En
Three Crosskeys students have begun 2020 having won funding in the form of a grant in the annual Tafflab enterprise kick-starter competition.

Myfyrwyr Campws Crosskeys yn rhoi hwb i'w busnesau ar ôl ennill cystadleuaeth


22 Ionawr 2020

Myfyrwyr Campws Crosskeys yn rhoi hwb i'w busnesau ar ôl ennill cystadleuaeth

Mae tri o fyfyrwyr campws Crosskeys wedi cael dechrau da iawn i 2020 ar ôl ennill cyllid ar ffurf grant yng nghystadleuaeth sbarduno menter Tafflab.

Mae Tafflab yn fenter RSA sydd nid yn unig yn rhoi cyllid cychwynnol i enillwyr o golegau AB, ond hefyd yn paru’r myfyrwyr buddugol â thîm o fentoriaid am flwyddyn, sy’n cynnwys dau o Gymrodorion RSA a hyrwyddwr menter eu coleg, er mwyn cefnogi’r myfyrwyr i wireddu eu syniad busnes – waeth beth fo’r sector neu ddiwydiant. Gan ddefnyddio cefnogaeth a chysylltiadau’r Gymrodoriaeth, mae’r cyfranogwyr yn ennill cefnogaeth a chyngor i’w helpu i wireddu eu syniad.

Bydd yr enillwyr a gyrhaeddodd y brig yn ennill £500 yr un i lansio eu busnesau: Rachel Jones a’i busnes Therapïau Cyflenwol – Homestead Health, a Meryam el Mouataz gyda’i busnes sy’n gwerthu cynnyrch harddwch sy’n cynnwys Olew Argan o Foroco. Bydd y myfyriwr busnes Calvin Bang yn cael £100 i archwilio ei syniadau ar gyfer busnes sydd â ffocws ecolegol sy’n darparu atebion cynaliadwy i gynhyrchion sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr.

Dywedodd yr Arweinydd Menter ac Entrepreneuriaeth Zoe Blackler “Cyflwynodd Rachel, Meryam a Calvin gynigion busnes gwych i banel o 10 – tasg frawychus ynddo’i hun! Roedd eu syniadau wedi cael eu hymchwilio’n drwyadl ac roedd eu brwdfrydedd dros eu cynhyrchion a’u gwasanaethau i’w weld yn glir. Mae eu cefnogi nhw ar eu teithiau entrepreneuraidd gwahanol yn gyffrous ac yn rhoi llawer o foddhad, ac yr wyf yn sicr y byddwn yn gweld eu busnesau yn ffynnu yn 2020. Byddwn yn annog unrhyw fyfyrwyr Coleg Gwent sydd â syniad busnes i ymrwymo i un o’r heriau a’r cystadlaethau yr ydym yn eu hwyluso – gall arwain nid yn unig at gyllid, ond hefyd at gyswllt â rhanddeiliaid allanol a all hefyd ddarparu profiad, cysylltiadau busnes a chyngor amhrisiadwy.”

Dywedodd Meryam, enillydd Tafflab, “Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gysylltiedig â Tafflab am eu hanogaeth a’u cred ynof fi a fy syniad busnes – rhywbeth nad wyf erioed wedi teimlo fy mod wedi’i gael gan unrhyw ffrindiau neu aelod o’r teulu o’r blaen. Mae bod yn enillydd Tafflab wedi gwneud i mi deimlo’n llawer mwy hyderus a byddaf yn ceisio fy ngorau i gyflawni fy nodau. ”

Ydych chi’n gweld eich hun fel y Richard Branson neu’r Arglwydd Sugar nesaf? Darganfyddwch sut y gallech ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd ochr yn ochr â chwrs llawn amser yng Ngholeg Gwent.