En
TLZ topping out

Seremoni Gosod Carreg Gopa Parth Dysgu Torfaen


16 Medi 2019

Seremoni Gosod Carreg Gopa Parth Dysgu Torfaen

Gosodwyd y garreg gopa ym Mharth Dysgu Torfaen mewn seremoni arbennig i nodi’r garreg filltir ddiweddaraf yn y datblygiad gwerth £24 miliwn. Cynhaliwyd y dathliad ar ben y to gyda Chyngor Torfaen ar ddydd Iau, Medi 12, wrth i ni edrych ymlaen at groesawu’r dysgwyr cyntaf ym mis Medi 2020.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Cyngor Torfaen: “Mae’r digwyddiad hwn yn nodi carreg filltir sylweddol arall yn y datblygiad cyffrous hwn. Mae yna lawer o waith yn digwydd gyda Choleg Gwent, yr ysgolion a’r cyngor i sicrhau bod y myfyrwyr yn cael y trosglwyddiad gorau posib o’r ysgol i Barth Dysgu Torfaen” Dywedodd y Cynghorydd David Yeowell, yr aelod gweithredol dros Addysg: “Mae hon yn foment bwysig iawn i Barth Dysgu Torfaen, mae’r gwaith yn mynd rhagddo yn dda a bydd yn trawsnewid addysg ôl-16 i fyfyrwyr Torfaen, gan gynnig y cwricwlwm gorau posibl iddynt mewn amgylchedd dysgu modern o ansawdd uchel.”

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru: “Er bod ein cyllideb wedi cael ei thorri o ganlyniad i’r cyni ariannol, rydym yn blaenoriaethu arian i adeiladu ysgolion a cholegau newydd. Mae Parth Dysgu Torfaen yn fuddsoddiad £12 miliwn yn yr ardal a bydd yn welliant mawr. Wrth i ni nodi 20 mlynedd ers datganoli mae cyhoeddiad heddiw yn enghraifft o sut rydym ni’n gwneud gwahaniaeth i fywydau myfyrwyr ac athrawon yn Nhorfaen.” Dywedodd Pennaeth Coleg Gwent, Guy Lacey, ”

Mae hwn yn ddiwrnod cyffrous yn natblygiad Parth Dysgu Torfaen, a bydd yn gyfleuster anhygoel i ddysgwyr yr ardal. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu ein dysgwyr cyntaf pan fyddwn yn agor y drysau fis Medi nesaf Parth Dysgu Torfaen Bydd Parth Dysgu Torfaen yn gartref i’r holl addysg Safon Uwch cyfrwng Saesneg yn Nhorfaen a bydd hefyd yn cynnig y cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac ystod o gymwysterau lefel 2 a lefel 3.

Mae’r campws wedi’i leoli mewn lleoliad gwych wrth ymyl siop Morrisons yng nghanol Cwmbrân gyda chysylltiadau rhagorol â thrafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau yng nghanol y dref. Bydd yn gwasanaethu pob disgybl yn y fwrdeistref a bydd yn dod yn llwybr i fyfyrwyr Torfaen i addysg uwch, hyfforddiant a chyflogaeth. Bydd yn disodli’r tri chweched dosbarth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn y fwrdeistref a bydd yn cael ei reoli a’i redeg gan Goleg Gwent mewn partneriaeth â’r cyngor. Bydd y chweched dosbarth yn Ysgol Croesyceiliog, Ysgol Uwchradd Cwmbrân ac Ysgol Uwchradd St Albans RC yn cau ar ddiwedd tymor yr haf 2020 i gyd-fynd ag agor y ganolfan newydd yng Nghwmbrân ym mis Medi 2020!