En
AAA screening at Blaenau Gwent Learning Zone

Cefnogi Menter Sgrinio AAA Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nglynebwy


16 Awst 2021

Yn ystod mis Awst, rydym yn cefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda menter gofal iechyd benodol yng Nglynebwy i ddarparu sgrinio AAA hygyrch i’r gymuned leol ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent.

Fel coleg addysg bellach sy’n hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd, gwnaethom weithio’n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i’w cefnogi nhw yn ystod pandemig COVID 19, a galluogi dysgwyr i ennill profiad gwerthfawr ar y rheng flaen ar yr un pryd. Dyma bartneriaeth newydd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Coleg Gwent fydd yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i fod ar flaen eu rhaglen sgrinio yn y gymuned leol, gan elwa trigolion yn rhanbarth Blaenau Gwent.

Dywedodd Gary Handley, Cyfarwyddwr Cyfadran ar gyfer Astudiaethau Cymunedol a Gofal; “Rydym yn falch iawn o gefnogi ein GIG lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y ffordd hon. Yn ystod y pandemig, rydym wedi gweithio’n agos iawn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae hwn yn gyfle arall i ni gefnogi’r gymuned leol rydym yn rhan ohoni, a chodi ymwybyddiaeth am faterion iechyd cyffredinol gyda dysgwyr; ac mae llawer ohonynt yn astudio cyrsiau gofal iechyd. Rydym yn benodol eisiau darparu cymorth mewn unrhyw ffordd bosib i helpu i leihau’r ôl-groniad mewn diagnosis cynnar ataliol sy’n bodoli oherwydd effaith Covid-19 ar ein darpariaeth gofal iechyd ‘arferol’.”

AAA screening at Blaenau Gwent Learning Zone

Cynigir y Rhaglen Sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen (AAA) i ddynion 65 oed sy’n byw yng Nghymru, ond mae wedi cael ei heffeithio gan bandemig COVID 19, ac mae ôl-groniad o ddynion sy’n disgwyl am apwyntiadau a gostyngiad mewn lle sydd ar gael yng nghlinig yr ardal leol. Felly, er mwyn helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda’i fwriad i sgrinio dynion 65 oed a hŷn, rydym wedi cynnig ein hadeilad ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy fel y prif safle ar gyfer y gwasanaeth sgrinio.

Mae hyn yn bosib gyda diolch i staff Parth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy, sydd wedi cynnig ystafelloedd i gynnal clinigau sgrinio yn eu lleoliad. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio ar y campws bedwar diwrnod yr wythnos ym mis Awst i gynnig 350 apwyntiad ychwanegol i ddynion yn yr ardal leol. Cynghorir y cyhoedd i beidio â defnyddio’r gwasanaeth heb wahoddiad. Cynigir y gwasanaeth sgrinio AAA ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent drwy apwyntiad yn unig rhwng Awst 2-23, i ddynion 65 oed yng Nglynebwy, Brynmawr, Abertyleri ac ardaloedd cyfagos. Anfonir gwahoddiadau i ddynion sy’n 66 oed, na chafodd wahoddiad tra roeddynt yn 65 oed oherwydd pandemig COVID-19. Ni all dynion alw heibio a gofyn am sgan ar y diwrnod; fodd bynnag, gall y dynion hynny sydd dros 65 oed, ac nad ydynt erioed wedi cael apwyntiad ar gyfer y prawf, hunan-gyfeirio drwy ffonio 01443 235161.

Dysgwch fwy am sut rydym wedi gweithio gyda’r bwrdd iechyd lleol a’r profiadau y gallech fanteisio arnynt fel myfyriwr iechyd a gofal yn Coleg Gwent. Nid yw hi’n rhy hwyr i ymuno â ni ym mis Medi.