En

Staff Coleg Gwent yn ymrwymo i gwblhau hyfforddiant gwrth hiliaeth


27 Medi 2023

Paratoi'r Ffordd ar gyfer Newid

Fel coleg, rydym yn falch o fod yn gymuned amrywiol a chynhwysol lle nad oes lle i hiliaeth, a lle mae pawb yn cael eu trin yn deg. Mae hyn yn cael ei danategu bob dydd yn ein gwerthoedd craidd a’i atgyfnerthu gan ein siarter amrywiaeth. 

Yn unol â dyhead Llywodraeth Cymru am Gymru wrth-hiliol erbyn 2030, rydym yn sefyll mewn undod i ddweud na wrth hiliaeth o bob math. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, fe wnaethom lansio Cam 1 ein  hyfforddiant gwrth-hiliaeth a ddarperir gan Race Council Cymru yn llwyddiannus, ac rydym yn falch o adrodd bod 90% o’n staff wedi cwblhau’r hyfforddiant. Cadarnhawyd y bydd Cam 2 yn dechrau ym mis Tachwedd 2023. 

Dechreuodd gyda gweledigaeth: creu amgylchedd lle gallai pawb yn y coleg ffynnu, waeth beth eu hil, ethnigrwydd neu gefndir. Gan sylweddoli bod rhaid i newid ddechrau o’r tu mewn, gwnaethom weithredu ein rhaglen hyfforddiant gwrth-hiliaeth sy’n orfodol i bob aelod o staff. Nod y rhaglen oedd codi ymwybyddiaeth am dueddiadau anymwybodol, dod i ddeall hiliaeth systemig, a darparu’r offer sy’n angenrheidiol i staff feithrin awyrgylch cynhwysol. 

Roeddwn am i’r hyfforddiant roi cyfle i’r holl staff ymgysylltu ag egwyddorion craidd gwrth-hiliaeth, gan sicrhau bod addysgwyr yn aliniedig, wedi’u paratoi’n dda ac yn wybodus am nodau tymor byr a thymor hir y gwaith hwn, a pham ei fod mor bwysig. 

Yn ystod yr hyfforddiant, cyflwynwyd ein staff gyda  sefyllfaoedd go iawn ac astudiaethau achos gyda’r nod o’n helpu i ddeall pwysigrwydd creu amgylchedd cynhwysol ac amrywiol. Fe wnaeth yr hyfforddiant hefyd hwyluso deialog adeiladol rhwng aelodau staff ac yn eu hannog i siarad yn agored am faterion sydd yn ymwneud â hil a gwahaniaethu, gan gofleidio eu hunaniaeth unigryw. O ganlyniad, mae’r coleg bellach yn mwynhau awyrgylch o ymddiriedaeth a pharch, sy’n galluogi aelodau staff i gael trafodaethau agored a dewr. 

Dywedodd Nkechi Allen Dawson, Rheolwr Llesiant: “Mae hyfforddiant gwrth-hiliaeth yn bodoli i helpu pobl i ddeall sut i greu amgylchedd lle mae pob gweithiwr yn teimlo ei fod yn cael ei gefnogi ac yn gallu tyfu, ffynnu a datblygu. Mae’r coleg yn ymwybodol bod rhaid i ni weithredu dull aml-haen sy’n cynnwys addysg gwrth-hiliaeth gyda’r nod o ganolbwyntio ar ddiogelwch, lleihau niwed, a chael gwared ar rwystrau strwythurol a systemig. Credwn fod addysg gwrth-hiliaeth o ansawdd uchel yn hanfodol i’n staff, a chredwn y dylai’r addysg hon fod yn barhaus, felly byddwn yn cychwyn ar gam 2 o’r hyfforddiant Gwrth-hiliaeth i gynnwys yr holl staff newydd a phresennol fel rhan o raglen loywi flynyddol yn y flwyddyn academaidd newydd”. 

Gan fyfyrio ar ein taith, cawn ein hatgoffa y gall newid sylweddol ddigwydd pan fydd pobl yn gweithio ar y cyd a gydag ymroddiad. Dim ond un cam ar ein taith i ddod yn goleg Gwrth-hiliaeth yw’r cyflawniad hwn. 

Rydym am annog pawb i gymryd rhan a bod yn gynghreiriaid dros newid yn Coleg Gwent, oherwydd nid swydd un person yw cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ond cyfrifoldeb cyfunol. Gyda’n gilydd, gallwn wneud ein coleg yn lle diogel a chynhwysol i bawb! 

Da iawn bawb. 

I ddysgu rhagor am y gwaith rydym yn ei wneud i hyrwyddo Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Coleg Gwent, ewch i: Sbotolau ar amrywiaeth a chynhwysiant yn y coleg – Coleg Gwent