En
Photography learners in Cardiff Bay

Canolbwyntio ar Ffotograffiaeth gyda'r cymunedau lleiafrifoedd ethnig


17 Rhagfyr 2020

Mae’r diwydiannau creadigol yn tyfu bum gwaith yn gynt na sectorau eraill ym Mhrydain (www.thecreativeindustries.co.uk), ac yn cyfrannu dros £111 biliwn i economi’r DU bob blwyddyn. Mae hynny’n fwy nag Awyrofod, Modurol, Olew, Nwy, a Gwyddorau Bywyd gyda’i gilydd! (www.creativeindustriesfederation.com)

Mae amrywiaeth o ffyrdd a llwybrau gyrfaol gwahanol i unigolion creadigol eu harchwilio, ac yn Coleg Gwent, gallwch lunio eich ffordd i’r sector creadigol gyda chyrsiau mewn Celf a Dylunio, Ffasiwn a Thecstilau, E-Chwaraeon, Darlunio, Ffotograffiaeth, Cynhyrchu’r Cyfryngau, Cerdd a mwy.

Ond gyda chymaint o swyddi gwahanol ar draws y diwydiannau creadigol yn y DU, efallai y byddai’n syndod clywed mai dim ond 3-14% o unigolion sy’n gweithio yn y sectorau hyn sy’n dod o gefndiroedd cymunedau lleiafrifoedd ethnig (www.statista.com), ac fel coleg sy’n gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, rydym yn gobeithio newid hyn.

Photography learners in Cardiff Bay

Tynnodd y sector Ffotograffiaeth ein sylw gyda 4% o’r gweithlu yn unig yn cael ei gynrychioli gan unigolion lleiafrifoedd ethnigyn y DU (www.statista.com), ond gyda chyrsiau Ffotograffiaeth poblogaidd a llwyddiannus yn Coleg Gwent, gwelsom hyn yn gyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Felly, penderfynasom gymryd rhan mewn prosiect arloesol newydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerdydd a Rumourless Cities – sefydliad sy’n ceisio cael gwared â mythau a newid agweddau sy’n bodoli am grwpiau lleiafrifol o fewn ein cymunedau.

Datblygu’r prosiect

Ar ôl darllen adroddiadau am y gynrychiolaeth annigonol sylweddol o weithwyr creadigol cymunedau lleiafrifoedd ethnig ledled y DU, cafodd Yusuf Hussein, Gweithiwr Ieuenctid a Ffotograffydd brwdfrydig, ei ysbrydoli a chreu gweledigaeth drwy fynd i’r afael â’r broblem hon, fel gweithiwr creadigol du.

Photography

Sylweddolodd bod gan y genhedlaeth ifanc ddylanwad gwych ar eu cymunedau, a’r gallu i newid ffordd o feddwl a safbwyntiau ynghylch diwylliant, amrywiaeth a chynhwysiant. Felly, datblygodd y cysyniad o weithdai wyneb-yn-wyneb ar gyfer myfyrwyr cymunedau lleiafrifoedd ethnig rhwng 14-18 oed, sy’n pontio o TGAU i Addysg Bellach, gyda’r nod o greu cymaint o hygyrchedd a chefnogaeth â phosib i fyfyrwyr nad oes ganddynt fynediad rhwydd at y celfyddydau creadigol.

Y rhesymeg y tu ôl i’r prosiect yw darparu sgiliau a phrofiad o’r sector creadigol, a maes cyflogaeth i’r unigolion na fyddai’n credu ei fod yn hygyrch fel arall. Eglurodd Maria Retter, Pennaeth Ysgol Celfyddydau Creadigol Coleg Gwent, “rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd i ymgysylltu pob maes o’r gymuned gyda phopeth creadigol. Ni ddylai unrhyw un feddwl nad yw gyrfa greadigol yn opsiwn, ac rydym yn gobeithio agor meddyliau i syniadau a phosibiliadau creadigol mewn addysg.”

Sut fydd yn gweithio? Troi pethau negyddol yn bethau cadarnhaol

Bydd y prosiect yn darparu pum sesiwn ffotograffiaeth ar y penwythnos i bobl ifanc o’r cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd, ac o’i chwmpas. Bydd y gweithdai wedi’u lleoli ym Mae Caerdydd, yn adeilad eiconig Canolfan y Mileniwm, gyda mynediad at y cyfleuster ac offer gwych yno.

Dywedodd Gemma Hicks, Cynhyrchydd Ymgysylltu Cymunedol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru:

“Rwy’n falch iawn fod Coleg Gwent a Rumourless Cities wedi gofyn i ni fod yn bartner ar gyfer y prosiect hwn. Mae peth sylweddol o waith yn canolbwyntio ar adeiladu gweithle ar gyfer y diwydiannau Creadigol yn y dyfodol, ac mae gennyf ddiddordeb mewn sicrhau bod gweithlu’r celfyddydau yn y dyfodol yn cynrychioli’r gymuned rydym ynddi, yn ogystal â sicrhau bod cymunedau amrywiol eraill, sydd wedi cael cynrychiolaeth annigonol, yn cael profi, dysgu a datblygu mewn lleoliadau celfyddydol a sefydliadau addysg.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi’i lleoli yn Butetown, ac rydym yn falch iawn o fod wedi ein lleoli yma. Pan ofynnwyd i ni gefnogi pobl ifanc o gymunedau Du, Asiaidd ac amrywiol o ran ethnigrwydd i gymryd rhan mewn ffotograffiaeth, roeddem eisiau eu galluogi nhw i adeiladu cysylltiad gyda ni, a chael cyfle i arddangos eu gwaith. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut fydd y prosiect yn datblygu, ac i gefnogi Coleg Gwent a Rumourless Cities i archwilio sut allwn ni barhau i greu cyfleoedd cyffelyb i bobl ifanc.”

Bydd Peter Britton a Rebecca Toner, Tiwtoriaid Ffotograffiaeth Coleg Gwent, yn darparu tri o’r gweithdai (dydd Sadwrn 12 Rhagfyr, dydd Sadwrn 30 Ionawr, dydd Sadwrn 6 Mawrth) gyda grŵp o 12 o gynrychiolwyr cymunedau lleiafrifoedd ethnig, 12 oed a hŷn. Rydym yn edrych ar dri gweithdy cychwynnol, gydag un cyn y Nadolig, a dau yn y flwyddyn newydd. Bydd y sesiynau yn cynnwys cymorth academaidd strwythurol, fydd yn arwain at gymhwyster,troi ystadegau negyddol cynrychiolaeth BAME yn brofiad cadarnhaol i’r bobl ifanc hyn, ac agor y drysau i’r sector creadigol.

Rydym yn gobeithio arddangos gwaith y bobl ifanc yn yr Amgueddfa Stori ar ddiwedd y prosiect hwn, i godi proffil cynrychiolaeth cymunedau lleiafrifoedd ethnig o fewn y celfyddydau, ac archwilio’r posibilrwydd i’r peilot barhau ar gyfer mwy o bobl ifanc yn Ne Cymru.

Mae croeso i bawb yn Coleg Gwent, ac mae ein cyrsiau’n agored i bawb. Felly, os oes gennych chi ddiddordeb mewn Ffotograffiaeth neu’r diwydiannau creadigol, dysgwch fwy am ein hystod o gyrsiau hyblyg ac ymgeisiwch nawr.