En

VTCT VTCT Therapi Harddwch (Technegol) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gyfwerth/profiad gwaith a gradd C neu’n uwch mewn TGAU Saesneg.

Yn gryno

Mae’r Diploma Technegol Lefel 3 VTCT mewn Therapi Harddwch yn gymhwyster uwch a sector-benodol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch ac yn eich cefnogi i ennill gwaith.

Dyma'r cwrs i chi os...

... ydych wedi cymhwyso mewn Therapi Harddwch ar Lefel 2

... ydych am ddatblygu gwybodaeth arbenigol

... ydych chi'n gweithio'n galed ac mae gennych bersonoliaeth gyfeillgar

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cymhwyster hwn yn gymhwyster technegol uwch sydd wedi'i ddatblygu ar y cyd â chyflogwyr, cymdeithasau proffesiynol a chyrff masnach i osod y safon a'r cynnwys. Mae'r cymhwyster hefyd wedi cael ei lywio gan brofiad WorldSkills International sy'n ganolfan fyd-eang ar gyfer rhagoriaeth a datblygiad sgiliau

Bydd y cymhwyster cyffredinol yn cael ei raddio fel Pas, Teilyngdod, Rhagoriaeth a Rhagoriaeth*

 

Mae'r unedau y byddwch yn ymdrin â nhw ar y cwrs hwn yn cynnwys:

  • Gwyddoniaeth Drydanol
  • Triniaethau trydanol i'r wyneb
  • Triniaethau trydanol i'r corff
  • Dadansoddi’r Corff
  • Dadansoddi’r Croen
  • Therapi Tylino Swedaidd 
  • Tylino Mecanyddol
  • Gwelliannau Ewinedd a Thechnegau Celf Ewinedd Llaw Uwch
  • Technegau lliw haul i’r croen
  • Gofal Cwsmeriaid
  • Iechyd a Diogelwch
  • Anatomeg a Ffisioleg

Byddwch yn dysgu drwy:

  • Ddosbarthiadau theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg wrth weithio ar gleientiaid
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Gwaith grŵp
  • Lleoliad gwaith - naill ai bob wythnos neu ar floc

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn:

  • Cystadlaethau o fewn y coleg
  • Ysbrydoli Sgiliau Cymru a'r DU/World Skills
  • Diwrnodau sba
  • Arddangosiadau diwydiant ar driniaeth laser/IPL
  • Ymweliadau a theithiau i arbenigwyr yn y diwydiant
  • Rolau goruchwylio yn yr adran a rheoli colofnau therapyddion

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys asesiadau mewnol ac allanol gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, asesiadau ymarferol, portffolio o driniaeth ac arholiadau ymarferol. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn ennill:

  • Diploma Lefel 3 VTCT mewn Therapi Harddwch (Technegol)
  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael mynediad at y cwrs hwn, bydd angen Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch neu gyfwerth/profiad gwaith a gradd C neu’n uwch mewn TGAU Saesneg.

Rhaid i chi fod yn hunan-ysgogol, yn weithgar ac yn meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar. Cynhelir pob dosbarth ar y campws a bydd un noson yr wythnos lle mae'n bosib y bydd gofyn i chi fynychu'r coleg tan 7.30yh.

Mae profiad sy’n gysylltiedig â’r gwaith yn rhan orfodol o'r cwrs, ac mae hyn yn cynnwys lleoliadau gwaith a gweithio ar gleientiaid yng nghlinigau harddwch y campws. Presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yw un o brif ofynion y cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwch yn gallu symud ymlaen i'r cyrsiau canlynol ar ôl cwblhau Therapi Harddwch Lefel 3 yn llwyddiannus. Bydd gan rai cyrsiau ofynion mynediad ychwanegol ond bydd y rhain yn cael eu trafod gyda chi pan fyddwch yn barod i wneud cais:

  • Diploma Lefel 3 mewn Therapïau Cyflenwol a Sba neu’r Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Gofal Iechyd Cyflenwol
  • Tystysgrif Lefel 4 mewn Estheteg (Plicio Croen, Nodwyddo Croen, Dermaplanio (Dermaplaning) a Micro-lafnio (Micro-blading) ar gyfer Aeliau)
  • Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Colur Theatrig a'r Cyfryngau
  • Cyflogaeth yn y diwydiant harddwch

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod gwisg:

  • Gwisg y mae'n rhaid ei gwisgo ar gyfer pob sesiwn ymarferol. Mae hwn yn ofyniad gorfodol
  • Rhaid clymu gwallt yn ôl yn daclus i ffwrdd o’r wyneb 
  • Dim tyllu corff
  • Ni ellir gwisgo unrhyw emwaith heblaw modrwy briodas yn y salon

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy, a fydd yn costio tua £198.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Ar gyfer 2023/2024 bydd y coleg yn ariannu’r gost o un wisg salon lawn. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2023/2024 yw £45.

Gallai costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu ac maent yn amodol ar newid.

Ble alla i astudio VTCT VTCT Therapi Harddwch (Technegol) Lefel 3?

CFDI0639AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr