En
Business learners

Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-Eang 2020


16 Tachwedd 2020

Rhwng 16 a 22 Tachwedd, rydym yn dathlu Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2020 – wythnos o 40,000 o weithgareddau, digwyddiadau a chystadlaethau mewn 180 o wledydd ledled y byd, sy’n ysbrydoli miliynau i archwilio eu potensial fel entrepreneur. Ei nod yw dileu rhwystrau a chefnogi cynnwys unigolion a chymunedau sydd yn draddodiadol wedi wynebu rhwystrau at entrepreneuriaeth, neu’r rhai sy’n cael eu gwthio i’r ochr gan gystadleuaeth gref.

Felly, yn Coleg Gwent, rydym yn darparu wythnos o weithgareddau rhithwir i gefnogi ein dysgwyr entrepreneuraidd i weithio’n llawrydd neu ddechrau eu busnes eu hunain, heb adael i COVID-19 ohirio eu breuddwydion a’u cynlluniau. Os ydych yn ddysgwr presennol yn Coleg Gwent ac eisiau cymryd rhan, anfonwch e-bost at zoe.blackler@coleggwent.ac.uk yn ein tîm Entrepreneuriaeth a Menter i archebu eich lle ar gyfer ein hwythnos o weithgareddau entrepreneuraidd cyffrous:

  • Dydd Llun 16 Tachwedd: 1pm – 2pm Gweithdy NatWest – ‘Sut i gyflwyno unrhyw beth’
  • Dydd Mawrth 17 Tachwedd: 6pm – 7pm – Cyfres Archwilio – ‘Gweledigaeth’ gydag Ibby Taradfa Creative
  • Dydd Mercher 18 Tachwedd: 10am – 11am – Sesiwn Holi ac Ateb Menter a Chyflogadwyedd
  • Dydd Iau 19 Tachwedd: 11am – 12pm – Dod o hyd i Gyllid ar gyfer eich Busnes
  • Dydd Gwener 20 Tachwedd – Marchnad Myfyrwyr Cymru

Os oes gennych syniad busnes disglair ond nid oes gennych yr hyder na’r wybodaeth i fynd ati i ddechrau, bydd ein gweithdai a sesiynau gwybodaeth rhithwir yn eich helpu i wireddu eich breuddwydion.

Ond darllenwch ymlaen i gael eich ysbrydoli gan stori un o’n modelau rôl entrepreneuraidd, Abigail Chamberlain – cyn-fyfyriwr o Coleg Gwent sydd wedi mynd ymlaen i fod yn fenyw fusnes ifanc lwyddiannus o Gymru. Mae hi wedi gweithio’n galed i ddatblygu a thyfu ei syniad busnes ers astudio yn Coleg Gwent, hyd yn oed yn cyrraedd rownd derfynol Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn 2020 yng Nghymru.

Cyflwyno Abi a The Welsh Luxury Hamper Co.

Abi ChamberlainAstudiodd Abi, sy’n 21 oed, ein Diploma Estynedig Busnes Lefel 3 ym mis Ionawr 2019 a lansiodd ei busnes, Welsh Luxury Hamper Co, ym mis Hydref 2019 gyda chymorth Coleg Gwent, Tafflab ac Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Mae busnes Abi yn darparu hamperi moethus sy’n cynnwys y cynnyrch Cymreig gorau. Mae’n cefnogi llawer o fusnesau bwyd a diod annibynnol lleol ledled Cymru, gan arddangos eu cynnyrch drwy ei gwefan (www.welshluxuryhampercompany.co.uk) ac i’r farchnad gorfforaethol. Mae hi wedi gweithio gyda gwahanol gleientiaid proffil uchel yn ystod ei blwyddyn gyntaf, ac enwebwyd busnes Abi hefyd fel ‘Anrheg Foethus a Chorfforaethol Orau’ 2020 yn y DU.

Mae dechrau ei busnes ei hun yn rhywbeth nad oedd Abi yn meddwl y byddai hi fyth yn ei gyflawni. Eglurodd:

“Astudiais Safon Uwch yn y Chweched Dosbarth ac roeddwn i wir yn cael trafferth yn academaidd. Roeddwn mor siomedig pan dderbyniais fy nghanlyniadau (DDEU), ond llwyddais o drwch blewyn i gael lle yn y Brifysgol i astudio Cerddoriaeth. Dechreuais brofi trafferth yn ystod y mis cyntaf a chefais gyngor i gael prawf dyslecsia. Daeth canlyniadau fy mhrawf yn ôl yn nodi fy mod wirioneddol yn dyslecsig. Cefais ateb o’r diwedd felly ynghylch pam fy mod wedi cael cymaint o drafferth. Yna 3 mis ar ôl dechrau’r cwrs, penderfynais roi’r gorau i’r cwrs a dioddef â phryder a’m hiechyd meddwl. Roeddwn i’n teimlo ar goll yn llwyr ac nid oeddwn yn gwybod beth i’w wneud â fy mywyd.

Ar ôl y flwyddyn newydd, cefais hysbysiad ar fy ffôn yn dangos cwrs coleg ar Gampws Dinas Casnewydd Coleg Gwent. Penderfynais gofrestru a rhoi cynnig ar rywbeth hollol wahanol. Roedd y coleg mor groesawgar ac roedd ganddo gymuned wych. Meddyliais am fy syniad busnes yn ystod asesiad a chefais fy nghynghori i gyflwyno fy syniad i Tafflab, a roddodd y cyllid a’r arweiniad cychwynnol imi i’m helpu i roi fy syniad ar waith. Yna ymunais â theulu Ymddiriedolaeth y Tywysog, sydd wedi fy nghefnogi a’m helpu drwy gydol fy nhaith.

Roedd Coleg Gwent yn credu yn fy syniad o ddechrau’r daith, a rhoddodd hynny’r hyder yr oedd ei angen arnaf i fynd â’m syniad i’r lefel nesaf.

Mae Abi bellach yn bwriadu parhau i dyfu ei busnes a mynd ag ef i’r lefel nesaf drwy gyflogi aelodau o staff a chefnogi mwy o sefydliadau bwyd a diod lleol drwy arddangos eu cynnyrch Cymreig gwych i gynulleidfa fawr. Ar ben hyn, mae hi bellach wedi cael gwahoddiad yn ôl i Tafflab fel Mentor, ac Ymddiriedolaeth y Tywysog fel Llysgennad Ifanc, ac mae hi’n mwynhau defnyddio ei phrofiad i annog entrepreneuriaid yn y dyfodol a bod yn fodel rôl cadarnhaol i fenywod. Yn seiliedig ar ei phrofiad fel entrepreneur ifanc, mae Abi’n dweud:

“Gall cael busnes fod yn eithaf brawychus, a dyna pam ei bod mor bwysig cael rhwydwaith cefnogol, cadarnhaol a chryf o’ch cwmpas. Roedd hefyd yn eithaf brawychus ymuno â byd busnes fel menyw. Fodd bynnag, mae’r gefnogaeth yr wyf wedi’i chael gan gyd-fenywod a dynion busnes wedi bod yn anhygoel.

Mae fy nhaith yn dangos nad oedd y brifysgol yn iawn i mi. Nid oes llwybr cywir neu anghywir penodol mewn bywyd i’w ddilyn. Mae’r daith yn unigryw i chi ac mae’n bwysig eich bod yn mynd ar drywydd rhywbeth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.”

Rydym mor falch o daith Abi i fod yn entrepreneur ifanc llwyddiannus, ac mae llawer o ddysgwyr yn Coleg Gwent yn parhau i’n syfrdanu gyda’u hangerdd a’u hymgyrch i ddechrau eu busnesau eu hunain. Eleni, mae 4 dysgwr ysbrydoledig arall wedi ennill cyllid Tafflab ar gyfer eu syniadau entrepreneuraidd, a gallech chi hefyd ddilyn eu llwybr a dechrau ar eich taith tuag at lwyddiant yr Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang hon.

Dysgwch fwy am sut gall y tîm Entrepreneuriaeth a Menter eich cefnogi chi yn Coleg Gwent.