En
Coleg Gwent learners wearing Coleg Gwent face masks

Pecynnau hylendid COVID-19 wedi'u dosbarthu i'ch cadw'n ddiogel ar y campws


14 Hydref 2020

Yn ystod mis Medi, rydym wedi croesawu miloedd o ddysgwyr newydd a rhai sy’n dychwelyd drwy ddrysau ein pum campws ar gyfer cychwyn blwyddyn academaidd arall. Yn dilyn haf anarferol o gyfyngiadau Coronafeirws a theimladau o ansicrwydd i bawb, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i roi diogelwch ein dysgwyr a’n staff yn gyntaf drwy wneud ein campysau’n ddiogel ar gyfer y dychweliad i ddysgu, ac rydym yn setlo i’r tymor newydd yn dda.

Tu ôl i’r llenni, rydym wedi bod yn brysur yn creu systemau un ffordd ar ein campysau, yn gosod peiriannau golchi dwylo, dosbarthiadau wedi’u glanhau’n drylwyr, ac arddangos posteri ac adnoddau i helpu diogelu Coleg Gwent rhag COVID. Rydym yn dilyn holl ganllawiau Llywodraeth Cymru ac yn annog pawb i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr, golchi eu dwylo yn rheolaidd ac osgoi casglu mewn grwpiau mawr. Mae nifer o newidiadau wedi bod ar y campws i ddod i arfer â hwy ac rydym yn ddiolchgar iawn o weld y mwyafrif ohonoch yn cydymffurfio ac yn ein helpu drwy ddilyn y rheolau.

Coleg Gwent care students wearing Coleg Gwent masks

Fel coleg, rydym wedi penderfynu darparu cit hylendid COVID-19 i’n holl ddysgwyr yn ystod y tymor cyntaf i’w paratoi a sicrhau bod ganddynt yr adnoddau cywir i fod ar y campws. Mae’r citiau yn cynnwys dau fasg wyneb y gellir eu hailddefnyddio, diheintydd dwylo a chadachau glanhau i leihau’r risg o ledaenu Coronafeirws, ac argyhoeddi dysgwyr a staff ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i barhau i fynd i’r afael â’r dysgu tra’n cadw pawb yn ddiogel.

Mae Libby, dysgwr blwyddyn gyntaf o Barth Dysgu Blaenau Gwent yn hoffi’r ffaith bod gan y coleg system un ffordd ar gyfer diogelwch a bod angen i bawb wisgo eu masgiau bob amser. Ei sylwadau oedd bod rhagofalon amlwg ar waith a bod y system wedi’i threfnu’n dda iawn. Yn debyg, mae Ethan, dysgwr Plymio Lefel 1 ar gampws Dinas Casnewydd, yn meddwl bod y sefyllfa wedi’i rheoli’n dda ar y campws a’i fod yn beth gwych bod masgiau wedi cael eu darparu ar gyfer dysgwyr.

Ethan - Coleg Gwent plumbing student in mask

Fel cyfanswm, gwnaethom rannu dros 15,000 o fasgiau wyneb i’n dysgwyr, dros 10,000 o ddiheintyddion dwylo a dros 7,500 pecyn o gadachau golchi dwylo. Ynghyd â’n rhagofalon diogelwch eraill, mae hyn wedi gwneud i nifer ohonoch deimlo’n fwy diogel a hyderus ar y campws.

Gobeithiwn y bydd ein rhagofalon diogelwch a’r citiau hylendid COVID-19 yn rhoi hyder i chi fod ar y campws ac rydym yn diolch i chi am ein helpu i gadw’r coleg yn ddiogel rhag COVID a chynnal dysgu dros y cyfnod anarferol hwn. Ewch i’n tudalen COVID am ragor o wybodaeth a phob diweddariad COVID-19.