En

CACHE Tystysgrif ar gyfer Uwch Ymarferwyr mewn Ysgolion a Cholegau Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£465.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
11 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
16:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:30

Hyd

Hyd
32 wythnos

Yn gryno

Dyma'r Dystysgrif NCFE CAHCE L4 ar gyfer Uwch Ymarferwyr mewn Ysgolion a Cholegau.

Nod y cymhwyster yw darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol i ymarferwyr sy'n rhan o'r gweithlu mewn ysgolion a cholegau. Bydd y cymhwyster hwn yn cyfoethogi'ch profiad, gwybodaeth brofedig a'ch sgiliau mewn amgylchedd addysgu a dysgu. Bydd yn eich herio chi o ran ymarfer dydd i ddydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol.

Bydd y cwrs yn eich helpu chi i feithrin ac i ddefnyddio sgiliau arwain, mentora, hyfforddi a myfyrio wrth i chi fynd ati i gwblhau cymhwyster drwy gyfleoedd dysgu'n seiliedig ar waith.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... y rheiny sy'n gweithio mewn swyddi addas mewn ysgolion neu golegau. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr, sy'n dod o weithio mewn ysgolion a cholegau, yn ofyniad ar gyfer y cymhwyster Datblygiad Proffesiynol Parhaus hwn.

...y rheiny sydd eisoes yn gweithio mewn amgylchedd perthnasol, megis ysgol neu goleg.

...y rheiny sy'n frwd ac yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau drwy unedau a addysgir ac astudiaeth hunan ddarparu.

Cynnwys y cwrs

Mae gan y cymhwyster hwn fwy na 5 uned orfodol ac fe'u hastudir yn ystod y cwrs. Disgwylir i chi gwblhau'r 5 uned hon yn llwyddiannus cyn i'r cwrs ddod i ben. Yr unedau yw:

  1. Cefnogi unigolion i ddysgu
  2. Deall sut i gefnogi plant a phobl ifanc i wella'u hiechyd meddwl a'u llesiant
  3. Gweithio gydag eraill i gefnogi unigolion gydag anghenion/anableddau mewn ysgol neu goleg
  4. Gweithio gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill mewn ysgol neu goleg
  5. Creu newid mewn ysgol neu goleg

Asesir yr unedau'n fewnol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau all gynnwys:

  • Arsylwadau uniongyrchol gan diwtor/athro neu asesydd o fewn y gweithle
  • Aseiniadau ysgrifenedig a thrafodaeth broffesiynol yn unol â'r asesiad dysgu a neilltuir ar gyfer pob uned.

Ar ôl cwblhau'r cymhwyster, byddwch yn Uwch Ymarferydd. Bydd Uwch Ymarferydd yn defnyddio sgiliau arwain hollbwysig i fentora eraill sydd â swyddi a chyfrifoldebau gwahanol yng ngweithlu'r ysgol neu goleg, megis:

  • Ymarferydd Lefel Uwch/Cymhorthydd Dysgu
  • Dilyniant mewnol ar lefel uwch, yn cynnwys y rheiny gyda chyfrifoldebau rheoli
  • Cyfleoedd arwain, mentora, goruchwylio a rheoli

Gofynion Mynediad

Mae'n rhaid i chi fod yn o leiaf 18 oed, ac yn cael eich cyflogi mewn swydd addas o fewn ysgol neu goleg. Mae astudiaeth flaenorol ar lefel 3 yn fantais amlwg, ond mae cyfoeth o brofiad, gwybodaeth a dealltwriaeth o weithio mewn ysgolion a cholegau'n ofyniad ar gyfer y cymhwyster Datblygiad Proffesiynol Parhau hwn. Bydd Coleg Gwent yn gallu cynnig cyngor cynnil i chi mewn perthynas â'ch addasrwydd i gael dilyn y cymhwyster.

Bydd angen i chi fod yn ymroddedig i sicrhau arfer gorau a gallu dangos hyn yn y gweithle ac mewn coleg.

Disgwylir i chi gyflawni presenoldeb 100% yn eich sesiynau trefnedig, a gweithio at derfynau amser fel y nodwyd yn yr amserlen asesu.

Gofynnir eich bod wedi pasio gwiriadau DBS.

Ble alla i astudio CACHE Tystysgrif ar gyfer Uwch Ymarferwyr mewn Ysgolion a Cholegau Lefel 4?

NCCE3573AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 11 Medi 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr