City & Guilds Gwobr City & Guilds mewn Asesu Cyflawniadau sy'n Gysylltiedig â Galwedigaethau Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
3
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Hyfforddiant, Asesiad a Sicrhau Ansawdd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Os oes angen i chi asesu gwybodaeth a/neu sgiliau mewn meysydd pwnc cysylltiedig â galwedigaethau, ar gyfer cymhwyster neu fel arall, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i wella eich defnydd o amryw ddulliau, gan gynnwys asesiadau mewn amgylcheddau efelychiedig, profion sgiliau, cwestiynau llafar ac ysgrifenedig, aseiniadau, prosiectau ac astudiaethau achos. Mae'r cwrs yn debyg iawn i’r cwrs y cyfeiriwyd ato fel Dyfarniad D32/33 neu A1.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un sy'n asesu ymgeiswyr mewn gweithdai hyfforddiant, ystafelloedd dosbarth neu amgylcheddau dysgu eraill.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu a gwella eu sgiliau asesu wrth ennill cymhwyster proffesiynol. Fe'i ddatblygwyd ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio yn y meysydd dysgu achrededig a dysgu heb ei achredu, yr NQF a'r FfCCh.
Bydd dysgwyr yn ymgymryd ag un uned theori sy'n ystyried eu gwybodaeth o egwyddorion ac arferion asesu ac un uned ymarferol sy'n ymdrin â pha mor dda y maent yn asesu cyflawniadau galwedigaethol pobl eraill. Bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd ar gyfer dau ddysgwr go iawn ar ddau achlysur yn erbyn safonau/meini prawf cymeradwy.
Ar gyfartaledd, mae'r cymhwyster hwn yn cymryd hyd at 6 mis ac yn cael ei asesu drwy gyfuniad o bortffolio - bydd angen i ddysgwyr ddarparu tystiolaeth i brofi bod y cymhwysedd ganddynt i fodloni safonau'r NVQ; a thrwy arsylwi - mae'r aseswr yn profi eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u perfformiad i sicrhau eu bod yn gallu dangos cymhwysedd mewn asesu.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
BCEM0013AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.