En
Learners recording rock school lockdown album

Dysgwyr Ysgol Roc yn recordio albwm yn ystod y cyfnod clo


19 Mawrth 2021

Rydym oll wedi bod yn gweithio trwy’r heriau a’r newidiadau sy’n deillio o addysgu a dysgu o bell dros y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, ar gyfer ein cyrsiau mwy ymarferol fel Cerddoriaeth, mae ein dysgwyr creadigol wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau i ddod o hyd i ffyrdd cyffrous ac arloesol o wneud y mwyaf o’r sefyllfa sydd ohoni.

Ymddengys bod ein dysgwyr Ymarferwyr Cerddoriaeth Ysgol Roc Lefel 3 o Barth Dysgu Blaenau Gwent wedi dod o hyd i ysbrydoliaeth yn ystod y pandemig. Wrth ddysgu o gartref, maent wedi bod yn rhannu syniadau newydd creadigol a chyffrous yn rhagweithiol ymysg ei gilydd. Felly, yn ystod cyfnod pan na allent fod yn y coleg yn gweithio gyda’i gilydd, maent wedi bod yn brysur yn cydweithio ar albwm cyfnod clo, yn rhan o’u hastudiaethau.

Mae’r prosiect Albwm Cyfnod Clo Ysgol Roc yn ategu eu hastudiaethau ar sawl lefel. Gan ymgorffori agweddau ar fodiwlau allweddol mewn ‘Cydweithio i Gyfansoddi’, ‘Perfformio Cerddoriaeth’ a ‘Rheoli Digwyddiadau Cerddoriaeth’, mae’r prosiect yn dwyn ynghyd eu holl ddysgu, gan arwain at synnwyr go iawn o gyflawniad a record sy’n gysylltiedig â’u henwau.

Rock School Album Recording - Learners in studio

Gyda 25 o ddysgwyr Ysgol Roc yn cymryd rhan, mae ystod eang o genre ac arddulliau, o Gerddoriaeth Dawns Drydanol i Fetel Ôl-graidd caled (Hardcore), a Roc i Gerddoriaeth Pop Cyfoes. Rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2020, treuliodd y dysgwyr amser yn ysgrifennu eu cerddoriaeth a geiriau gwreiddiol mewn grwpiau, bandiau ac yn unigol ar gyfer yr albwm. Gwnaethant lwyddo i recordio peth o’u gwaith gan ddefnyddio offer digidol penigamp yn ein stiwdios cerddoriaeth pan roedd rheolau’r cyfnod clo yn caniatáu iddynt fod ar y campws. Dechreuodd yr albwm ddatblygu a thyfu.

Gan dreulio diwrnodau llawn yn y stiwdio recordio, mae’r broses wedi bod yn agoriad llygad i’r dysgwyr. Cawsant eu synnu cymaint o amser oedd angen ei dreulio ar y broses recordio o’r dechrau i’r diwedd. Fodd bynnag, roedd bod yn rhan o’r prosiect yn brofiad ffantastig, gan roi persbectif gwahanol iddynt ar gymhariaeth o’i gymharu â’u perfformiadau arferol. Ac er y bydd ein dysgwyr yn gallu perfformio i gynulleidfaoedd byw ar ôl COVID, mae’r prosiect wedi bod yn gymaint o lwyddiant fel ein bod yn bwriadu parhau gyda’r prosiect albwm yn y dyfodol. Mae’n gyfle gwych i arddangos gwaith caled a thalentau ein dysgwyr.

Bellach, mae’r dysgwyr Ysgol Roc yn bwriadu gorffen recordio eu cerddoriaeth wreiddiol yn y stiwdio ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent pan fyddant yn gallu dychwelyd i’r campws, ac yn bwriadu lansio’r albwm yn ystod haf 2021 gyda digwyddiad yn Sefydliad Glyn Ebwy i nodi’r achlysur pan fydd cyfyngiadau COVID yn caniatáu hynny. Bydd yr albwm ar gael i’w brynu a’i lawrlwytho.

Rock School Album Recording - Learners in studio

Mae Holly Ellis, Tiwtor Cerddoriaeth, yn falch iawn o’i dysgwyr Ysgol Roc a’r safon ardderchog a’u hagwedd gwaith ysbrydoledig mewn blwyddyn mor anodd. Er nad yw’r dysgwyr wedi cael y cyfleoedd arferol i berfformio i gynulleidfa fyw, mae’r albwm yn arddangos eu talent anhygoel, eu creadigrwydd ysbrydoledig a’u hagwedd bositif, ac rydym yn gwybod y byddant yn mynd yn bell yn eu gyrfaoedd cerddoriaeth.

Felly, os yw gyrfa mewn cerddoriaeth yn apelio i chi, boed hynny’n ysgrifennu caneuon, peiriannydd sain neu’n cymryd rhan mewn cynhyrchu cerddoriaeth, gwnewch gais i astudio cerddoriaeth gyda ni heddiw. Gyda’r Diploma Cerddoriaeth Ysgol Roc ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent ac ystod o gyrsiau mewn Cynhyrchu Cerddoriaeth a Thechnoleg Gerddoriaeth ar Gampws Crosskeys hefyd, gallwch wneud Cerddoriaeth yn yrfa gyda Coleg Gwent.