En

AAT Uned Ymwybyddiaeth Busnes Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£458.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
17:00

Hyd

Hyd
7 wythnos

Yn gryno

Mae Diploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnig hyfforddiant technegol mewn cyfrifeg ac mae’n ddelfrydol i unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg cyllid.

Yr uned byddwch yn ei phrynu yma yw uned Ymwybyddiaeth Busnes y Diploma lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg.

Bydd yr uned hon yn darparu dealltwriaeth o’r busnes, ei amgylchedd a'r dylanwad y mae hyn yn ei gael ar strwythur sefydliad, a rôl a pherfformiad ei swyddogaeth gyfrifyddu. Byddwch yn archwilio’r dibenion a’r mathau o fusnesau sy’n bodoli, a hawliau a chyfrifoldebau rhanddeiliaid allweddol. Byddwch yn dysgu beth yw'r amgylcheddau micro- a macro-economaidd a'r effaith a dylanwad y gall newidiadau yn yr amgylcheddau hyn eu cael ar berfformiad a phenderfyniadau. Bydd hyn yn cynnwys dealltwriaeth o’r gyfraith fusnes sylfaenol sy’n ymwneud â pharatoi datganiadau ariannol ar gyfer gwahanol fathau o endidau. Byddwch yn dysgu cysyniadau risg, mathau o risg a rheoli risg ar gyfer busnes.

Byddwch yn dod i ddeall y pwysigrwydd o foeseg broffesiynol a rheolaeth foesegol, a sut mae'r swyddogaeth gyllid yn rhyngweithio â swyddogaethau busnes allweddol eraill i wella effeithlonrwydd gweithredol. Byddwch yn dysgu egwyddorion i ddadansoddi a barnu sefyllfaoedd moesegol a allai godi yn y gweithle. Byddwch hefyd yn deall sut mae gweithredu’n foesegol yn deillio o werthoedd personol a sefydliadol craidd, yn ogystal â’r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol ar gyfer gwrth-wyngalchu arian.

Mae rôl y cyfrifydd yn newid. Ysgogir y newid hwn yn arbennig gan dechnolegau sy’n dod i’r amlwg, felly byddwch yn dysgu am y mathau o newidiadau technolegol sy’n effeithio ar y proffesiwn cyfrifyddu ac yr effaith y mae’r rhain yn ei gael ar berfformiad, dadansoddi data a phrosesau cyfrifyddu. Sgil bwysig i gyfrifwyr yw’r gallu i ddadansoddi, deall a dehongli gwybodaeth a gesglir ac a gyfathrebir mewn fformatau gwahanol. Byddwch yn dod i ddeall y defnydd a’r effaith o ddata mawr, a nodweddion allweddol ‘blockchain’, deallusrwydd artiffisial (AI) a chyfrifyddu cwmwl. Byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddelweddu a dehongli data i gefnogi dealltwriaeth a gwneud penderfyniadau ar gyfer busnesau.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

… Ydych wedi cwblhau Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg

… Ydych am ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ym maes cyfrifeg

… Ydych am weithio mewn lleoliad cyfrifeg

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn gwella ar y sgiliau a wnaethoch eu datblygu o Dystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg ac yn ennill amrywiaeth o sgiliau cyfrifyddu hanfodol a chymhleth, gan gynnwys cynnal cofnodion cyfrifyddu costau a pharatoi adroddiadau a ffurflenni.

Mae'r Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnwys pedair uned orfodol

  • Ymwybyddiaeth Busnes – Byddwch yn dysgu am wahanol fathau o fusnesau, strwythurau, dulliau llywodraethu, a’r fframwaith cyfreithiol y maent yn gweithredu ynddo ac effaith yr amgylchedd micro a macro-economaidd
  • Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol* - Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso’r egwyddorion o gadw cyfrifon cofnod dwbl uwch, caffael a gwaredu asedau anghyfredol. Byddwch yn paratoi cyfrifiadau dibrisiant, addasiadau diwedd cyfnod ac yn cynhyrchu balans prawf estynedig.
  • Technegau Cyfrifo Rheolaeth - Byddwch yn dod i ddeall y pwrpas a’r defnydd o gyfrifo rheolaeth ac yn dysgu'r technegau costio a thaenlen sy’n angenrheidiol ar gyfer sefydliadau, yn ogystal â'r egwyddorion y tu ôl i reoli arian parod.
  • Prosesau Treth ar gyfer Busnes* - Byddwch yn archwilio ac yn cymhwyso gofynion y ddeddfwriaeth ar TAW, yn cyfrifo TAW, yn adolygu a dilysu’r broses o wneud ffurflenni treth yn ddigidol (MTD), yn dod i ddeall egwyddorion y gyflogres, ac yn astudio’r goblygiadau o wneud gwallau, ffeilio a thalu’n hwyr, a sut i adrodd am wybodaeth sy’n ymwneud â TAW.

Trwy ymgeisio am hyn, byddwch yn prynu modiwl Ymwybyddiaeth Busnes.

Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cyfrifeg, bydd angen i chi gwblhau pob un o'r pedwar modiwl uchod, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.

*Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cadw Cyfrifon, bydd angen i chi gwblhau’r ddau fodiwl gyda *, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.

Gofynion Mynediad

  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg

neu

  • Cyfweliad gyda'r tiwtor os nad oes gennych yr uchod

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cwrs hwn yn rhedeg ar:

Ddydd Llun 9yb tan 5yh (rhannol yn y dosbarth ac yn rhannol ar-lein).

Neu

Ddydd Llun 5yh tan 6yh a dydd Mawrth 6yh tan 9yh (yn rhannol yn y dosbarth ac yn rhannol ar-lein).

Ar ôl cwblhau Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus gallwch fynd ymlaen at Ddiploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg y gallwch ei wneud yn llawn amser neu'n rhan-amser yn Coleg Gwent. Ar ôl ei gwblhau gallwch ymgymryd â rôl mewn cyllid.

Ar ôl cwblhau Lefel 3 mewn Cadw Cyfrifon yn llwyddiannus gallwch fynd ymlaen at AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg drwy gwblhau'r ddwy uned ychwanegol - Ymwybyddiaeth Busnes a Thechnegau Cyfrifo Rheolaeth, naill ai fel dysgwr rhan-amser neu ddysgwr llawn amser.

Costau eraill:

Llyfrau tua £30 y modiwl

Cofrestriad AAT (yn daladwy i AAT) £240

Mae hwn yn gwrs ‘rholio-ymlaen / rholio i ffwrdd’ gyda dyddiadau cychwyn hyblyg. Rydym yn recriwtio myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.

Mae hwn hefyd yn gwrs dysgu cyfunol (cymysgedd o wyneb yn wyneb gydag athro mewn ystafell ddosbarth traddodiadol a gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio technolegau digidol o gartref).

Ble alla i astudio AAT Uned Ymwybyddiaeth Busnes Lefel 3?

NCDI0066DA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr