En
The race is on for the City Car Cup

Mae'r ras ar gychwyn am Gwpan City Car


20 Ionawr 2022

Rydym yn gwybod bod cyflogwyr yn chwilio am fwy na dim ond cymwysterau ar eich CV. Trwy gydol eich astudiaethau yn Coleg Gwent, fe gewch gyfleoedd felly i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol gwych a fydd yn ategu eich dysgu, megis y fenter Cwpan City Car.

Eleni, bydd oddeutu 60 o ddysgwyr blwyddyn gyntaf ac ail  Peirianneg Chwaraeon Moduro Lefel 3 ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yn cymryd rhan mewn her gyffrous sef Her Chwaraeon Moduro i Fyfyrwyr Cwpan City Car! Drwy gynnig profiad byw i’n dysgwyr o’r gyrfaoedd y maent yn anelu atynt a mewnwelediad i’r diwydiant chwaraeon moduro, mae’r Cwpan City Car yn rhoi cyfle iddynt gwblhau rhai o elfennau ymarferol eu cwrs tu allan i’r gweithdy ac mewn amgylchedd ras go iawn.

Dysgwyr Peirianneg Chwaraeon moduro yn wynebu’r her

Drwy roi eu dysgu damcaniaethol ar waith, bydd ein myfyrwyr uchelgeisiol yn trawsnewid car Peugeot 107 sylfaenol, wedi ei roi gan werthwr lleol Ron Skinner and Sons, yn gerbyd parod i rasio gan ddefnyddio rhannau wedi eu darparu gan Essential Racing. Gyda chyllid ar gyfer rhannau gan yr Academi Frenhinol Peirianneg, mae’r tîm wedi cyrraedd £7,000 o’u targed £12,000 yn barod ac mae hynny wedi caniatáu iddyn nhw brynu’r holl ddarnau sydd eu hangen hyd yn hyn. Maent nawr yn wynebu’r dasg o godi arian a gwneud cyflwyniadau i fusnesau lleol ar gyfer cael y nawdd terfynol i gwblhau eu prosiect. Byddant yn edrych ar ôl ochr fasnachol chwaraeon moduro hefyd, megis marchnata a recriwtio gyrrwr.

The race is on for the City Car Cup

Mae’r myfyrwyr yn anelu at gwblhau’r car yn fuan ym mis Mawrth, yn barod am droeon profi ar Drac Rasio Llandŵ neu Castle Coombe, cyn cystadlu yn y ras gyntaf o saith yn yr ‘Her Chwaraeon Moduro i Fyfyrwyr’ yn Ebrill. Mae’r gyfres o rasys yn cynnwys oddeutu 50 o geir ymhob ras, gyda chwech o ymgeiswyr o golegau eraill yn y DU yn ffurfio cynghrair fechan o fewn y bencampwriaeth.

Dywedodd Joseph Pereira, dysgwr Peirianneg Chwaraeon Moduro “mae’r gyfres yn lot o hwyl. Mae ar lefel mynediad ac mae yna lawer o waith yn mynd ymlaen i’w wneud yn rhad ac effeithlon i ni allu cymryd rhan ynddo. Bydd gweithgaredd fel hyn o gymorth i mi os byddaf yn ei roi ar fy CV neu lythyr eglurhaol, neu os byddaf yn sôn amdano wrth gwmni chwaraeon moduro neu F1 yn y dyfodol. Dwi’n gallu dweud mod i wedi adeiladu car rasio hefo’r coleg yn ogystal â chwblhau cwrs diploma dwy flynedd mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro!”

Rhoi hwb i sgiliau a CV

Gyda’r nod o wneud rasio yn fwy cynaliadwy a fforddiadwy ar lefel mynediad, datblygodd John Paul Latham, cyn diwtor chwaraeon moduro a sylfaenydd Chwaraeon Moduro i Fyfyrwyr, y syniad o gyfres rasio i fyfyrwyr. Fe weithiodd gydag Essental Racing a BRSCC i greu Her Chwaraeon Moduro i Fyfyrwyr, gan gynnig profiad byd go iawn a datblygiad proffesiynol i roi hwb i gyflogadwyedd a pharodrwydd i waith myfyrwyr.

Mae’r her yn dangos fod chwaraeon moduro yn fwy na dim ond sbaner a phedair olwyn, a’i fod yn cynnwys ystod o adrannau a diwydiannau cefnogol i wneud y car, i gyrraedd y trac, i’w redeg, a’i atgyweirio. Mae’n addysgu ein dysgwyr, nid yn unig am baratoi’r car rasio ond am ochr fasnachol chwaraeon moduro hefyd, gan eu paratoi at y gweithle.

The race is on for the City Car Cup

Mae Cwpan City Car yn gyfle gwych i’n dysgwyr Peirianneg Chwaraeon Moduro i rwydweithio a chyfarfod timau o wahanol rannau o’r wlad, i gael mewnwelediad i’w gyrfaoedd yn y dyfodol, a mwynhau cystadleuaeth hwyliog ochr yn ochr â thimau o fyfyrwyr eraill. Bydd ein dysgwyr yn ymweld â thraciau rasio o amgylch y DU yn ystod y flwyddyn nesaf, ac yn profi rasio byd go iawn drwy edrych ar ôl a chynnal a chadw car rasio mewn amgylchedd proffesiynol. Bydd yn darparu profiad amhrisiadwy i’w ychwanegu at eu CV a cheisiadau UCAS.

Eglurodd Dan Lockett, Tiwtor Chwaraeon Moduro, “gyda mynediad i’r bencampwriaeth hon, bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol mewn cyfres rasio broffesiynol, lle byddant yn cyfarfod myfyrwyr o golegau eraill, timau Chwaraeon moduro proffesiynol eraill, a gobeithio yn gwneud y cysylltiadau y maent eu hangen i gael mynediad i’r diwydiant yn y dyfodol.” Hoffem ddiolch yn fawr i Ron Skinner and Sons, oherwydd heb ein noddwyr, ni fyddai dim o hyn yn bosib.”

Enillwch fwy na chymhwyster

Mae ein cyrsiau wedi eu cynllunio i roi profiadau ychwanegol sy’n cyfoethogi eich cyfuniad o sgiliau ac yn eich paratoi at eich gyrfa, gan roi cymorth ichi fod un cam ar y blaen i’r gystadleuaeth. Felly, fel ein dysgwyr Peirianneg Chwaraeon Moduro, byddwch yn ennill mwy na dim ond gradd dda yn Coleg Gwent. Dysgwch fwy am ein cyrsiau yn ein digwyddiad agored nesaf – cofrestrwch nawr!