En
Coleg Gwent Care Students

Rôl Flaenllaw i Ddysgwyr Coleg Gwent yn Ymgyrch Gofalwn Cymru!


3 Mawrth 2020

Rôl Flaenllaw i Ddysgwyr Coleg Gwent yn Ymgyrch Gofalwn Cymru!

Mae Coleg Gwent yn falch o chwarae rôl bwysig yn ymgyrch Gofalwn Cymru a lansiwyd yn ddiweddar. Dyma fenter sy’n canolbwyntio ar ddilyniant gyrfaol o fewn y sector gofal cymdeithasol

Cafodd Izzy Evren a Tyne Hughes, sy’n ddysgwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn eu hail flwyddyn ar gampws Pont-y-pŵl, eu ffilmio gan dîm Gofalwn Cymru yn helpu cwpl lleol i wella eu sgiliau digidol, fel rhan o leoliad gwaith gyda Bluebird Care, un o ddarparwyr gofal cartref mwyaf blaenllaw Casnewydd. Bydd y ffilm hon yn cael ei rhannu ar draws ystod eang o sianeli cyfryngau cymdeithasol, mewn print a hyd yn oed mewn gorsafoedd bysiau ledled Cymru, gan bwysleisio pa mor dda mae ein dysgwyr yn ei wneud o fewn y maes gwerthfawr hwn, a’r galw sydd am y sgiliau hyn.

Dywedodd Izzy:

Mae bod yn rhan o ymgyrch Gofalwn Cymru wedi bod yn gyffrous iawn. Roedd yn wych gallu rhannu rhai o’r sgiliau digidol rydym wedi eu dysgu yn Coleg Gwent tra ar leoliad gwaith. Rwy’n meddwl bod yr ymgyrch yn bwysig iawn oherwydd ei fod yn dangos y gwaith da sy’n digwydd yn y byd gofal cymdeithasol a’r gwahaniaeth cadarnhaol mae’n ei wneud i fywydau pobl.

Mae ymgyrch Gofalwn Cymru wedi cael cefnogaeth yng Ngwent drwy Lwybr Gyrfaoedd Gofal Gwent, sef menter bartneriaeth sy’n cefnogi prosesau datblygu, cymhwyso a recriwtio gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar draws y rhanbarth. Mae’r grwpiau sy’n gweithio gyda’i gilydd er mwyn gwneud Llwybr Gyrfaoedd Gofal Gwent yn llwyddiant yn cynnwys Coleg Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a chynghorau Torfaen, Caerffili, Sir Fynwy a Chasnewydd, yn ogystal â darparwyr gofal cymdeithasol annibynnol. Mae cyfraniad Coleg Gwent tuag at y fenter wedi cwmpasu ein myfyrwyr dylunio hyd yn oed, sydd wedi dylunio logo presennol Llwybr Gyrfaoedd Gofal Gwent yn ddiweddar

Dros y 18 mis diwethaf, mae Llwybr Gyrfaoedd Gofal Gwent wedi ategu’r dysgu sy’n digwydd yn y dosbarth gydag amrywiaeth o gyfleoedd profiad gwaith er mwyn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau a phrofiad sydd eu hangen i fod yn gymwys am swyddi hollbwysig yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd Hanna Ross, Swyddog Cyflogaeth Partneriaeth Rhanbarthol Gwent,

Pan glywsom ni mai ffocws ymgyrch nesaf Gofalwn Cymru oedd cymwysterau a dilyniant gyrfaol, roeddem yn gwybod y byddai’n gyfle perffaith i ni gymryd rhan. Mae’r fideo mae Gofalwn Cymru wedi ei gynhyrchu yn dangos yn berffaith y gwaith rydym yn ei wneud gyda myfyrwyr Coleg Gwent i godi proffil gofal cymdeithasol yma yng Ngwent ac i greu gweithlu ar gyfer y dyfodol.

Cadwch lygad am ymgyrch wych Gofalwn Gymru drwy gydol mis Mawrth! I weld y fideo sy’n cynnwys Izzy a Tyne, ac i gael gwybod mwy am yr ymgyrch a rolau o fewn gofal cymdeithasol, ewch i:  www.wecare.wales

Am ragor o wybodaeth am gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg Gwent, ewch i: www.coleggwent.ac.uk/cy/learning/full-time/health-care-early-years