En
Best results ever in WorldSkills UK

Y Canlyniadau gorau erioed yn WorldSkills UK


29 Tachwedd 2022

Brynhawn dydd Gwener, cawsom ddathlu ein canlyniadau gorau erioed yn rowndiau terfynol WorldSkills UK. Fe lwyddom i ddringo i fod yn un o’r tri uchaf yn y Deyrnas Unedig yng nghystadlaethau’r brif ffrwd a sylfaen, ond ar ben hynny, ni bellach yw’r coleg sy’n perfformio orau yng Nghymru!

Roedd ein dysgwyr yn cystadlu yn erbyn myfyrwyr mwyaf medrus y Deyrnas Unedig ac yn cymryd rhan mewn cystadlaethau galwedigaethol a thechnegol ledled y wlad, yn cynrychioli Coleg Gwent a Thîm Cymru yn Oscars y cystadlaethau seiliedig ar sgiliau. Ar ôl hyfforddi ein dysgwyr i safonau’r gystadleuaeth, aeth ein tiwtoriaid arbenigol ati i’w paratoi ar gyfer pwysau’r rowndiau terfynol. Aeth 19 o fyfyrwyr Coleg Gwent â’u sgiliau i lwyfannau cenedlaethol ar draws Prydain i gystadlu mewn meysydd arbenigol yn erbyn 217 o bobl ifanc  gan ddangos eu dawn, eu gallu  a’u brwdfrydedd tuag at eu pynciau yn ystod y rowndiau terfynol.

play

 
Ar ôl disgwyl yn eiddgar, cyhoeddwyd y canlyniadau mewn darllediad arbennig o stiwdio Packed Lunch Steph McGovern brynhawn Gwener, a wyliwyd gan ein cystadleuwyr, eu teuluoedd, ffrindiau a thiwtoriaid mewn parti gwylio ar Gampws Dinas Casnewydd. Meddai Rheolwr y Gystadleuaeth Sgiliau, Rich Wheeler:

“Rwy’n falch iawn o bob un o’n dysgwyr o Goleg Gwent sydd wedi cymryd rhan yn rownd derfynol genedlaethol World Skills UK. Mae cyrraedd cyn belled â hyn yn gyflawniad anhygoel ac yn brawf o’u sgiliau. Roeddwn i’n croesi fy mysedd am ambell i fedal, ond maen nhw i gyd yn fuddugol yn fy marn i ar ôl cyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol. Bydd y sgiliau a’r priodoleddau a ddysgir gan ein myfyrwyr  drwy gystadlu gyda nhw am oes.”

Gyda 63 o gategorïau gwobrwyo gwahanol, mae’r cystadlaethau’n cynnwys yr amrywiaeth gyfan o sgiliau galwedigaethol a gynigir mewn colegau addysg bellach. Yn ystod y rowndiau terfynol, gosododd dysgwyr gwasanaeth bwyty fyrddau creadigol, hudolus a lledrithiol ar thema Harry Potter, ac aeth y dysgwyr cerbydau modur ati i chwistrellu bonedau ceir i berffeithrwydd, a’r myfyrwyr colur i greu delweddau trawiadol a theatraidd. Mae’r cystadlaethau’n arddangos sgiliau sy’n hanfodol i lawer o yrfaoedd, ac yn ysbrydoli’r dysgwyr i fod yn greadigol a meddwl mewn ffyrdd newydd.

Drwy gystadlu yn WorldSkills UK, mae ein myfyrwyr yn helpu i godi safon genedlaethol addysg sgiliau, ac yn meithrin eu hyder a’u cymhwysedd eu hunain ar yr un pryd. Mae hwn wedi bod yn gyfle iddynt fireinio eu sgiliau, cael gwybodaeth gan arbenigwyr, cael profiad gwerthfawr ar gyfer eu CVs a rhwydweithio gyda myfyrwyr dros y wlad.

Best results ever in WorldSkills UK

Pencampwyr WorldSkills UK Coleg Gwent

Rydym yn hynod falch o’r holl ddysgwyr a gyrhaeddodd i rownd derfynol WorldSkills UK, a llongyfarchiadau i’n 11 pencampwyr sgiliau a gipiodd fedalau aur, arian, efydd a chanmoliaeth uchel. Go dda Tîm Coleg Gwent!

Aur:

  • Ryan Williams – Celf Gemau Digidol 3D
  • Chloe Vicary – Colur Creadigol ar gyfer y Cyfryngau
  • Sam Smith – Sgiliau Sylfaenol: Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes
  • Ceri Duke – Trin Gwallt

“Mae’n deimlad anghredadwy ennill y wobr Aur! Ni allwn fod wedi dychmygu’r peth. Ond roeddwn i wrth fy modd â’r hyfforddiant ychwanegol a gefais, ac roeddwn yn teimlo’n barod amdani wrth fynd i’r gystadleuaeth oherwydd hynny.” – Ceri Duke

Arian:

  • Niah Lewis – Celf Gemau Digidol 3D
  • Kelsie Evans – Colur Masnachol

“Mae’n deimlad da bod yn enillydd ac mae WorldSkills UK yn bendant wedi bod yn brofiad gwahanol. Rwyf wedi mwynhau’r holl brofiad.” – Niah Lewis

Efydd:

  • Dylan Taylor – Colur Masnachol
  • Sacha Ellis-Stych – Sgiliau Sylfaen: Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes
  • Kenzie Randle – Sgiliau Sylfaen: Cerbydau Modur
  • Ethan Thomas – Sgiliau Sylfaen: Gwasanaeth Bwyty

“Mae wedi bod yn wych cwrdd â phobl newydd, mynd i leoedd newydd a chael y cyfle i gymryd rhan yn WorldSkills. Nid oeddwn erioed yn disgwyl cael medal, felly roedd yn dipyn o syndod ac mae’n wych!” – Sacha Ellis-Stych

Canmoliaeth uchel:

  • Eleanor Styles – Colur Creadigol ar gyfer y Cyfryngau

Y gystadleuaeth sgiliau nesaf sy’n digwydd yw Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sydd ar agor i geisiadau ac mae ychydig ddyddiau ar ôl i gofrestru. Llwyddwch yn eich gyrfa,  gyda hyfforddiant galwedigaethol yn y coleg sy’n perfformio orau yng Nghymru –  ewch i gael golwg ar ein cyrsiau nawr