffesiynol Uwch Lefel 3?

CPDI0200AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser Estynedig
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr