En
 - Student Hannaliese achieves with the help of CG Ambitions

Cyfarfod â’r Dysgwr: Hannaliese yn llwyddo gyda help Uchelgeisiau CG


4 Tachwedd 2021

Enw: Hannaliese Turner
Cartref: Y Coed-duon
Cwrs: Busnes Lefel 3
Campws: Campws Crosskeys

Uchelgais Hannaliese, myfyriwr Busnes, yw mynd â’r maen i’r wal yn y byd proffesiynol, ac eisoes mae hi wedi llwyddo i gael lleoliad haf gyda help tîm Uchelgeisiau CG. Cred Hannaliese y bydd y sgiliau a’r wybodaeth a enillodd yn y coleg, trwy gyfrwng ei chwrs a hefyd trwy ei bywyd yn y coleg, yn ei helpu i lwyddo yn y byd busnes. Darllenwch yn eich blaen i glywed am ei phrofiad…

Beth yw’r peth gorau ynglŷn ag astudio yn Coleg Gwent?

“Ers ymuno â’r coleg rydw i wedi magu cymaint o hyder, yn ogystal â gwneud nifer o gyfeillion newydd. Mae ein tiwtoriaid yn wych, maen nhw’n gweithio mor galed ac yn mynd i drafferth fawr i’n helpu i ennill ein graddau ar ddiwedd y flwyddyn. Rydw i mor falch fy mod wedi magu digon o hyder i ymuno ag Undeb y Myfyrwyr, oherwydd doeddwn i ddim yn hyderus iawn yn yr ysgol. Ond yna, fe ddes i i’r coleg, a meddyliais y byddai Undeb y Myfyrwyr yn cynnig profiad gwych imi – erbyn hyn, rydw i’n cwblhau fy nghwrs yn llwyddiannus ochr yn ochr â bod yn Llysgennad Myfyrwyr. Fuaswn i byth bythoedd wedi bod yn ddigon hyderus i wneud hynny o’r blaen!”

Sut wnaeth tîm Uchelgeisiau CG eich cynorthwyo?

“Pan ddywedais wrth aelodau tîm Uchelgeisiau CG am y sefydliad roeddwn i’n dymuno gweithio iddo, fe wnaethon nhw fy helpu i lunio fy CV a llythyr eglurhaol. Cefais lu o awgrymiadau ganddyn nhw ynglŷn â gwella cynnwys fy CV, a hefyd cefais help i baratoi ar gyfer cyfweliadau, dysgu sgiliau i’m helpu ar y diwrnod a gwneud imi deimlo’n hyderus. Fe wnaeth y cymorth a gefais gan y tîm fy helpu i gael swydd haf yn y sefydliad – cefais flas mawr ar weithio yno.”

Beth yw eich nodau yn y tymor hir ar ôl gorffen eich cwrs?

“Hoffwn weithio fel Cynorthwyydd Gweinyddol ac yna mentro i’r byd Rheoli Busnes. Yn y tymor hir, buaswn wrth fy modd yn gweithio mewn cwmni proffidiol a llwyddiannus, gan fynd i’r afael â’r gwaith o’i reoli hyd yn oed, o bosibl. Rydw i’n credu y bydd modiwlau fy nghwrs yn ddefnyddiol iawn o ran cyflawni’r nodau hyn, oherwydd maen nhw’n ymdrin â thoreth o wybodaeth sy’n ddefnyddiol ar gyfer rhedeg busnes.”

Cael cymorth gan Uchelgeisiau CG i fynd â’r maen i’r wal

Ein nod bob amser yw cynorthwyo ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod o hyd i’r llwybr gyrfa sy’n iawn iddyn nhw. Gwnawn hyn trwy gyfrwng ein hamrywiaeth enfawr o gyrsiau a hefyd trwy gyfrwng y cymorth ychwanegol a gynigwn mewn perthynas â gyrfaoedd.

Mae hyn yn cynnwys ein hwb gyrfaoedd newydd, a elwir yn Uchelgeisiau CG, lle cewch y cymorth a’r adnoddau y byddwch eu hangen i gyflawni eich potensial. Rydym yn cynnig:

  • Cymorth gyda sgiliau cyflogadwyedd
  • Cyngor ynghylch gyrfaoedd
  • Arweiniad ar ddechrau busnes
  • Hyfforddiant ar gyfer cyfweliadau
  • Help gyda CVs
  • Cymorth gyda chynlluniau busnes.

Mae Uchelgeisiau CG yn helpu i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith – ac rydym yma yn barod i’ch helpu! Ydych chi awydd cyrraedd eich potensial yn Coleg Gwent? Chwiliwch am y cwrs sy’n berffaith i chi trwy ddefnyddio ein chwiliad cyrsiau, neu i ddysgu rhagor cofrestrwch i gymryd rhan yn ein digwyddiad agored.