En
Coleg Gwent WorldSkills Finalists 2021

29 o Ddysgwyr Ysbrydoledig Coleg Gwent yn cyrraedd rowndiau terfynol WorldSkills UK


26 Hydref 2021

Mae WorldSkills UK yn ôl eto am flwyddyn arall o gystadlaethau sgiliau cyffrous. Eleni, mae 29 o ddysgwyr ysbrydoledig Coleg Gwent wedi llwyddo i gyrraedd y rowndiau terfynol, yn cystadlu yn erbyn dysgwyr o golegau ar draws y DU mis Tachwedd yma.

Bydd rowndiau rhanbarthol mewn meysydd arbenigol o wallt a harddwch hyd at hyfforddiant ffitrwydd. Mae Coleg Gwent yn falch o weld 29 o ddysgwyr ymroddgar yn cyrraedd y rowndiau terfynol mewn amryw o gategorïau eto eleni. Yn rhan o Ganolfan Ragoriaeth WorldSkills UK, mae Coleg Gwent yn darparu addysgu technegol o safon uchel a chyfleusterau gwych o safon diwydiant i ddysgwyr mewn pum campws lleol. Felly, gall dysgwyr ddatblygu eu sgiliau a dangos eu galluoedd ar lefel ryngwladol mewn cystadlaethau WorldSkills UK.

Yn cwmpasu mwy na 60 o wahanol sgiliau ar draws sectorau fel peirianneg ac adeiladwaith hyd at dechnoleg ddigidol, mae WorldSkills UK yn helpu i godi safonau mewn addysg sgiliau ar draws y wlad. Gyda chystadlaethau sgiliau wedi’u dylunio gan arbenigwyr o’r byd diwydiant, bydd y rowndiau terfynol yn asesu gwybodaeth, sgiliau ymarferol a phriodweddau cyflogadwyedd pob dysgwr. Dyma’r dysgwyr llwyddiannus o Coleg Gwent sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol 2021:

  • Paulina Ziarko a Leah Moore – Ymarferydd Therapi Harddwch
  • Tiana Elizabeth Roberts – Colur Masnachol
  • Hannah Cooper – Gwasanaeth Bwyty
  • Leah Browning ac Elisha Dixon – Trin Gwallt
  • Diana Williams, Rhys Edmunds, Amanda Hartshorn a Shannon Greenway – Hyfforddiant Ffitrwydd: Hyfforddiant Personol
  • Ryan Williams – Celfyddyd Gemau Digidol 3D
  • Shaun Davies, Laura Evans a Leanne Hill – Sgiliau Sylfaen: Garddwriaeth
  • Bailey Richardson, Alex Van Bilion, Cynan Richardson, Sacha Ellis-Stych, Ben White, Liam Townsend, Liam Hoey a Hawey Ede – Sgiliau Sylfaen: Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes
  • Connor Jamie a Leon Payne – Sgiliau Sylfaen: Cerbydau
  • Ben Thewlis, Connor Smith, Adrian Buik ac Ellison Jays – Sgiliau Sylfaen: Gwaith Coed

Yn ôl y Rheolwr Cystadlaethau Sgiliau, Richard Wheeler: “Hoffwn ddweud llongyfarchiadau mawr wrth bawb sydd ynghlwm. Mae hyn yn ganlyniad cwbl anhygoel ac edrychaf ymlaen at weld rhywfaint o hyfforddiant o flaen llaw efo’r cystadleuwyr a gweld sut byddant yn perfformio yn y rowndiau terfynol eleni. Unwaith eto, diolch i’r tiwtoriaid perthnasol, ni fyddai’r dysgwyr wedi cyrraedd lle maen nhw heddiw oni bai am eich arbenigedd a’ch brwdfrydedd chi.”

Dewch i gyfarfod â dysgwyr Coleg Gwent sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol 2021

WorldSkills UK Finalist Hannah CooperMae Hannah Cooper yn astudio Coginio Proffesiynol Lefel 2 (gyda sgiliau bar a barista) yng Nghampws Crosskeys:

“Roeddwn i’n meddwl y byddai WorldSkills UK yn rhywbeth heriol a gwahanol. Rydw i bellach yn y rownd derfynol ac yn dal methu credu. Mae’n teimlo’n swrreal. Rydw i’n manteisio ar y cyfle hwn i geisio ennill, ond hefyd i ddweud wrth fy hun fy mod i wedi trio ac wedi gweithio cyn galeted ag y medraf i gyrraedd lle rydw i heddiw. Petawn i’n ennill, byddai hynny’n grêt. Rydw i’n gobeithio cael busnes arlwyo fy hun neu swydd uchel mewn bwyty un diwrnod. Gall Coleg Gwent fy helpu i gyflawni hyn efo’i ddarpariaeth o gyrsiau a’r cymorth gan diwtoriaid.”

Mae Diana Williams yn astudio Hyfforddiant Personol Lefel 3 yng Nghampws Brynbuga:

“Cefais fy annog gan fy nhiwtoriaid i gystadlu yn WorldSkills UK sydd yn beth da, oherwydd mae’n debyg na fyddwn i wedi gwneud ar fy liwt fy hun! Enillais wobr aur mewn Cystadleuaeth Sgiliau Cymru o’r blaen, felly rydw i’n falch o gyrraedd y rownd hon yn y gystadleuaeth WorldSkills UK hefyd. Bydd y rowndiau terfynol yn ein ‘profi ni ar bob agwedd ar fod yn hyfforddwr personol’. Mae cymaint o WorldSkills UK yn ymwneud â chael eich tynnu o rywle lle rydych chi’n teimlo’n gyfforddus, a gweld eich hun yn gwneud pethau na fyddech chi erioed wedi meddwl y gallech chi. Mae’n gyfle mor anhygoel, rydw i eisiau gwneud y mwyaf ohono!”

WorldSkills UK Finalist - Ryan WilliamsMae Ryan Williams yn astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol yng Nghampws Crosskeys:

“Dewisais gystadlu oherwydd roeddwn i’n wirioneddol yn mwynhau dylunio gemau ac eisiau cael profiad o bopeth y gallai hyn gynnig. Roeddwn i eisiau profi fy sgiliau yn erbyn eraill hefyd. Wrth baratoi ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills UK, roeddwn i’n canolbwyntio’n well yn y dosbarth a hefyd yn gwneud mwy yn ystod fy amser sbâr yn treulio awr neu ddwy yn ymarfer pob dydd. Mae’n anodd iawn credu ‘mod i yn y rownd derfynol, a minnau ond newydd brynu fy nghyfrifiadur personol ryw gwta ddeufis yn ôl. Nawr ‘mod i yn y gystadleuaeth, rydw i’n gobeithio dysgu mwy am ddylunio gemau tu allan i’r byd addysg hefyd.”

Mae Elisha Dixon, yn ddysgwr Trin Gwallt Lefel 3 yng Nghampws Dinas Casnewydd:
“Mae dewis y cwrs yma wedi fy helpu i wella fy sgiliau a fy nhechnegau a chyflawni fy mhotensial i drin gwallt. Bu’n gyfle gwych hefyd i mi gymryd rhan mewn cystadleuaeth trin gwallt WorldSkills UK, sydd wedi bod yn brofiad anhygoel ac wedi gwneud i mi gyflawni cymaint fel cyrraedd y rownd derfynol, rhywle na feddyliais i erioed y byddwn i’n cyrraedd. Pan fyddaf wedi cwblhau fy mlwyddyn olaf yn Coleg Gwent, rydw i’n gobeithio bod yn steilydd gwallt proffesiynol a bod yn berchen ar fy salon trin gwallt/barbwr fy hun yn y dyfodol.”

WorldSkills UK Finalist - TianaMae Tiana Roberts, o Gampws Crosskeys, wrthi’n astudio Colur Effeithiau Arbennig a Theatraidd Lefel 3:

“Dewisais gystadlu yn WorldSkills UK gan ‘mod i’n teimlo ei fod yn gyfle da i fentro a chael profiad. Mae’n gyfle i mi arbrofi drwy ddefnyddio fy nghreadigedd a fy nychymyg i weld fy syniadau yn dod yn fyw. Roedd fy nhiwtoriaid yn gefnogol iawn drwy gydol y broses ac rydw i wedi magu llawer mwy o hyder wrth gystadlu. Nawr rydw i’n cael dangos i’r byd beth rydw i’n gallu’i wneud! Cefais fy nysgu gartref ers pan oeddwn i’n ddeuddeg oed ac rydw i wedi dysgu fy hun wedi hynny, felly mae cyrraedd cyn belled yn afreal i mi.”

Pob lwc i ddysgwyr Coleg Gwent yn y rowndiau terfynol eleni! Darllenwch fwy am fynd â’ch sgiliau i’r llwyfan cenedlaethol ac astudio yn Coleg Gwent – y coleg sy’n perfformio’n gydradd gyntaf mewn astudiaethau galwedigaethol yng Nghymru – www.coleggwent.ac.uk.