En
Gaming controller with Cardiff Blues logo

Dysgwyr Esports yn gweithio gyda Gleision Caerdydd i gynnal digwyddiad Call of Duty


11 Ionawr 2021

Mae Esports yn sector sydd yn tyfu’n gyflym. Gyda dros 36 miliwn o chwaraewyr yn y DU mae tua 6.5 miliwn ohonom nawr yn gwylio neu’n cymryd rhan mewn esports (Britishesports.org). Felly, bob blwyddyn, rydym yn gweld cynulleidfaoedd mwy, mwy o gyfranogwyr a chronfeydd gwobrwyo mwy yn y twrnameintiau gorau, ac mae’n sector sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd gyda phobl ifanc uchelgeisiol. Yn wir, mae bellach mor boblogaidd nes bod y prif ddarparwyr rhyngrwyd wedi profi defnydd band eang uwch nag erioed wedi i declynnau newydd Xbox a gemau Game of Duty fynd ar werth!

Yn ddiweddar, trefnodd dysgwyr ar ein cwrs Esports yn Parth Dysgu Blaenau Gwent eu digwyddiad chwarae poblogaidd a llwyddiannus eu hunain ar 18 Rhagfyr, lle roedd chwarewyr yn cystadlu mewn timau yn erbyn sêr rygbi rhyngwladol Cymru.

Gweithio gyda Gleision Caerdydd

Yn ystod ein cwrs Echwaraeon dros ddwy flynedd yng Ngholeg Gwent, mae’n ofynnol i ddysgwyr ddatblygu digwyddiadau chwarae drwy gydol eu hastudiaethau, gan ddarganfod bod angen llawer o amser ac ymdrech i’w cynnal. Ond mae hefyd yn rhoi cyfle gwych iddynt ddatblygu sgiliau gwerthfawr a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol fel  Clwb Rygbi Gleision Caerdydd, sy’n brofiad gwych ac yn ychwanegiad i’w CV.

Gaming design learner at computer

Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd gan ein dysgwyr yn nodi lansiad tîm Echwaraeon newydd Gleision Caerdydd. Mae llawer o dîm Gleision Caerdydd yn chwarae gemau fel Call of Duty yn eu hamser hamdden, gan ei fod yn ffordd wych o ymlacio. Fodd bynnag, ar yr un pryd, gallant bellach fod yn chwarae ac yn rhyngweithio â chefnogwyr neu’n cystadlu â thimau chwaraeon eraill sydd â changen Echwaraeon. Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd gan ein dysgwyr yn galluogi tîm echwaraeon newydd Gleision Caerdydd i gystadlu yn erbyn selogion a chefnogwyr echwaraeon eraill, gan ei wneud yn ddigwyddiad poblogaidd a chyffrous, gan ddod â phobl at ei gilydd yn rhithiol yn ystod cyfnod heriol pandemig COVID.

Fel rhan o gydweithrediad rhwng EDN Esports – grŵp chwarae a rheoli a sefydlwyd gan ein dysgwyr fel rhan o’u cymhwyster – a Gleision Caerdydd, gwelodd y digwyddiad dimau o bedwar yn cystadlu i gyrraedd y safle uchaf wrth chwarae Call of Duty Warzone – gêm frwydr am ddim. Daeth deuddeg tîm i mewn i’r digwyddiad am ddim, gyda phob tîm yn chwarae pedair gêm ac yn ennill pwyntiau yn seiliedig ar ble y gwnaethant orffen a nifer y gorchfygiadau a gyflawnwyd ganddynt.

Cynllunio digwyddiad echwaraeon yn ystod COVID

Gan na allai chwaraewyr i gyd ddod at ei gilydd yn yr un lle oherwydd cyfyngiadau COVID, chwaraeodd timau gemau rhwng 8pm ac 11.30pm ar yr un diwrnod. Anfonon nhw sgrinluniau o’u byrddau sgôr yn dangos lle roeddent yn gorffen a nifer y trechiadau a gyflawnwyd ganddynt, felly gellid cyfrifo pwyntiau yn seiliedig ar hynny.

Gyda’r digwyddiad a noddwyd gan HyperX, sgoriodd y garfan fuddugol – Esports Wales – 805 o bwyntiau a chawsant benwisgoedd HyperX fel y wobr gyntaf, tra dyfarnwyd nwyddau HyperX eraill i’r timau yn yr ail a’r trydydd safleoedd – My Nana’s Cuppa ac Esports Gleision Caerdydd. Ond teimlwn mai’r gwir enillwyr oedd ein dysgwyr Echwaraeon ymroddedig, am wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant ac am dderbyn adborth arbennig!

Gaming controller

Mae’r Darlithydd Echwaraeon, Steve Hunt, yn hynod falch o’r dysgwyr am yr holl waith a wnaethant i sefydlu eu sefydliad EDN a threfnu a chynnal y digwyddiad gwych eu hunain. Gyda phopeth sy’n mynd ymlaen gyda COVID a’r cyfyngiadau clo, roedd yn ffordd wych i gefnogwyr ymgysylltu â chwaraewyr eraill a rhyngweithio a chefnogi ei gilydd.

Mae’r diwydiant Echwaraeon yn farchnad sy’n tyfu ac yn ehangu’n gyflym, sydd yn sicr am dyfu ymhellach, ac yn dilyn llwyddiant y digwyddiad chwarae, mae ein dysgwyr Echwaraeon bellach yn edrych ymlaen at gynnal yr un nesaf ar 15 Ionawr 2021, gyda’r llwyfan ar-lein squadzUK.com. Mae’r digwyddiad cyffrous hwn sy’n seiliedig ar amser yn gystadleuaeth Call of Duty sy’n agored i dimau o dri (18+ oed), lle bydd timau’n hela sêr rygbi o dîm Echwaraeon Gleision Caerdydd. Am ffi fechan a fydd yn mynd tuag at y brif gronfa wobrau gallwch gofrestru i gymryd rhan yn y digwyddiad a chwarae yn erbyn Gleision Caerdydd {1>drwy ein platfform chwarae partner ar-lein

Os ydych chi’n chwilfrydig am yrfa ym myd cynyddol echwaraeon, darganfyddwch fwy o’n cyrsiau yn Parth Dysgu Blaenau Gwent neu Campws Crosskeys, a’n Gradd Sylfaen nawr!