En
Augmented Reality in Health and Social Care

Realiti Estynedig mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol


25 Mai 2022

Fel coleg blaengar, rydym wastad yn chwilio am ffyrdd o gyflwyno’r datblygiadau technolegol diweddaraf i ddysgwyr er mwyn cyfoethogi eu dysg. Ein dysgwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw’r diweddaraf i gael profi ychydig o dechnoleg newydd gyffrous fel rhan o’u hastudiaethau – realiti estynedig.

Drwy gyfres o fideos realiti estynedig a ddyluniwyd yn arbennig, ac a sefydlwyd gan MX Reality, gall dysgwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol gael mynediad at ystod o leoliadau ac amgylcheddau gofal, gan eu paratoi nhw ar gyfer eu lleoliadau gwaith. Drwy efelychiadau realiti estynedig, gall dysgwyr gael blas ar y lleoliadau iechyd a gofal amrywiol y gallent weithio ynddynt yn ystod eu gyrfaoedd, o ysbytai i gartrefi gofal.

Gyda’r gofynion cymhwyster mewn golwg, crëwyd wyth fideo gan MX Reality mewn partneriaeth â Coleg Gwent, amryw o golegau eraill ledled Cymru, a rhai darparwyr prentisiaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Gweithiodd staff gyda MX Reality a phartneriaid i roi byrddau stori at ei gilydd a arweiniodd at greu’r fideos sydd gennym heddiw.

Dyluniwyd y fideos i roi cipolwg i’r dysgwyr o weithio yn y sector drwy adlewyrchu bywyd go iawn mewn profiad digidol ymdrochol. Mae’r feddalwedd realiti estynedig yn seiliedig ar gemau, lle mae’r dysgwr yn afatar, felly ym mhob senario, gallech fod yn Weithiwr Cymorth neu Ofalwr Gofal Iechyd mewn ysbyty neu gartref gofal, gan ennill dealltwriaeth realistig o’r rôl a’r amgylchedd rydych yn gweithio ynddo.

Gwella addysgu a dysgu drwy realiti estynedig

Fel rhan o’u cwrs, mae gofyn i fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol gwblhau nifer o oriau ar leoliad ac mae’r senarios realiti estynedig yn ffordd wych o’u cyflwyno nhw i’r hyn y gallent ddod ar eu traws yn ystod eu lleoliad, yn arbennig os nad ydynt erioed wedi gweithio yn y sector o’r blaen.

Gall yr efelychiadau realiti estynedig gael eu defnyddio gan ein staff addysgu i addysgu myfyrwyr ac i brofi eu dealltwriaeth drwy gydol y cwrs, gan ddod â dimensiwn arall i addysgu a dysgu i’r cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Coleg Gwent. Mae’r senarios rhyngweithiol yn efelychu sefyllfaoedd bywyd go iawn ac yn atgynhyrchu amgylcheddau ac offer gwaith, fel y gall dysgwyr ennill profiad a dealltwriaeth realistig o’r diwydiant iechyd a gofal o’r ystafell ddosbarth.

Yn wahanol i realiti rhithwir, nid yw realiti estynedig yn seiliedig ar wisgo penset, a all fod yn broblem i rai myfyrwyr. Felly, mae senarios realiti estynedig yn opsiwn mwy hygyrch y gall unrhyw un ei ddefnyddio. Golyga hyn bod y feddalwedd yn fanteisiol i bob dysgwr ar ein cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol lefel 2 a lefel 3, gan eu paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Dysgwch fwy am ein cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r amrywiaeth o yrfaoedd a all fod ar eich cyfer. Gwnewch gais nawr – gwnewch e’n ddyfodol i chi yn Coleg Gwent!