En
Food photography and Tin Can Kitchen business card

Gweithio gyda Chyflogwyr Lleol - Tin Can Kitchen


13 Ionawr 2021

Yn Coleg Gwent, rydym yn falch fod gennym gysylltiadau cryf gyda chyflogwyr lleol, ac rydym yn cychwyn 2021 gyda ffordd o weithio a arweinwyd gan gyflogwyr. Rydym yn credu mai’r ffordd orau o adnabod anghenion cyflogwyr yw drwy weithio’n agos gyda nhw, i ddatblygu ein cwricwlwm a chyrsiau er budd gweithlu’r dyfodol.

Mae nifer o ffyrdd i gyflogwyr lleol weithio gyda ni. Mae’n fanteisiol i’w busnes a’n dysgwyr, ac mae busnes arloesol Tin Can Kitchen yn Nhrefgwilym yn enghraifft o un cyflogwr lleol rydym wedi gweithio ag o’n ddiweddar, ac roedd y bartneriaeth yn llwyddiant enfawr.

Cyflwyno Tin Can Kitchen

Gwasanaeth danfon bwyd yw Tin Can Kitchen, ac fe’i lansiwyd yng nghanol pandemig COVID-19. Roedd y cysyniad gwreiddiol yn syml – cwrt bwyd allanol, bar a lleoliad, yn cynnwys oddeutu 9 cegin mewn cynhwysydd cludo, gyda phob un yn gweini ystod eang o brydau bwyd wedi’u hysbrydoli gan arddull bwyd stryd. Fodd bynnag, pan gyrhaeddodd y pandemig, roedd dau ddewis yn wynebu’r perchnogion, Jordan Phillips, Barry Fallon ac Amar Karia: rhoi’r gorau i’w cynllun, neu addasu.

Tin Can Kitchen business card with cans

Penderfynon nhw addasu i’r sefyllfa yr oeddynt ynddi, a lansio eu busnes drwy weithio mewn cegin mewn un cynhwysydd cludo er mwyn cynnig bwyd o ansawdd bwyty. Fe ddechreuon nhw drwy arbenigo mewn byrgyrs Cajwn, cŵn poeth Americanaidd a burritos gyda rysáit Mecsicanaidd traddodiadol, ac fe ddylunion nhw eu gwefan a system archebu eu hunain i gystadlu gyda Just Eat, Deliveroo ac Uber Eats.

Wrth i’r busnes fynd o nerth i nerth, ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Tin Can Kitchen eu bod nhw’n agor ‘can’ #2 – gwasanaeth danfon pitsas o’r enw Al Forno. Fodd bynnag, wrth i’r busnes ddatblygu, roeddynt angen help llaw.

Sut gweithiodd Tin Can Kitchen a Coleg Gwent gyda’i gilydd?

Am ei fod yn fusnes newydd, roedd Tin Can Kitchen eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau a’u helpodd nhw i ffynnu. Roedd y coleg wedi’i leoli’n agos at Tin Can Kitchen, ac roedd y perchnogion, Jordan, Barry ac Amar yn ymwybodol ein bod ni’n gweithio gydag amrywiaeth o fusnesau lleol, felly roedd yn gwneud synnwyr iddynt gysylltu â Champws Crosskeys am gymorth.

Mae arddangos eu cynnyrch yn y ffordd orau ar draws ystod o sianelau yn hanfodol ar gyfer llwyddiant Tin Can Kitchen. Felly, fe weithion nhw gyda’n hadran ffotograffiaeth ar gampws Crosskeys i gael lluniau o safon proffesiynol o’u cynnyrch at ddibenion marchnata. Llwyddodd ein myfyrwyr ffotograffiaeth talentog i dynnu lluniau o’u bwydlen nos gyfan yn ein stiwdios, a’u galluogi nhw i ddarparu lefel o broffesiynoldeb nad oedd Tin Can Kitchen yn gallu ei ddarparu ar y safle. Dywedodd Jordan “roedd y lefel o broffesiynoldeb a dyfeisgarwch a arddangoswyd ar y diwrnod yn rhagorol.”

Photography learner taking photo of a burger

Oherwydd y bartneriaeth hon, mae Tin Can Kitchen wedi cael deunyddiau gweledol arbennig ar gyfer hyrwyddo eu gwefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol, ac yn ogystal, mae mwy o waith ar y cyd â Coleg Gwent yn yr arfaeth. Maent eisoes wedi trefnu sesiwn tynnu lluniau ar y safle ar gyfer eu gwasanaeth danfon pitsas newydd, lle bydd nifer o ddysgwyr yn gweithio gydag Al Forona i greu ystod o ddeunyddiau golygyddol, dan arweiniad Peter Britton, tiwtor ffotograffiaeth.

Burger on a wooden platter

Yn y cyfamser, mae’r bartneriaeth yn rhoi cyfle i’n dysgwyr weithio ar friff prosiect byw gyda busnes lleol. Mae’r profiad yn eu helpu nhw i wella eu sgiliau, a rhoi golwg fanwl iddynt o’r yrfa greadigol ac amrywiol hon, a’r mathau o brosiectau y gallant weithio arnynt ar ôl gadael y coleg. Dywedodd Peter Britton, darlithydd ffotograffiaeth:

“Rhoddodd Tin Can Kitchen gyfle i’n myfyrwyr Ffotograffiaeth Gradd Sylfaenol ymarfer ffotograffiaeth bwyd yn y stiwdio proffesiynol yng Nghampws Crosskeys. Darparodd y Tin Can Kitchen eu bwydlen lawn, yn cynnwys byrgyrs gourmet, cŵn poeth, burritos, byrgyrs llysieuol a phrydau ar yr ochr i’r myfyrwyr gradd dynnu lluniau ohonynt (a’u mwynhau ar ddiwedd y sesiwn!). Cafwyd diwrnod gwych, ac ar ôl y sesiwn tynnu lluniau, roedd gan y myfyrwyr bortffolio ffotograffiaeth bwyd proffesiynol, a chleient clodfawr i’w ychwanegu i’w rhestr. Derbyniodd Tin Can Kitchen luniau arbennig ar gyfer eu gwefan a llwyfannau cymdeithasol, ac fe enillodd y myfyrwyr enw i’w ychwanegu i’w portffolio, a phrofiad gwerthfawr o dynnu lluniau yn y stiwdio.”

Mae gweithio gyda chyflogwyr yn ein cymuned yn ein helpu ni i deilwra ein cwricwlwm, i ddarparu’r sgiliau y bydd ein dysgwyr eu hangen ar gyfer y byd gwaith, a darparu ein cyflogwyr lleol gyda gweithlu medrus tu hwnt. Os ydych chi’n fusnes allai elwa o bartneriaeth gyffelyb gyda ni, dysgwch fwy nawr.