En
Coleg Gwent Learners excel in Skills Competition Wales finals 2022

Dysgwyr yn rhagori yn rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2022 gyda 35 o fedalau


18 Mawrth 2022

Mae ein dysgwyr talentog yn Coleg Gwent wedi rhagori yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni. Maent wedi cystadlu yn erbyn cannoedd o fyfyrwyr o golegau ledled y wlad mewn ystod eang o gystadlaethau sgiliau, ac i gydnabod eu talentau, maent wedi llwyddo i ennill 35 o fedalau aur, arian ac efydd!

Aeth 149 o ddysgwyr Coleg Gwent ati i gystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2022, yn arddangos eu sgiliau, galluoedd, medrau a gwybodaeth mewn sawl maes. Fel coleg, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ar draws sawl sector, sy’n cael ei adlewyrchu yng nghatgoriau’r sgiliau y dewisodd ein dysgwyr i gystadlu ynddynt eleni.

O harddwch i felysion, codio i atgyweirio cerbydau, ac o gerddoriaeth i waith coed, aeth dysgwyr Coleg Gwent ati i wneud eu gorau glas yn y cystadlaethau cenedlaethol er mwyn arddangos y sgiliau maent wedi’u dysgu yn y coleg.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gyfle i’n dysgwyr herio eu hunain ac i wthio eu ffiniau er mwyn gwella eu sgiliau yn eu gyrfaoedd dewisol. Drwy gymryd rhan, maent yn gwella lefel eu sgiliau ac yn datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol, sy’n golygu bod y gystadleuaeth yn brofiad gwych ac yn ychwanegiad gwerthfawr i’w CV.

Eglurodd Richard Wheeler, Rheolwr y Gystadleuaeth Sgiliau, “Mae’n wych gweld cyn nifer o ddysgwyr Coleg Gwent bellach yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. Mae Cystadlaethau Sgiliau wir yn ffordd dda o wella sgiliau technegol myfyrwyr, yn ogystal â gwella eu sgiliau rhyngbersonol, fel rheoli amser, datrys problemau a gweithio dan bwysau. Mae’r holl sgiliau hyn yn sgiliau cyflogadwyedd ardderchog, y bydd y dysgwyr yn meddu arnynt am weddill eu hoes.”

Drwy Gystadleuaeth Sgiliau Cymru, gall dysgwyr feithrin eu hyder, ennill profiad gwerthfawr, dysgu gan arbenigwyr diwydiant, ac yn y pen draw, gwella eu cyflogadwyedd ar ôl gorffen y coleg. Gall gynnwys Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar eich CV wneud ichi sefyll ben ac ysgwyddau uwchben yr ymgeiswyr eraill wrth wneud cais am swydd, ac rydym yn sicr y bydd ein dysgwyr yn rhagori yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol!

Dathlu enillwyr Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2022 o Coleg Gwent

Llongyfarchiadau i’r holl ddysgwyr a gymerodd ran yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ac am gynrychioli Coleg Gwent eleni, a llongyfarchiadau i’r 35 a enillodd fedelau aur, arian ac efydd. Rydym mor falch o’ch gwaith caled, rydych yn llawn haeddu eich gwobrau!

Aur:

  1. Ellie Witch – Therapydd Harddwch (Dwylo ac Wyneb)
  2. Ellie Parsons – Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff)
  3. Samuel Newman-Jones – Gwaith Brics
  4. Tiana Elizabeth Roberts – Colur Cyfryngau Creadigol
  5. Esther Taylor – Dylunio a Thechnoleg Ffasiwn
  6. Amy Packwood – Trin Gwallt
  7. Shaun Davies – Garddwriaeth Sgiliau Cynhwysol
  8. Cerys Jenkins – Datrysiadau Meddalwedd TG i Fusnesau
  9. Bridie Saunders – Hyfforddwr Personol
  10. Lynne Allbutt – Hyfforddwr Personol

Arian:

  1. Luke Davies – Trin Gwallt
  2. Melody-Rae Woolley – Celf Gemau 3D
  3. Emily Law – Menter
  4. Casey Porter – Menter
  5. Taylor Riley – Menter
  6. Amelia Skyrme – Menter
  7. Maddie Wathen – Menter
  8. Tayler Jones – Technoleg Cerbydau Trwm
  9. Joshua Brittan – Technoleg Fodurol Sgiliau Cynhwysol
  10. Cameron Sulway – Cynorthwyydd Ffitrwydd Sgiliau Cynhwysol
  11. Mitchel Bradbury – Gwasanaethau Bwytai Sgiliau Cynhwysol
  12. Shavez Khan – Datrysiadau Meddalwedd TG i Fusnesau
  13. Joanna Ingles – Hyfforddwr Personol
  14. Jordan Zatac – Ail-orffennu Cerbydau

Efydd:

  1. Logan Cook – Celf Gemau 3D
  2. Ethan Griffiths – Gwaith Metel Adeiladu
  3. Chloe Vicary – Colur Cyfryngau Creadigol
  4. Hannah Hughes – Paratoi Bwyd Cynhwysol
  5. Daniel Lewis – Cynorthwyydd Ffitrwydd Sgiliau Cynhwysol
  6. Joshua Tozer – TGCh Sgiliau Cynhwysol
  7. Harry McLaren – Peirianneg Fecanyddol CAD
  8. Bradley Watts – Atgyweirio Corff Cerbyd
  9. Harry Tanner – Ail-orffennu Cerbydau
  10. Lily Atkinson – Marsiandïaeth Weledol
  11. Rhys Llewellyn-Holley – Dylunio Gwefannau

Gyda channoedd o gyrsiau ar gael yn Coleg Gwent, gallwch chithau lwyddo yn eich gyrfa ddewisol hefyd. Ymunwch â’n digwyddiad agored nesaf i ddod o hyd i’r cwrs cywir i chi – cofrestrwch nawr yn www.coleggwent.ac.uk/open.