En
Interns celebrate Learning Disability Week with successful first cohort of pilot scheme

Interniaid yn dathlu Wythnos Anabledd Dysgu gyda charfan gyntaf lwyddiannus o gynllun peilot


24 Mehefin 2022

Yr wythnos Anabledd Dysgu hon, mae ein hinterniaid wedi cyrraedd diwedd y cwrs cyntaf o gynllun peilot drwy weithio gydag adrannau gwahanol o’r tîm Cyfleusterau yn Ysbyty Nevill Hall.

Dechreuodd y grŵp o 6 dysgwr Sgiliau Dysgu Annibynnol (ILS) o Gampws Crosskeys arinterniaethau gyda chefnogaeth drwy  Engage to Change Gwent* ym Medi 2021.

Mae’r interniaethau wedi eu dylunio i gynorthwyo dysgwyr i gael profiad gwaith gwerthfawr ac ystyrlon ar draws gwahanol Adrannau yn yr ysbyty. Mae’n rhoi blas ar weithio yn y diwydiant iechyd iddyn nhw, tra’n cael cymorth i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a’u hyder.

Mae Terry Williams, Goruchwyliwr Cyfleusterau Ysbyty Nevill Hall, wedi bod yn ymwneud ag edrych ar ôl y rhaglen ochr yn ochr â staff Coleg Gwent. Eglurodd;

“Mae’n wych gallu rhoi sgiliau rhyngweithiol i fyfyrwyr oherwydd mae gennym lawer o gyswllt â chleifion. Maen nhw’n dysgu llawer o sgiliau, gan gynnwys iechyd a diogelwch a darparu gwasanaeth.”

Yn ystod eu hinterniaethau, mae’r myfyrwyr wedi bod yn treulio 4.5 awr, 3 diwrnod yr wythnos, gyda staff Cyfleusterau gweithredol yn ei swyddi, yn dysgu sut beth yw gweithio mewn ysbyty. Tra’n cysgodi glanhawyr, gweinyddesau, porthoriaid, a staff gweinyddol, mae’r myfyrwyr wedi bod yn dysgu’r dulliau gorau o gyfathrebu gyda chleifion a chydweithwyr, yn ogystal â dysgu sut i wneud tasgau hanfodol sy’n cynnal ansawdd gofal cleifion

Mae’r dysgwyr wedi cyfuno’n dda â staff yn ystod eu lleoliadau interniaeth, ac rydym wedi gweld eu hyder yn tyfu a thyfu. Dywedodd Terry;

“Maen nhw’n dod â chymaint o bersonoliaeth i’r ysbyty a byddwn yn colli eu cael yma yn ein cynorthwyo bob wythnos.”

Sbardunwyd y fenter oherwydd yr angen i ddatblygu oedolion ifanc sydd ag anableddau dysgu ymhellach yn ein cymuned. Mae’n darparu cyfle am brofiad gwaith yn y byd go iawn a all fod o gymorth i’w paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus ar ôl gadael y coleg.

Cytunwyd ar gynlluniau ac mae cynllunio yn mynd rhagddo ar gyfer y tymor interniaeth nesaf fydd yn dechrau mis Medi, gyda staff Cyfleusterau yn yr ysbyty yn edrych ymlaen at lwyddiant pellach yn cynorthwyo myfyrwyr o Coleg Gwent.

Dysgwch fwy am raglenni ILS a’n hinterniaethau gyda chefnogaeth yn ein digwyddiad agored nesaf – cofrestrwch yma.

 

* Mae’r prosiect Engage to Change yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth ag Anabledd Dysgu Cymru, Agoriad Cyf, Prifysgol Caerdydd, ELITE a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Mae’n cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol.

play