En

Sgiliau Byw’n Annibynnol

ILS animation

Heb gael digon o wybodaeth ynghylch byw’n annibynnol yn ystod eich gwersi? Peidiwch â phoeni, mae’r holl wybodaeth yma ar eich cyfer!

Dysgwch sut i reoli arian, coginio eich bwyd eich hun, cynllunio eich gyrfa a magu hunan-barch, hyder a’r sgiliau i fyw’n annibynnol yn eich cymuned.

Mae pob cwrs yn flwyddyn o hyd, a gall myfyrwyr un ai symud ymlaen drwy ILS neu wneud cais am gyrsiau’r brif ffrwd yn y Coleg.

Mae’r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer myfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd addysgol. Mae myfyrwyr yn dysgu amryw o sgiliau creadigol a galwedigaethol, yn ogystal â pharhau i wella eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a sgiliau hanfodol eraill.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Rydym yn cynnig lle i unigolion yn seiliedig ar gyfweliad ac asesiad o anghenion yr unigolyn.

Ein cyrsiau llawn amser Ein cyrsiau rhan amser

Teithiau Rithwir 360° Sgiliau Byw’n Annibynnol

14 cwrs ar gael

Y peth gorau am y cwrs Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) yw Sue Lane fy nghyfathrebwr, oherwydd mae hi’n ddoniol! Rydyn ni’n cael llawer o hwyl ar y cwrs ac mae’r tiwtoriaid yn wych. Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd ac mae cyfle i wneud ychydig o bopeth – coginio, peintio, garddio, cerddoriaeth a chwaraeon. Rydyn ni hyd yn oed yn mynd ar deithiau fel y gallwn ddod i arfer â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Cameron Nutt
Prif Raglen SBA

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau