En
WorldSkills UK National Finals 2022

Dysgwyr 22 yn cyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2022


13 Gorffennaf 2022

Mae cystadlaethau hir ddisgwyliedig WorldSkills UK yn cael eu cynnal unwaith eto ar gyfer 2022, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi fod Coleg Gwent ar frig bwrdd arweinwyr Cymru eleni, wrth i ddysgwyr 22 gyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK!

Ar ôl ennill 35 medal yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gynharach eleni, a oedd yn gamp anhygoel, mae ein dysgwyr wedi mynd gam ymhellach, ac maent wedi defnyddio eu sgiliau i gyrraedd lefel genedlaethol WorldSkills UK unwaith eto. Bydd y dysgwyr yn arddangos eu sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd, yn cynnwys celf gemau, ail-orffennu cerbydau, colur, cynhyrchu cyfryngau digidol, iechyd a gofal cymdeithasol, garddwriaeth, TG, cerbydau modur, gwasanaeth bwyty a thrin gwallt; mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i’n dysgwyr ymarfer a chyflwyno eu sgiliau mewn amgylchedd cystadleuol.

WorldSkills UK National Finals 2022

Mae Coleg Gwent yn rhan o Ganolfan Ragoriaeth WorldSkills UK, sy’n dangos bod ein tiwtoriaid yn cynnig hyfforddiant technegol o safon arbennig a bod ein pum campws yn cynnig cyfleusterau o safon y diwydiant i ddysgwyr gael gweithio â nhw. Felly, yma yn Coleg Gwent, gallwch ddatblygu’ch sgiliau ymarferol yn lleol, a dangos eich gallu ar lwyfan cenedlaethol yng nghystadlaethau WorldSkills UK.

Mae cystadlaethau WorldSkills UK wedi cael eu dylunio gan arbenigwyr o’r diwydiant, ac maent yn ymdrin â 60 sgil gwahanol o sectorau megis gwallt a harddwch, arlwyo, a pheirianneg fodurol. Mae’r cystadlaethau’n cefnogi dysgwyr i godi safonau mewn addysg sgiliau ledled y wlad. O fewn y rowndiau terfynol, asesir gwybodaeth, sgiliau ymarferol a nodweddion cyflogadwyedd y dysgwyr.

Llongyfarchiadau gwresog i’r dysgwyr isod o Coleg Gwent am gyrraedd Rowndiau Terfynol WorldSkills UK, sy’n cael eu cynnal fis Tachwedd:

  • Celf Gemau Digidol 3D – Niah Lewis a Ryan Williams
  • Ail-orffennu Cerbydau – Jordan Zatac
  • Colur Masnachol – Kelsie Evans a Dylan Taylor
  • Colur Creadigol ar gyfer y Cyfryngau – Eleanor Styles, Daniella Gomes a Chloe Vicary
  • Cynhyrchu Cyfryngau Digidol – Keito Lewis, Daniel Caddy, Finley Bellamy a Tara Lewis
  • Sgiliau Sylfaenol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Ebony Sodipo
  • Sgiliau Sylfaenol: Garddwriaeth – Shaun Davies
  • Sgiliau Sylfaenol: Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes – Sacha Ellis-Stych, Sam Smith, a Harvey Ede
  • Sgiliau Sylfaenol: Cerbydau Modur – Joshua Britton a Zenzie Randle
  • Sgiliau Sylfaenol: Gwasanaeth Bwyty – Ethan Thomas
  • Trin Gwallt – Ceri Duke
  • Gwasanaeth Bwyty – Hannah Cooper

Pob lwc i bawb o Coleg Gwent sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol! Gallwch ddysgu mwy am ddangos eich sgiliau ar lwyfan cenedlaethol ac astudio yn Coleg Gwent – y coleg sy’n perfformio orau ar y cyd o ran astudiaethau galwedigaethol yng Nghymru – yma www.coleggwent.ac.uk.