En
Inspiring the next generation of food scientists

Ysbrydoli’r genhadlaeth nesaf o wyddonwyr bwyd


14 Mehefin 2022

Gwnaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd groesawu criw o’n myfyrwyr Gwyddoniaeth Gymhwysol am ddiwrnod llawn o brofiad yn y Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, i gael blas ar y dewisiadau gradd a’r llwybrau gyrfa ar gael iddynt yn y sector gwyddoniaeth bwyd a maeth.

Rydym ni’n gweithio’n agos â phrifysgolion partner fel Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ddarparu  cyrsiau addysg uwch ar gampws eich coleg lleol, ac i baratoi dysgwyr ar gyfer y cam nesaf tuag at ennill gradd. Felly, yn ystod eich hastudiaethau yn Coleg Gwent, cewch gyfleoedd i fynd ar deithiau addysgol ac ymweld â phrifysgolion i ddysgu rhagor am y cyrsiau a’r gyrfaoedd y medrwch anelu atynt.

Roedd yr ymweliad â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn gyfle gwych i’n dysgwyr gyfarfod cyfarwyddwyr y cwrs, yr ymchwilwyr a’r technegwyr bwyd, i ganfod rhagor am y maes sydd o ddiddordeb iddynt ac edrych yn fanylach ar eu dewisiadau o ran cyrsiau addysg uwch.

Esboniodd un o’r dysgwyr, Ann Mati: “Roedd yn gyfle gwych i ddysgu rhagor am y sector gwyddoniaeth bwyd a’r llwybrau gyrfa yn y sector. Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai’r diwydiant bwyd angen yr holl dechnoleg fodern a blaengar yma. Roeddwn i wedi fy synnu gan y dechnoleg realiti estynedig a sut mae’n cynorthwyo i efelychu amgylcheddau i gefnogi’r sector.”

Student tour of the Zero2Five food science centre

Cynhaliodd y brifysgol y digwyddiad fel rhan o raglen ymgysylltu barhaus ag ysgolion a cholegau, gyda’r nod o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr bwyd. Gwnaeth cyfarwyddwyr y cyrsiau, Dr James Blaxland a Dr Ian Ashton, dywys y myfyrwyr o gwmpas cyfleusterau modern y Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE. Roedd hyn yn cynnwys y becws, yr ystafelloedd melysion a dadansoddi synhwyraidd, yn ogystal â’r gegin datblygu cynhyrchion newydd a’r Labordy Profiad Canfyddiadol, y cyfan ar gampws Llandaf.

Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE

Mae’r Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn brosiect cydweithredol unigryw rhwng rheolwyr â phrofiad yn y diwydiant ac academyddion uchel eu parch. Maen nhw’n gweithio ag oddeutu 150 o gwmnïau bwyd a diod Cymreig o bob maint a cham datblygiad bob blwyddyn, gan roi cymorth efo dylunio ffatrioedd, cynnig cyngor sut i ddechrau busnes, cymorth efo datblygu cynhyrchion newydd, ardystio gan drydydd parti a chydymffurfio â safonau bwyd byd-eang, diogelwch a diogeledd bwyd, deddfwriaeth labelu bwyd, maethiant, dadansoddiad o’r farchnad a marchnata.

Yn achos Mohammed Eisa, mae’r ymweliad â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd wedi newid ei farn ynghylch ei dargedau yn y dyfodol. “Fe wnaethom ni gyfarfod cyfarwyddwyr â doethuriaeth yn y maes wnaeth ddysgu llawer i ni am bwysigrwydd y diwydiant bwyd ac ansawdd y bwyd rydym ni’n ei fwyta. Roedd y Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn agoriad llygad; mae’n dangos sut mae academyddion parchus a rheolwyr technegol, masnachol a gweithredol o’r diwydiant yn cydweithio i gyflawni eu targedau.”

Yn ystod yr ymweliad, dangosodd y darlithydd a’r ymchwilydd, Dr Joe Baldwin, yr offer technoleg estynedig diweddaraf a sut mae’n cefnogi’r sector bwyd a diod yng Nghymru – rhywbeth rydym ni’n angerddol yn ei gylch yn Coleg Gwent. Roedd y myfyrwyr yn gwisgo sbectolau olrhain symudiadau’r llygaid i gael profiad o amrediad o amgylcheddau wedi’u hefelychu, yn cynnwys adwerthu bwyd, brandio a phecynnu, defnyddio sain sy’n trochi, aroglau, tymheredd a golwg i ddod â’r profiad yn fyw.

Dysgodd Isha Yousaf lawer o wybodaeth newydd ac roedd yn llawn syndod at faint o ymdrech a gymerir i gael ein bwyd ar y silffoedd. “Fy hoff ran o’r diwrnod oedd sefyll wrth y sgrîn ac ystyried sut roedd yn gwneud i mi deimlo fe pe bawn i’n siopa.”

Inspiring the next generation of food scientists

Cafodd y dysgwyr gyfle i gyfarfod myfyrwyr yn eu hail flwyddyn hefyd i holi cwestiynau am y cyrsiau a’r cyfleoedd gyrfa yn y diwydiant. Rhoddodd y profiad flas go iawn i’r dysgwyr ar sut beth yw astudio gwyddoniaeth bwyd a maeth yn y brifysgol a’r holl swyddi gwahanol ar gael yn y sector.

Sylfaen i’ch gyrfa

Mae cannoedd o gyrsiau ar gael yn Coleg Gwent mewn ystod eang o sectorau. Gallwch ddarganfod swyddi a diwydiannau nad ydych chi wedi’u hystyried o’r blaen, a gall eich gyrfa gyffrous ddechrau yma. Diolch i’n partneriaeth â’r prifysgolion allweddol, cewch brofiadau fel ymweld â ZERO2FIVE, i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich gradd a’ch gyrfa yn y dyfodol! Gwnewch iddo ddigwydd yn Coleg Gwent – gwnewch gais yn awr i fod yn rhan o un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru.