En

AAT Uned Cyfrifeg Rheolaeth Gymhwysol Lefel 4

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
07 Ionawr 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Hyd

Hyd
12 wythnos

Yn gryno

Mae'r Diploma AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg Broffesiynol yn sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl ar gyfer cyflogaeth o fewn cyd-destun cyfrifeg ehangach. Mae'r cwrs hwn yn ei gyfanrwydd yn cwmpasu pynciau a thasgau cyfrifyddu a chyllida ar lefel uchel.

 Rydych chi’n prynu uned Cyfrifeg Rheolaeth Gymhwysol sy’n rhan o gwrs AAT Lefel 4 Diploma mewn Cyfrifeg Broffesiynol. Bydd yr uned hon yn eich galluogi chi i ddeall y broses gyllidebol. Bydd modd i chi greu cyllidebau a nodi ac adrodd ar y meysydd llwyddiannus a’r meysydd o bryder i randdeiliaid allweddol. Hefyd, byddwch chi’n ennill y sgiliau angenrheidiol ar gyfer cynnal gwerthusiad beirniadol o berfformiad sefydliadol.

Byddwch chi’n dysgu’r wybodaeth a’r sgiliau ar draws ystod o systemau a fydd yn helpu i wella amgylchedd rheolaeth y sefydliad. Bydd gwerthfawrogi bod nifer o ddulliau a deall sut a phryd mae’n briodol i’w defnyddio yn eich galluogi chi i gynghori busnes ar ystod o sefyllfaoedd.

Byddwch chi hefyd yn ennill gwerthfawrogiad o’r dulliau a ddefyddir i ymdrin â’r materion sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau tymor byr a hirdymor. Mae’n hanfodol bwysig eich bod chi’n deall y gwahaniaeth rhwng yr heriau gwahanol a’r ansicrwydd rhwng y ddwy fath o wneud penderfyniadau. Trwy werthfawrogi ac ymgorffori’r gwahaniaethau hynny yn rhan o’r dadansoddiad a luniwyd, gall cyfrifydd rheolaeth ystyried ei hun yn rhan annatod o’r broses gwneud penderfyniadau.

Mae hwn yn gwrs ‘rholio-ymlaen / rholio i ffwrdd’ gyda dyddiadau cychwyn hyblyg. Rydym yn recriwtio myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.

Mae hwn hefyd yn gwrs dysgu cyfunol (cymysgedd o wyneb yn wyneb traddodiadol gydag athro mewn ystafell ddosbarth a gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio technolegau digidol o gartref).

Mae'r cwrs hwn yn symud ymlaen ymhellach o Ddiploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg a bydd yn eich galluogi i ennill sgiliau pellach i symud ymlaen o fewn y maes cyfrifeg.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Ydych wedi cwblhau'r Diploma Uwch AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus ac eisiau parhau i feithrin eich sgiliau cyfrifyddu.

... Ydych chi am fynd ymlaen i ddod yn aelod llawn yr AAT a / neu fynd ymlaen i astudio am statws cyfrifydd siartredig.

... Ydych chi am gychwyn eich busnes eich hun drwy gynllun aelodau trwyddedig yr AAT.

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn gwella'r sgiliau a ddatblygwyd gennych o Ddiploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg ac yn ennill sgiliau cyfrifyddu a chyllid proffesiynol gydol oes, gan eich galluogi i fanteisio i'r eithaf ar eich cyfleoedd yn eich gyrfa gyfrifyddu.

Mae gan yr AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg dair uned orfodol:

  • Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol – byddwch yn dysgu am ddrafftio datganiadau ariannol ar gyfer endidau sengl a safonau cyfrifyddu perthnasol a chyfuno cwmnïau cyfyngedig. Byddwch hefyd yn ennill y sgiliau i ddehongli'r datganiadau ariannol, trwy ddefnyddio dadansoddi cymhareb.
  • Cyfrifyddu Rheoli Cymhwysol – byddwch yn dysgu sut i weithredu prosesau cynllunio sefydliadol o fewn sefydliad, yn defnyddio prosesau mewnol i wella rheolaeth weithredol, a thechnegau i wneud penderfyniadau tymor byr a hirdymor.
  • Systemau a Rheolaethau Cyfrifo Mewnol – Byddwch yn dangos eich dealltwriaeth drwy werthuso rheolaethau mewnol a systemau cyfrifo o fewn sefydliad, ac yn gwneud argymhellion ar unrhyw wendidau a ddarganfyddwch.

Trwy gyflwyno cais yma, rydych chi’n prynu uned Cyfrifeg Rheolaeth Gymhwysol. Hefyd, bydd angen i chi brynu uned Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol ar gyfer Cwmnïau Cyfyngedig ac uned Systemau a Rheoliadau Cyfrifyddu Mewnol i gwblhau pob un o’r unedau craidd ar gyfer cymhwyster AAT Lefel 4.

Mae gan yr AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg dair uned orfodol:

  • Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol – byddwch yn dysgu am ddrafftio datganiadau ariannol ar gyfer endidau sengl a safonau cyfrifyddu perthnasol a chyfuno cwmnïau cyfyngedig. Byddwch hefyd yn ennill y sgiliau i ddehongli'r datganiadau ariannol, trwy ddefnyddio dadansoddi cymhareb.
  • Cyfrifyddu Rheoli Cymhwysol – byddwch yn dysgu sut i weithredu prosesau cynllunio sefydliadol o fewn sefydliad, yn defnyddio prosesau mewnol i wella rheolaeth weithredol, a thechnegau i wneud penderfyniadau tymor byr a hirdymor. · Systemau a Rheolaethau Cyfrifo Mewnol – Byddwch yn dangos eich dealltwriaeth drwy werthuso rheolaethau mewnol a systemau cyfrifo o fewn sefydliad, ac yn gwneud argymhellion ar unrhyw wendidau a ddarganfyddwch.

Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 4 mewn Cyfrifeg, bydd angen i chi gwblhau pob un o'r pedwar modiwl uchod, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.

Gofynion Mynediad

I gael eich ystyried ar gyfer y cwrs hwn, mae angen i chi fod wedi cwblhau Diploma Uwch Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg neu gymhwyster cyfatebol yn llwyddiannus.

Os nad ydych yn siŵr ai dyma'r lefel gywir i chi, ewch i aat.org.uk lle byddwch yn gallu cwblhau prawf wirio sgiliau’r AAT neu sicrhau eich bod yn dechrau ar y lefel gywir.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, ac ar ôl bodloni meini prawf yr AAT, gallwch wneud cais am aelodaeth AAT lawn a fydd yn eich galluogi i ddefnyddio'r llythrennau dynodi MAAT ar ôl eich enw.

Fodd bynnag, canlyniad sylfaenol a phwysicaf Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Broffesiynol yw’r potensial i arwain at amrywiaeth eang o swyddi mewn cyfrifeg a chyllid sy'n talu'n dda, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys:

 

  • Technegydd Cyfrifyddu Proffesiynol
  • Archwilydd Cynorthwyol
  • Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyol
  • Dadansoddwr Masnachol
  • Rheolwr y Gyflogres
  • Uwch Geidwad Llyfrau
  • Uwch Swyddog Ariannol
  • Goruchwyliwr Cyfrifon Taliadwy a Threuliau
  • Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol
  • Cyfrifydd Costau
  • Cyfrifydd Asedau Sefydlog
  • Rheolwr Treth Anuniongyrchol
  • Rheolwr Taliadau a Bilio
  • Uwch Gyfrifydd y Gronfa
  • Uwch Weinyddwr Ansolfedd
  • Cyfrifydd TAW

Bydd cwblhau'r cwrs hwn hefyd yn eich cynnig llwybr cyflym at statws cyfrifydd siartredig gan y bydd yr AAT yn rhoi eithriadau hael o holl gyrff siartredig ac ardystiedig y DU i chi.

 

Costau eraill:

Llyfrau tua £30 y modiwl

Cofrestriad AAT (yn daladwy i’r AAT) £240

Ble alla i astudio AAT Uned Cyfrifeg Rheolaeth Gymhwysol Lefel 4?

NCDI0077DB
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 07 Ionawr 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr