En
Torfaen Learning Zone

Parth Dysgu Torfaen yn croesawu gwesteion arbennig


25 Hydref 2021

Er bod Campws Parth Dysgu Torfaen wedi agor yn gynharach eleni ar gyfer addysgu a dysgu, dim ond digwyddiad bach, oedd yn cadw at reolau cadw pellter cymdeithasol, oeddem yn gallu ei gynnal i nodi’r achlysur oherwydd y cyfyngiadau COVID ar y pryd. Felly, nid ydym wedi cael y cyfle i ddathlu’r cyfleusterau newydd gwych sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghwmbrân yn iawn. Yr wythnos ddiwethaf, cynaliasom ddathliad agoriadol swyddogol gyda’n partneriaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, gyda phobl bwysig iawn a gwesteion arbennig o Lywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn y theatr ragorol sydd ar Barth Dysgu Torfaen, gydag ambell i araith gan Guy Lacey, Pennaeth Coleg Gwent; Lynne Neagle, Aelod o’r Senedd; Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen; a’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Addysg. Yn ystod yr areithiau, dadorchuddiwyd plac swyddogol ar gyfer y campws, ac yna cafodd gwesteion deithiau o amgylch yr adeilad dan arweiniad dysgwyr o’r campws a siaradodd am y cyfleusterau a oedd ar gael.

Mae dros 1200 o ddysgwyr wedi cofrestru ym Mharth Dysgu Torfaen, ac mae’r flwyddyn gyntaf ar ein campws newydd yn barod yn llwyddiant. Gwelsom ganlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol rhagorol yn ystod yr haf, ac mae’r flwyddyn academaidd newydd wedi dechrau’n dda. Mae ein dysgwyr a’n staff yn mwynhau manteisio ar y cyfleusterau o’r radd flaenaf, a’r mannau agored a llachar sydd ar y campws.

Dyma beth sydd gan rhai o’n myfyrwyr i’w ddweud am eu profiadau ym Mharth Dysgu Torfaen hyd yn hyn:

Mae Prshux Kapdee, 17 oed o Flaenafon ac Maisie Mutlow, 16 oed o Abersychan yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Abersychan. Mae Maisie bellach yn astudio Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Drama Safon Uwch, a dywedodd: “Rwyf wrth fy modd â’r coleg! Mae gan yr athrawon hyder ynoch chi, ac yn eich addysgu chi fel oedolyn.”

Mae Prshux yn astudio Bioleg, Seicoleg, Mathemateg a Mathemateg Bellach Safon Uwch, a dywedodd: “Rwy’n ei fwynhau’n fawr, ac yn mwynhau fy mhynciau. Mae’r lleoliad yn wych, a gall myfyrwyr fynd i’r dref os oes ganddynt lawer o amser rhydd rhwng gwersi.

Mae Leah Walters yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Croesyceiliog, a threuliodd blwyddyn yn astudio yn Henffordd, cyn dod i Barth Dysgu Torfaen. Mae Leah yn astudio Bioleg, Cemeg, Athroniaeth a’r Gyfraith ar lefel Safon Uwch, a dywedodd: “Mae yna ddigonedd o leoedd astudio ar gyfer myfyrwyr. Rwy’n mwynhau’r pynciau, ac mae’r athrawon yma yn gefnogol iawn. Mae yna ddigon o le ar y campws, llawer o gyfleusterau a staff cyfeillgar ac mae’n hawdd iawn siarad â nhw.”

Mae Macy Richards sy’n 17 oed, yn teithio o Gasnewydd ac yn astudio Cemeg, Bioleg a Mathemateg Safon Uwch. Dywedodd: “Yn ogystal â’r cyfleusterau gwych, mae’r amgylchedd yma llawer gwell gan fod eich iechyd meddwl yn cael ei flaenoriaethu er mwyn sicrhau eich bod yn llwyddo, ac mae myfyrwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.”

Dysgwch fwy am astudio ym Mharth Dysgu Torfaen yn ein digwyddiad rhithiwr agored nesaf, lle cewch gwrdd â’r tiwtoriaid, gweld yr amrywiaeth o gyrsiau a gwasanaethau cymorth sydd ar gael, a mynd ar deithiau rhithiwr o amgylch y campws newydd anhygoel. Cofrestrwch yma!