En

Merched Crosskeys yn bencampwyr chwaraeon Cymru


13 Mehefin 2022

Bu’r flwyddyn academaidd hon yn llwyddiant ysgubol i’n academïau rygbi a phêl-rwyd merched. Mae’r timau wedi rhagori yn eu pencampwriaethau a’u cystadlaethau, gan ddod at y brig gyda rhestr o anrhydeddau a chyflawniadau y tymor hwn.

Academi Rygbi Merched

Gyda mwy a mwy o ddiddordeb mewn chwaraeon merched, mae Academi Rygbi’r Merched ar Gampws Crosskeys yn tyfu ac yn denu myfyrwyr i chwarae rygbi o bob cwr o’r rhanbarth. Mae’r academi’n rhoi cyfle i ferched wella’u sgiliau ar y maes ochr yn ochr â’u hastudiaethau, gan groesawu mwy a mwy o chwaraewyr bob blwyddyn.

Wedi’u hysbrydoli gan ymweliad gan gyn chwaraewr Coleg Gwent, y Dreigiau a Chymru, Elliott Dee, roedd y merched yn teimlo’n gyfforddus wrth chwarae mewn gemau mawr ac maent wedi cael tymor llwyddiannus iawn wedi ennill llawer o gystadlaethau. Buont yn llwyddiannus yn 7 bob ochr Colegau Cymru, yr Urdd WRU 7 bob ochr, a ffeinal Cenedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru yn Stadiwm y Principality.

7 bob ochr Colegau Cymru – Academi Rygbi Merched Coleg Gwent oedd Pencampwyr 7 bob ochr Colegau Cymru mewn twrnamaint gyda thimau o Goleg Caerdydd a’r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Gŵyr a thîm Gwadd Colegau Cymru. Dangosodd y merched o Gampws Crosskeys eu goruchafiaeth drwy ennill pob un o’u gemau’n gysurus o 25 o bwyntiau ar gyfartaledd.

Yr Urdd WRU 7 bob ochr – Yn cystadlu yn erbyn 18 o dimau o ysgolion a cholegau o bob rhan o Gymru, enillodd Academi Rygbi Merched Coleg Gwent 7 bob ochr Cymru WRU yr Urdd yng Nghaerdydd eleni. Chwaraewyr rygbi eithriadol, gan sgorio 351 o bwyntiau a 41 cais, gyda dim ond un cais yn eu herbyn. Ni chyflawnodd yr un tîm blaenorol, dynion neu ferched, y ffigyrau hyn!

Crosskeys girls become Welsh sporting champions - rugby

Ysgolion a Cholegau Cenedlaethol Cymru – Yn ystod rownd derfynol Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru yn erbyn Coleg Llanymddyfri yn Stadiwm y Principality, gwelodd yr hanner cyntaf y rhai oedd ar y blaen yn newid gyda phob sgôr. Yna yn gynnar yn yr ail hanner, roedd y sgoriau’n gyfartal cyn i ferched Coleg Gwent ddangos eu gwir allu drwy sgorio pedwar cais o’r bron a meistroli’r chwarter olaf. Daeth pawb oddi ar y fainc, a chafod y merched i gyd brofiad bythgofiadwy yn chwarae yn Stadiwm y Principality. Trechwyd Coleg Llanymddyfri 46 – 22!

Academi Bêl-rwyd Merched

Mae aelodau academi bêl-rwyd y merched ar Gampws Crosskeys yn Coleg Gwent, yn cynnwys UG/Safon Uwch, Gwasanaethau Cyhoeddus, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a’r Cyfryngau. Drwy’r academi mae pêl-rwyd ar gael i’r dysgwyr i gyd ochr yn ochr â’u hastudiaethau, fel y gallant ragori yn eu cymwysterau yn ogystal â’u pêl-rwyd.

Yn dilyn ôl-traed llwyddiant y merched rygbi, mae tîm pêl-rwyd y merched wedi dangos eu sgiliau eithriadol y tymor hwn hefyd. Aethant ymlaen i ennill y ffeinal a chael eu coroni’n Bencampwyr Pêl-rwyd Rhanbarthol Cymru yr AoC, gan guro Coleg y Cymoedd 50 – 16! Y tymor hwn hefyd cawsant eu coroni’n Bencampwyr Cynghrair Bêl-rwyd Cymru yr AoC, ac fe gyrhaeddon nhw 5ed rownd cwpan pêl-rwyd y Gymdeithas hefyd.

Ar ben eu camp fel tîm, mae sawl aelod o academi pêl-rwyd y merched wedi mynd ymlaen i gael llwyddiant personol yn y gamp hefyd. Dewiswyd chwe aelod o’r tîm i chwarae i garfan Bêl-rwyd Genedlaethol Chwaraeon Colegau Cymru – Elyse Veater, Lowri Stephens, Shannon Jones, Alex Chetland, Tayla Ambrosi a Lucy Hodges.

Crosskeys girls become Welsh sporting champions - netball

Yn y cyfamser, cyrhaeddodd Elyse Veater garfan dan 21 Cymru a thîm dan 19 y Severn Stars, a chyrhaeddodd Lowri Stephens dîm dan 19 y Celtic Dragons.

Eglurodd Elyse; “Rwy’n falch dros ben o’r holl bethau rwyf wedi eu cyflawni mewn pêl-rwyd, yn arbennig cael fy newis i’r Severn Stars oherwydd ar un adeg doeddwn i ddim yn dda iawn mewn pêl-rwyd a gyda llawer o waith caled, hyfforddwyr da ac anogaeth, rwyf wedi profi pa mor dda y gallaf fod.”

Meddai Lowri; “Dwi wrth fy modd â phêl-rwyd, mae’n amgylchedd mor gyfeillgar a chroesawgar, ond cystadleuol hefyd. Dwi wedi cwrdd â chymaint o bobl na fyddwn wedi cwrdd â nhw heb bêl-rwyd. Drwy bêl-rwyd dwi wedi gallu teithio dros Gymru i hyfforddi a chystadlu.”

Llongyfarchiadau i’r merched i gyd a’u hyfforddwyr ar eu buddugoliaethau arbennig eleni. Maent yn parhau i yrru ymlaen fel academïau chwaraeon merched sy’n arwain y sector ac rydym yn ymfalchïo yn eu llwyddiannau. Darganfyddwch mwy am wneud chwaraeon ochr yn ochr â’ch astudiaethau yn Coleg Gwent ac ymunwch â ni ym mis Medi i wneud i hynny ddigwydd!