En
Matthew dancing at Strictly Cymru

Dysgwr yn cael ei Goroni fel Enillydd Cystadleuaeth Dawns Gynhwysol Strictly Cymru


15 Chwefror 2021

Llongyfarchiadau i ddysgwr Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS), Matthew Morley o Gampws Dinas Casnewydd, a gurodd dros 230 o gystadleuwyr i ennill teitl yng nghystadleuaeth Dawns Strictly Cymru Leonard Cheshire (CanDo).

Fel coleg cynhwysol, rydym yn annog ein holl ddysgwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol a chyfleoedd cyfoethogi i wella eu profiad dysgu a datblygu sgiliau gydol oes. Ac mae Strictly Cymru yn llawer mwy na chystadleuaeth ddawns yn unig – mae’n gyfle i unigolion fel Matthew fagu hyder, credu ynddyn nhw eu hunain, cwrdd â phobl newydd, a rhoi cynnig ar rywbeth newydd, gan ategu ein cyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol yn berffaith.

Beth yw Strictly Cymru?

Mae Strictly Cymru yn gystadleuaeth ddawns ar draws anabledd a gynhelir yng Nghymru, sy’n cael ei rhedeg gan yr elusen anabledd rhyngwladol Leonard Cheshire, mewn partneriaeth â Paradance UK. Gall unrhyw un sy’n hunan-uniaethu ag anabledd gymryd rhan yn y gystadleuaeth naill ai yn y categori cadair olwyn neu’r categori cynhwysol, a dyma’r categori y bu i Matthew, dysgwr Coleg Gwent, gofrestru ar ei gyfer a’i ennill.

Cymerodd y cystadleuwyr ran mewn rhagbrofion yn Ynys Môn, Wrecsam, Caerfyrddin, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Chasnewydd, gan ddysgu dawns ddisgo dros 2 ddiwrnod, a chystadlu am un o 12 lle yn y rowndiau terfynol. Rydym mor falch o Matthew am ymuno â Strictly Cymru a rhoi ei holl egni a’i angerdd i’w ddawns i ennill ei le yn y rowndiau terfynol. Bu’n ymarfer ei ddawns broffesiynol gydag ymroddiad a phenderfyniad, a dyfarnwyd y safle cyntaf iddo yn y categori ‘Cynhwysol’ diolch i’w waith caled, ei ffocws a’i ymrwymiad i’w ddawns a’i allu technegol. Dywedodd Emma Wilcox, Rheolwr Codi Arian Leonard Cheshire Cymru, “Mae Matthew wedi bod yn bleser o’r dechrau. Mae ei bersonoliaeth yn heintus ac mae ei ymrwymiad i’w ddawns wedi bod yn ysbrydoledig.”

Y rowndiau terfynol Strictly Cymru

Mae’r cyfleoedd allgyrsiol hyn yn brofiad gwych i ddysgwyr ILS fel Matthew, felly rydym yn cefnogi ac yn annog pob dysgwr i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi fel Strictly Cymru ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Rydym nawr yn edrych ymlaen at wylio’r rowndiau terfynol, gyda’r holl berfformiadau, sylwadau’r beirniaid a chyflwyniadau’r enillwyr. Roedd rowndiau terfynol 2020 i fod i gael eu cynnal yn theatr Sir Gâr Llanelli, ynghyd â phryd dathlu y noson cyn y rownd derfynol. Fodd bynnag, oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws presennol, bu’n rhaid i’r digwyddiad fynd yn rhithwir yn hytrach, a chafodd ei ffrydio’n fyw ar dudalen Facebook Leonard Cheshire Strictly Cymru am 5pm ar 13 Chwefror 2021.

Wedi cael eich ysbrydoli gan stori Matthew? Dysgwch fwy am ein cyfleoedd cyfoethogi a’n cyrsiau ILS yng Ngholeg Gwent a chofrestrwch ar gyfer ein digwyddiad agored rhithwir nesaf i gwrdd â’n tiwtoriaid arbenigol a’n staff cymorth defnyddiol.