En

Cystadlaethau Sgiliau

Gwellwch lefel eich sgiliau yn Coleg Gwent –Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK

Cewch gyfle i gystadlu a chynrychioli eich coleg, gan arddangos eich sgiliau ar lwyfan cenedlaethol.

O Gystadleuaeth Sgiliau Cymru i gystadleuaeth genedlaethol WorldSkills UK, gallwch gystadlu gyda myfyrwyr o golegau ledled y DU, gan ennill medalau mewn ystod eang o sectorau a hybu eich sgiliau cyflogadwyedd.

Mae nifer o’n cyn-gystadleuwyr Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills wedi symud yn uniongyrchol o’r coleg i gyflogaeth neu wedi lansio eu busnesau llwyddiannus eu hunain.

Pam cymryd rhan yn y cystadlaethau sgiliau?

Person celebrating
Magu hyder
Cael mwy o brofiad
Person presenting
Dysgu gan yr arbenigwyr
Lightbulb in hands
Datblygu eich sgiliau
briefcase on hand
Dod yn fwy cyflogadwy
CV
Rhoi hwb i’ch CV

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn rhoi’r cyfle i chi serennu a rhoi hwb i’ch CV drwy gystadlu ar draws ystod eang o sectorau. Yn digwydd rhwng Ionawr a Mawrth pob blwyddyn, mae’r cystadlaethau yn hwyl ac yn rhad ac am ddim i gymryd rhan.

Mae Cystadlaethau Sgiliau Cymru yn ymwneud â chyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sydd yn cyd-fynd â chategorïau  cystadleuaeth WorldSkills ac anghenion yr economi yng Nghymru. Mae’r cystadlaethau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael eu rhedeg gan rwydwaith o golegau ymroddgar fel Coleg Gwent, darparwyr dysgu sy’n seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, yn anelu at godi proffil hyfforddiant sgiliau yng Nghymru.

Ers 2012, mae’n destun balchder gennym ein bod yn cefnogi nifer o ddysgwyr wrth iddynt gystadlu’n llwyddiannus yng nghystadlaethau WorldSkills, a hwythau ymhlith y 10 gorau yn nhabl cynghrair eu meysydd sgiliau am 3 blynedd yn olynol.

Gan fynd i’r afael â thros 60 gwahanol sgil mewn amrywiaeth o sectorau megis peirianneg ac adeiladu i dechnoleg gwybodaeth, mae WorldSkills UK wedi helpu i wella sgiliau addysg ledled y wlad, gan gyflwyno safonau o’r radd flaenaf o ran datblygu sgiliau yn y DU. Gyda’r cystadlaethau sgiliau yn cael eu cynllunio gan arbenigwyr o’r diwydiant, maent yn asesu gwybodaeth, sgiliau ymarferol a phriodoleddau cyflogadwyedd y dysgwr.

Fel rhan o raglen Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK, byddwn i gyd yn elwa o arbenigedd NCFE mewn datblygu cwricwlwm, a safbwyntiau unigryw WorldSkills UK fel yr hwb byd-eang ar gyfer rhagoriaeth sgiliau.

Rydym yn falch o helpu i godi safonnau prentisiaethau a hyfforddiant technegol, ond yn bwysicach byth, rydym yn edrych ymlaen at allu cynnig y cyfleoedd hyn ar eich hiniog yng Ngwent, fel y gallwch chi ymuno ag un o golegau gorau Cymru ac ennill sgiliau o’r radd flaenaf ar draws ein hystod o gyrsiau galwedigaethol.

Dan arweiniad Hyfforddwyr Sgiliau Perfformiad Uchel WorldSkills UK, bydd ein tiwtoriaid, Gareth Pugh, Robert Morse, Paul Chard, Stephanie Parrot a Cerys Rees, yn cael eu hyfforddi a’u mentora i ymgorffori arferion a thechnegau o’r radd flaenaf yn eu harferion addysgu, dysgu ac asesu yn Coleg Gwent ar draws meysydd megis Celf Gemau 3DCynnal a Chadw ModuronPeirianneg DrydanolTrin Gwallt a Harddwch, a Chwaraeon a Ffitrwydd. Bydd yr arbenigedd hwn yn cael ei drosglwyddo i chi, ein dysgwyr, i’ch galluogi i ddatblygu sgiliau o’r radd flaenaf ar eich hiniog yn Ne Cymru.