8 Rhagfyr 2020
Ar ôl blwyddyn anodd yng nghanol pandemig byd-eang sydd wedi effeithio ar bob un ohonom, rydym yn teimlo’n gyffrous i orffen y flwyddyn ar nodyn mwy cadarnhaol trwy gyhoeddi bod Parth Dysgu Torfaen yn mynd i agor ychydig ar ôl y Nadolig. Byddwn yn dechrau’r Flwyddyn Newydd ar ein campws modern newydd sbon yng nghanol Cwmbrân ar 4 Ionawr 2021 ac rydym ar bigau i’ch croesawu trwy ei ddrysau.
Mae Parth Dysgu Torfaen yn rhan o raglen Ysgolion a Cholegau 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Mae’r Parth Dysgu sy’n cael ei reoli a’i redeg gan Goleg Gwent mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn disodli tri chweched dosbarth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn y fwrdeistref a bydd yn gartref i’r holl addysg Safon Uwch yn Nhorfaen. Bydd hefyd yn cynnig y cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac ystod o gymwysterau lefel 2 a 3 cyflenwol, gan ddod â gwasanaethau addysg bellach yn Nhorfaen ynghyd o dan un to.
Er gwaethaf ansicrwydd COVID-19, mae’r gwaith o adeiladu’r campws newydd wedi gwneud cynnydd da eleni ac mae wedi dod yn bell ers y cyhoeddiad gwreiddiol a wnaed i’r holl staff, dysgwyr a’r gymuned ehangach yn ôl ym mis Mehefin 2018.
Y Daith i Barth Dysgu Torfaen
Dywedodd y Pennaeth Guy Lacey “rydym i gyd yn teimlo’n gyffrous iawn yn y Coleg ynghylch agor Parth Dysgu newydd Torfaen ym mis Ionawr. Bydd yn le gwych i ddysgu ac astudio ac ni allwn aros i weld ein myfyrwyr yn ei ddefnyddio. Mae wedi bod yn broses hir i gyrraedd yma, ond ym mis Ionawr, diolch i’n partneriaid yn Nhorfaen, byddwn yn agor ein drysau. Efallai bod y pandemig wedi gohirio pethau, ond nid yw wedi ein rhwystro rhag cyrraedd y nod o gael Coleg newydd anhygoel i holl bobl ifanc ac oedolion sy’n ddysgwyr yn Nhorfaen.”
Gan ddilyn model tebyg i Barth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy, bydd yr adeilad yn gwbl hygyrch a bydd yn cynnwys cyfleusterau arbenigol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae’r campws yn llachar, yn olau, yn cael digon o awyr a gydag amwynderau a chyfleusterau modern – amgylchedd delfrydol ar gyfer dysgu ac ysbrydoli meddyliau ifanc. Mae lleoliad cyfleus y Parth Dysgu wrth ymyl siop Morrisons yng nghanol y dref hefyd yn hygyrch i ddysgwyr a staff, gyda chysylltiadau rhagorol â thrafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Cyngor Torfaen: “Bydd Parth Dysgu Torfaen yn helpu i sicrhau ffordd fwy cynaliadwy o gyflwyno addysg ôl-16 yn Nhorfaen. Ein cymhelliant fel bob amser yw ein dysgwyr, a sicrhau y byddant yn gallu cyrchu’r cwricwlwm ehangaf posibl ac ansawdd y ddarpariaeth yn y dyfodol.’
Gallwch ddysgu am ein campws newydd a’r cyrsiau sydd ar gael yma, ac os ydych yn ystyried ymuno fel dysgwr, cofrestrwch ar gyfer ein digwyddiad agored rhithiol nesaf nawr.