En
5 Reasons to choose an apprenticeship

5 rheswm dros ddewis prentisiaeth


4 Chwefror 2022

Nid yw bwrw prentisiaeth yn union fel y rhaglen Apprentice a welwch ar y teledu! Fyddwch chi ddim yn cael eich galw i mewn i’r ystafell fwrdd, cael eich croesholi gan yr Arglwydd Sugar a chlywed y geiriau, “dacw’r drws!”

Felly, sut beth yw hi go iawn i fod yn brentis a pham y dylech chi ei ystyried?

Yn ystod prentisiaeth, cewch eich cyflogi i wneud gwaith wrth, hefyd, astudio tuag at gymhwyster. Mae hyn yn ffordd amgen i astudio pynciau Lefel A neu gymryd cwrs llawn amser yn y coleg. Mae nifer o bobl ifanc, uchelgeisiol yn dewis mynd am brentisiaeth yng Ngholeg Gwent; dyma pam…

1. Cael cymhwyster cydnabyddedig

Y peth gwych am brentisiaeth yw ei fod yn hyfforddiant yn y gwaith, felly fyddwch chi ddim yn teimlo eich bod yn dal yn yr ysgol ac yn gaeth mewn ystafell ddosbarth. Yn hytrach, byddwch yn cael profiad go iawn yn y byd gwaith ac, ar ddiwedd y daith, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr sy’n golygu rhywbeth i gyflogwyr! Byddwch yn dysgu’r holl sgiliau ymarferol a gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch gyrfa ddewisol wrth, hefyd, weithio tuag at gymwyseddau i ennill eich cymhwyster. Gallwch hyd yn oed weithio tuag at gymwysterau lefel uwch fel Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) a Graddau Sylfaen.

2. Bod yn fwy cyflogadwy

Mae’r sgiliau a ddysgwch yn ystod prentisiaeth yn llawer mwy na’r sgiliau a’r wybodaeth ymarferol sydd eu hangen arnoch i’w meistroli ar gyfer eich rôl. Ochr yn ochr â’r sgiliau allweddol hyn, byddwch hefyd yn dysgu’r grefft gynnil o gyfathrebu, sut i ymdrin â sefyllfaoedd anodd, sut i reoli eich amser a blaenoriaethu tasgau, a sut i weithio’n dda yn rhan o dîm. Mae’r rhain yn sgiliau na allwch eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth, ond maent yn hanfodol mewn bywyd gwaith a byddant yn sefyll allan ar eich CV ac yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy.

3. Cael eich talu i ddysgu

Ariennir prentisiaethau gan gyflogwyr a’r llywodraeth, felly mae’n fath o astudio sy’n rhad ac am ddim i ddysgwyr. Golyga hyn na fydd gennych unrhyw fenthyciadau myfyrwyr na ffioedd dysgu, felly ni fydd yn costio’r un geiniog i chi. Ond nid profiad gwaith neu interniaeth ddi-dâl yn unig mohono, mae’n waith cyflogedig go iawn a byddwch yn ennill cyflog go iawn ac yn cael siec cyflog bob mis am ei wneud! Mae prentisiaid yn ennill isafswm cyflog yn seiliedig ar eu hoedran, gyda rhai cyflogwyr yn cynnig mwy na’r isafswm cyflog cenedlaethol, yn ogystal â manteision eraill, megis gwyliau blynyddol â thâl.

4. Dringo’r ysgol yrfa

Drwy ddewis mynd ar drywydd prentisiaeth, byddwch yn dysgu yn y gwaith ac, felly, bydd gennych fantais ar ddechrau eich gyrfa. Byddwch yn camu ar yr ysgol yrfa flynyddoedd cyn graddedigion prifysgol, felly, gallwch ddechrau ennill a symud ymlaen yn gyflymach. Gyda’r holl brofiad hwnnw gennych, byddwch yn dod yn arbenigwr yn eich crefft a bydd cyfleoedd i chi ddringo’r ysgol yrfa a symud ymlaen yn gyflym. At hyn, mae llawer o gwmnïau’n hyfforddi prentisiaid yn weithwyr iddynt i’r dyfodol, gan greu rôl iddynt unwaith y byddant yn cwblhau eu cymhwyster!

5. Canfod amrywiaeth o yrfaoedd

Mae gennym brentisiaid yn gweithio mewn pob math o ddiwydiannau yng Ngholeg Gwent. Oeddech chi’n gwybod y gallech chi gael prentisiaeth mewn lletygarwch ac arlwyo? Nid opsiwn i’r meysydd adeiladu’n unig mohono, gan fod prentisiaethau ar gael, mewn gwirionedd, ar draws llawer o sectorau nad ydych efallai wedi’u sylweddoli o’r blaen. Mae amrywiaeth o bynciau y gallwch edrych arnynt, o osod brics i gyfrifiadura, a lletygarwch i ofal iechyd – felly mae’n llwybr gwych i ystod eang o yrfaoedd. Mae ein prentisiaid yn gweithio gyda chymysgedd cyffrous o gyflogwyr ar draws gwahanol ddiwydiannau, o Stately Albion a BAE Systems, i Blaenau Gwent County Borough Council, Aneurin Bevan University Health Board a 2 Sisters Food Group.

Dyma’r hyn y mae ein prentisiaid yn ei ddweud

Gyda’r holl resymau gwych hyn i ddewis prentisiaeth, beth am glywed yr hyn sydd gan ein prentisiaid yng Ngholeg Gwent i’w ddweud…

Coleg Gwent apprentices

“Byddwn yn argymell prentisiaeth yn fawr i rywun sydd newydd adael yr ysgol, yn eu harddegau, neu ar ddechrau eu hugeiniau. Gallwch roi hwb i yrfa newydd ac yna symud ymlaen o’r fan honno.”

Jaden Richards, Diploma Lefel 2 NVQ mewn Saernïo a Weldio

“Mae fy mab ieuengaf yn y coleg nawr yn gwneud ei ail flwyddyn ac roedd wedi synnu braidd fy mod yn mynd i’r coleg hefyd. ‘Dwyt ti byth yn rhy hen i ddysgu’ meddais ac mae hyn yn profi, os rhowch eich meddwl ar rywbeth, gallwch wneud unrhyw beth!”

Paula Flook, Diploma Lefel 2 NVQ Coginio Proffesiynol

“Dewisais brentisiaeth oherwydd ei fod yn brofiad mwy ymarferol ac rwy’n ei chael hi’n haws dysgu pan fydda i’n gwneud yr hyn maen nhw’n ceisio ei ddysgu i mi.”

Jade Parry, Diploma Lefel 3 NVQ Cynnal a Chadw Peirianneg Estynedig (Trydanol) EAL

“Mae cymaint o fanteision – rydw i wedi bod ar lawer o gyrsiau, wedi cael llawer o brofiad yn y diwydiant ac wedi cwrdd â llawer o weithwyr proffesiynol sy’n arbenigwyr yn eu maes. Mae’n rhywbeth na allwn ei gael wrth fynd ar unrhyw lwybr arall – rwyf wedi cael pedair blynedd o brofiad mewn diwydiant a gallaf ddefnyddio’r hyn rwy’n ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth ar y safle.”

Tom Burgess, Diploma Lefel 3 NVQ mewn Technolegau Peirianneg

Os credwch mai prentisiaeth, o bosib, fyddai’r llwybr cywir i chi a bod eisiau gwybod mwy arnoch, cysylltwch â ni heddiw i edrych ar eich opsiynau yn brentis yng Ngholeg Gwent.