YMCA Tystysgrif Ddwys mewn Hyfforddi Ffitrwydd - Unedau Gorfodol Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
I'w gadarnhau
Dyddiad Cychwyn
10 Mai 2025
Dydd Sadwrn a Dydd Sul
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
15:30
Hyd
5 wythnos
Yn gryno
Nod y cymhwyster dwys hwn yw galluogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau er mwyn iddynt allu ymgysylltu â chleientiaid, eu hwyluso, eu haddysgu a'u cefnogi yn y gampfa neu mewn amgylchedd clwb iechyd. Wedi cwblhau'r cymhwyster hwn bydd dysgwyr yn gallu ymgeisio am swyddi Hyfforddwr Campfa.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unigolion sy'n awyddus dechrau ar eu llwybr yn y diwydiant ffitrwydd
... unigolion sydd eisiau gweithio fel hyfforddwr yng nghyd-destun ymarfer corff yn y gampfa, ymarfer corff i gerddoriaeth neu hyfforddi ymarfer corff grwp.
... unrhyw un sydd â diddordeb brwd mewn iechyd a ffitrwydd.
Cynnwys y cwrs
Mae 5 uned yn y cwrs hwn ac mae unedau 1-3 yn orfodol. (Mae’r cwrs hwn wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol (CIMSPA).)
- Anatomi a ffisioleg
- Darparu profiad cwsmer cadarnhaol yn yr amgylchedd ymarfer corff
- Rheoli Ffordd o Fyw ac Ymwybyddiaeth Iechyd
- Paratoi a chynllunio rhaglenni ar gyfer y gampfa
- Cyfarwyddyd proffesiynol a chyflwyno rhaglenni ar gyfer y gampfa
Mae'r unedau ymarferol yn cynnwys:
- Sut i gynnal iechyd, diogelwch a lles mewn amryw o amgylcheddau ffitrwydd
- Sut i raglennu ymarfer corff effeithiol a diogel ar gyfer ystod o gleientiaid, buddion iechyd a gweithgaredd corfforol a phwysigrwydd bwyta'n iach
- Sut i gyfathrebu gyda chleientiaid yn effeithiol ac annog cleientiaid i lynu wrth raglen ymarfer corff
- Y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gynllunio a pharatoi rhaglenni ymarfer corff yn y gampfa
Asesiad: Mae hwn yn gwrs damcaniaethol ac ymarferol dwys a fydd yn cael ei asesu drwy arholiad amlddewis, asesiad Y-mark llyfr agored ar-lein, asesiad llyfr gwaith ac asesiad ymarferol.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd angen i ddysgwyr gael diddordeb brwd mewn gweithgareddau ffitrwydd; mae cyfranogiad ymarferol yn hanfodol. Rhaid i chi fod yn 19 oed neu'n hyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl y cwrs hwn gallech gymryd yr Hyfforddiant Personol Lefel 3 yn llawn neu ran amser; Beicio/Ymarfer Corff Grŵp Lefel 2 i Gerddoriaeth/Ymarfer Corff a gweithgaredd corfforol i blant/Hyfforddi Sesiynau Cylchdaith; neu gael gwaith yn y diwydiant ffitrwydd.
UCCE2126AD
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 10 Mai 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr